CÂN 139
Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd
-
1. Ti’n gweld dy hun? Dwi’n gweld fy hun
Mewn newydd fyd, pawb yn glyd a chytûn.
Dychmyga nawr cael byw yn hir
A theimlo heddwch ein daear ir.
Ni fydd rhai drwg mewn unrhyw fan,
Dan Deyrnas Dduw cawn ni ddaear lân.
Bydd geiriau o foliant yn ffrydio o’n bron,
A chanwn yn llawen
i Dduw y fawlgan hon:
(CYTGAN)
“Jehofa ein Duw, mawr ddiolch i ti
A’th Fab am greu’r newydd fyd hwn i ni.
Gorlifo o’n calonnau mae diolch ein cân.
Gogoniant a moliant i Dduw! Haleliwia!”
-
2. Ti’n gweld dy hun, a ni i gyd?
Ti’n gweld mor hyfryd yw harddwch ein byd?
Dim wylo mwy, na galar chwaith,
I’w llawnder, daear baradwys ddaeth.
Yn ddibynadwy ac yn wir
Yw’r llais o’r nef, d’wedodd ef yn glir:
“Yn sychu pob deigryn o’u llygaid bydd Duw.”
A deffro wna’r meirw—
Gorfoledd mawr a glywn:
(CYTGAN)
“Jehofa ein Duw, mawr ddiolch i ti
A’th Fab am greu’r newydd fyd hwn i ni.
Gorlifo o’n calonnau mae diolch ein cân.
Gogoniant a moliant i Dduw! Haleliwia!”
(Gweler hefyd Salm 37:10, 11; Esei. 65:17; Ioan 5:28; 2 Pedr 3:13.)