Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 5

Darllen yn Gywir

Darllen yn Gywir

1 Timotheus 4:13

CRYNODEB: Darllena’n uchel yn union yr hyn sydd ar y dudalen.

SUT I FYND ATI:

  • Paratoa yn dda. Ystyria pam cafodd y darn ei ysgrifennu. Ymarfer ddarllen grwpiau o eiriau, yn hytrach na geiriau unigol. Sicrha nad wyt ti’n ychwanegu neu’n methu geiriau, nac yn dweud geiriau eraill yn eu lle. Dilyna’r atalnodi.

  • Yngana bob gair yn gywir. Os nad wyt ti’n gwybod sut i ynganu gair, gelli di edrych mewn geiriadur, gwrando ar recordiad o’r cyhoeddiad, neu ofyn am help gan ddarllenwr da.

  • Siarada yn eglur. Dyweda’r geiriau yn ofalus, gan godi dy ben ac agor dy geg yn llydan. Ceisia ynganu pob sillaf.