Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 17

Yn Hawdd ei Ddeall

Yn Hawdd ei Ddeall

1 Corinthiaid 14:9

CRYNODEB: Helpa dy wrandawyr i ddeall dy neges.

SUT I FYND ATI:

  • Astudia’r deunydd yn ofalus. Sicrha dy fod ti’n deall y pwnc yn dda fel y byddi di’n gallu ei esbonio yn syml ac yn dy eiriau dy hun.

  • Defnyddia frawddegau byrion ac ymadroddion syml. Er bod brawddegau hirach yn dderbyniol, defnyddia frawddegau ac ymadroddion cryno i gyfleu pwyntiau allweddol.

  • Eglura dermau anghyfarwydd. Os yw’n bosib, paid â defnyddio ymadroddion na fydd dy wrandawyr yn eu deall. Os bydd rhaid iti ddefnyddio term anghyfarwydd, neu gyfeirio at gymeriad llai adnabyddus yn y Beibl, neu sôn am arferion neu fesurau hynafol, cofia roi esboniad.