CÂN 142
Dal Ein Gafael yn Ein Gobaith
-
1. Chwilio yn ofer mae dynion am atebion,
Rhoddant eu hyder yng ngallu eiddil ddyn.
Cwbl di-fudd yw rhoi ffydd yn eu doethion—
Maen nhw yn ceisio rheoli’r gwynt.
(CYTGAN)
Canwn yn llon, Crist yn Frenin nawr yw!
Yn lleddfu ein pryder y mae Teyrnas Dduw.
Buan cawn ddaear o hedd i’w mwynhau.
Â’n gobaith, fel angor, gwnawn ddyfalbarhau.
-
2. Gwaeddwch! Rhowch rybudd! Mae’n rhaid i bobl glywed:
‘Dydd mawr yr Arglwydd—mae’n agos, ar fin dod!’
Buan diflanna holl riddfan y cread.
I’r Hollalluog, dewch, canwch glod!
(CYTGAN)
Canwn yn llon, Crist yn Frenin nawr yw!
Yn lleddfu ein pryder y mae Teyrnas Dduw.
Buan cawn ddaear o hedd i’w mwynhau.
Â’n gobaith, fel angor, gwnawn ddyfalbarhau.
(Gweler hefyd Salm 27:14; Preg. 1:14; Joel 2:1; Hab. 1:2, 3; Rhuf. 8:22.)