CÂN 147
Yr Addewid o Fywyd Tragwyddol
(Salm 37:29)
-
1. Addo y mae Duw Jehofa
Ddaear heddychlon a glân,
Bywyd tragwyddol llawn llonder,
Byd dibryder, heb fraw.
(CYTGAN)
Cawn fyw am byth bythoedd!
Am lu o flynyddoedd!
Gan Dduw mae’r addewid,
Triw ydyw i’w Air.
-
2. Bydd y baradwys yn berffaith,
O’n pechod cawn ein rhyddhau.
Byw gawn am byth gyda’n ffrindiau
Mewn sirioldeb di-drai.
(CYTGAN)
Cawn fyw am byth bythoedd!
Am lu o flynyddoedd!
Gan Dduw mae’r addewid,
Triw ydyw i’w Air.
-
3. Buan y daw’r atgyfodiad,
Sychu ein dagrau wna Duw.
Dan dyner ofal Jehofa,
Gorfoleddwn wrth fyw.
(CYTGAN)
Cawn fyw am byth bythoedd!
Am lu o flynyddoedd!
Gan Dduw mae’r addewid,
Triw ydyw i’w Air.
(Gweler hefyd Esei. 25:8; Luc 23:43; Ioan 11:25; Dat. 21:4.)