Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 10

Goslef y Llais

Goslef y Llais

Mathew 10:27

CRYNODEB: Cyflwyna syniadau’n eglur a chyffwrdd â’r emosiynau drwy amrywio uchder, traw, a chyflymder y llais.

SUT I FYND ATI:

  • Amrywia uchder dy lais. Coda dy lais i bwysleisio’r prif bwyntiau ac i annog dy wrandawyr i weithredu. Gwna’r un fath wrth ddarllen ysgrythurau sy’n cynnwys barnedigaethau. Gostynga dy lais er mwyn creu disgwyliad neu i gyfleu ofn neu bryder.

  • Amrywia draw dy lais. Ceisia godi traw dy lais i gyfleu brwdfrydedd neu i awgrymu maint neu bellter. Ceisia ostwng traw dy lais i gyfleu tristwch neu bryder.

  • Amrywia gyflymder dy lais. Siarada’n gyflymach i gyfleu cyffro. Arafa wrth esbonio pwyntiau pwysig.