Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 148

Jehofa Ein Hachubwr

Jehofa Ein Hachubwr

(2 Samuel 22:1-8)

  1. 1. Toreithiog yw’th weithredoedd di, Jehofa Dduw.

    Mae’r awyr, tir, a’r môr

    yn llawn o’th gread byw.

    A oes duw all gystadlu â’th egni pur?

    Nac oes wir!

    Ti yw ffynhonnell grym.

    (CYTGAN)

    Jehofa, ein nerthol Dduw, yw’n Hachubwr.

    Mae’n graig ac yn darian i’w bobl deyrngar Ef.

    Gyda dewrder, moliannwn ein Duw

    a’i enw da.

    Ef yw’n lloches, cadernid a’n caer—

    Ein hachub wna!

  2. 2. Mae rhaffau angau’n cau yn dynn amdanaf i.

    Jehofa, gwna fi’n ddewr.

    Jehofa, clyw fy nghri.

    O’m gloes a’m galar, galw wnaf arnat ti,

    “Achub fi!”

    Hafan fy ffydd wyt ti.

    (CYTGAN)

    Jehofa, ein nerthol Dduw, yw’n Hachubwr.

    Mae’n graig ac yn darian i’w bobl deyrngar Ef.

    Gyda dewrder, moliannwn ein Duw

    a’i enw da.

    Ef yw’n lloches, cadernid a’n caer—

    Ein hachub wna!

  3. 3. O’r nef daw sŵn taranau—

    Clywiff pawb dy lais.

    D’elynion, crynu wnânt;

    Tawelu wna’r trahaus.

    Ond llawen fydd holl leisiau dy weision di.

    Dduw o fri,

    Ti yw’n Hachubwr ni!

    (CYTGAN)

    Jehofa, ein nerthol Dduw, yw’n Hachubwr.

    Mae’n graig ac yn darian i’w bobl deyrngar Ef.

    Gyda dewrder, moliannwn ein Duw

    a’i enw da.

    Ef yw’n lloches, cadernid a’n caer—

    Ein hachub wna!

(Gweler hefyd Salm 18:1, 2; 144:1, 2.)