GWERS 4
Cyflwyno’r Ysgrythurau yn Gywir
SUT I FYND ATI:
-
Meddylia am y rheswm dros ddarllen yr ysgrythur. Cyflwyna bob ysgrythur mewn ffordd a fydd yn helpu dy wrandawyr i weld y pwynt rwyt ti eisiau ei amlygu.
-
Cyfeiria at y Beibl fel awdurdod. Wrth siarad â phobl sy’n credu yn Nuw, cyfeiria at y Beibl fel Gair Duw, gan barchu’r Beibl fel ffynhonnell y doethineb uchaf.
-
Enynna ddiddordeb yn yr adnod. Gofynna gwestiwn y mae’r adnod yn ei ateb; gosod broblem y bydd yr adnod yn ei datrys, neu cyfeiria at egwyddor sydd i’w gweld yn yr hanes ysgrythurol.