Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 19

Ceisio Cyffwrdd â’r Galon

Ceisio Cyffwrdd â’r Galon

Diarhebion 3:1

CRYNODEB: Helpa dy wrandawyr i weld gwerth yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu a’i roi ar waith.

SUT I FYND ATI:

  • Helpa dy wrandawyr i feddwl am eu cymhellion. Gofynna gwestiynau rhethregol a fydd yn helpu pobl yn dy gynulleidfa i ddadansoddi eu teimladau.

  • Apelia at gymhellion da. Anoga dy wrandawyr i geisio deall pam maen nhw’n gwneud pethau da. Helpa nhw i feithrin cymhellion pur, sef cariad at Jehofa, at bobl eraill, ac at ddysgeidiaethau’r Beibl. Rhesyma â dy wrandawyr; paid â rhoi pregeth iddyn nhw. Yn hytrach na chodi cywilydd arnyn nhw, sicrha eu bod nhw’n cael eu calonogi a’u hannog i wneud eu gorau erbyn diwedd dy anerchiad.

  • Cyfeiria’r sylw at Jehofa. Dangosa sut mae’r dysgeidiaethau, yr egwyddorion, a’r gorchmynion yn y Beibl yn amlygu priodoleddau Jehofa a’i gariad tuag aton ni. Ceisia feithrin yn dy wrandawyr awydd i ystyried teimladau Jehofa a’i blesio.