Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 14

Gwneud i’r Prif Bwyntiau Sefyll Allan

Gwneud i’r Prif Bwyntiau Sefyll Allan

Hebreaid 8:1

CRYNODEB: Helpa dy gynulleidfa i ddilyn trywydd dy anerchiad ac eglura sut mae pob prif bwynt yn cysylltu â nod a thema’r anerchiad.

SUT I FYND ATI:

  • Gosoda dy nod. Ystyria ai rhoi gwybodaeth, ceisio argyhoeddi, neu annog dy gynulleidfa i weithredu yw nod dy anerchiad. Datblyga’r anerchiad wedyn gan sicrhau bod pob prif bwynt yn cyfrannu at y nod hwnnw.

  • Pwysleisia thema dy anerchiad. Cyfeiria at y thema drwy gydol dy anerchiad gan ailadrodd geiriau allweddol y thema neu drwy ddefnyddio geiriau cyfystyr.

  • Cadwa’r prif bwyntiau’n glir ac yn syml. Dewisa ddim ond y prif bwyntiau sy’n berthnasol i’r thema ac y gelli di eu dysgu yn effeithiol yn yr amser penodedig. Paid â chynnwys gormod o brif bwyntiau. Dyweda’n eglur beth yw pob prif bwynt, seibia rhyngddyn nhw, a symuda’n esmwyth o un prif bwynt i’r nesaf.