Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 8

Eglurebau Sy’n Dysgu

Eglurebau Sy’n Dysgu

Mathew 13:34, 35

CRYNODEB: Cyfoethoga dy ddysgu drwy ddefnyddio eglurebau syml ac apelgar sy’n esbonio’r pwyntiau pwysig.

SUT I FYND ATI:

  • Defnyddia eglurebau syml. Fel Iesu, defnyddia bethau bach i esbonio pethau mawr, a phethau hawdd i esbonio pethau anodd. Paid â chynnwys llu o fanylion diangen sy’n cymhlethu’r eglureb. Sicrha fod elfennau dy eglureb yn cyd-fynd â’r wers dan sylw fel na fyddi di’n drysu dy wrandawyr â manylion sydd ddim yn berthnasol.

  • Cadwa dy wrandawyr mewn cof. Dewisa eglurebau sy’n ymwneud â bywyd bob dydd a diddoredebau dy wrandawyr. Gofala na fydd dy eglurebau yn codi cywilydd ar neb nac yn eu pechu.

  • Dysga’r prif bwynt. Defnyddia eglurebau ar gyfer y prif bwyntiau yn hytrach na’r manylion. Sicrha y bydd dy wrandawyr yn cofio nid yn unig yr eglureb ond hefyd y wers.