Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 144

Canolbwyntiwch ar y Wobr!

Canolbwyntiwch ar y Wobr!

(2 Corinthiaid 4:18)

  1. 1. Llygaid gwaelion, gwelant eto’n glir,

    Pawb a glywa’r dryw a’i nodau pur,

    Rhedeg wna y cloff fel bywiog hydd,

    A deffro’n llon a wnawn bob dydd.

    Ein hanwyliaid, dônt yn ôl yn fyw

    I baradwys lân, i fyd o liw.

    (CYTGAN)

    Canolbwyntiwch ar y wobr fawr,

    A chi gaiff ei gweld hi go iawn!

  2. 2. Bydd y blaidd yn trigo gyda’r ŵyn,

    Bydd y llo a’r llew yn byw’n gytûn,

    A chydbori wna yr arth a’r ych,

    A’r plant, chwaraeant yn eu mysg.

    Byw heb boen nac ofn wnawn yn ddi-ball,

    Duw a sych ymaith bob deigryn hallt.

    (CYTGAN)

    Canolbwyntiwch ar y wobr fawr,

    A chi gaiff ei gweld hi go iawn!

(Gweler hefyd Esei. 11:6-9; 35:5-7; Ioan 11:24.)