CÂN 145
Addewid Duw am Baradwys
-
1. Addawodd Duw y cawn baradwys,
A byw am byth mewn ffrwythlon fyd.
Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Iesu
A rydd hyn oll—O hyfryd ddydd!
(CYTGAN)
I’n daear daw paradwys ir,
Ei gweld yn glir mae llygaid ffydd.
Gwiredda Crist ’r addewid hon,
Drwy’r ddaear gron, paradwys fydd.
-
2. Addawodd Duw y bydd y meirw,
O’u cwsg, yn deffro cyn bo hir.
‘Yn wir, y byddi ym Mharadwys,’
Oedd geiriau ffyddlon Iesu Grist.
(CYTGAN)
I’n daear daw paradwys ir,
Ei gweld yn glir mae llygaid ffydd.
Gwiredda Crist ’r addewid hon,
Drwy’r ddaear gron, paradwys fydd.
-
3. Addawodd Crist y cawn baradwys—
Nawr yn y nef, ein Brenin yw.
Bob dydd rhown ddiolch o’n calonnau
Am wybod addewidion Duw.
(CYTGAN)
I’n daear daw paradwys ir,
Ei gweld yn glir mae llygaid ffydd.
Gwiredda Crist ’r addewid hon,
Drwy’r ddaear gron, paradwys fydd.
(Gweler hefyd Math. 5:5; 6:10; Ioan 5:28, 29.)