Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 04

Pwy Yw Duw?

Pwy Yw Duw?

Mae pobl wedi addoli llawer o dduwiau a duwiesau bron ers y dechreuad. Ond mae’r Beibl yn cyfeirio at un Duw sy’n “fwy na’r duwiau eraill i gyd.” (2 Cronicl 2:5) Pwy yw hwnnw? A pham y mae’n fwy na phob duw arall y mae pobl yn ei addoli? Yn y wers hon, byddwn yn dysgu beth mae’r Duw hwn eisiau i chi ei wybod amdano.

1. Beth yw enw Duw, a sut gallwn ni fod yn sicr bod Duw eisiau inni wybod ei enw?

Yn y Beibl mae Duw yn cyflwyno ei hun i ni. Mae’n dweud: “Fi ydy’r ARGLWYDD [Jehofa, New World Translation], dyna fy enw i.” (Darllenwch Eseia 42:5, 8.) Cyfieithiad o enw Hebraeg yw Jehofa. Yr ystyr, mae’n debyg, ydy “Mae Ef yn Peri i Fod.” Mae Jehofa eisiau inni wybod ei enw. (Exodus 3:15) Sut gallwn ni fod yn sicr o hynny? Mae’r Beibl yn cynnwys ei enw dros 7,000 o weithiau! a Mae’r enw Jehofa yn perthyn i’r gwir Dduw sydd yn “Dduw yn y nefoedd uchod ac i lawr yma ar y ddaear.”—Deuteronomium 4:39.

2. Beth mae’r Beibl yn ei ddatgelu am Jehofa?

Mae’r Beibl yn dweud mai Jehofa yw’r unig wir Dduw ymysg yr holl dduwiau y mae pobl yn eu haddoli. Pam? Mae sawl rheswm. Jehofa yw’r awdurdod mwyaf oll, ac ef yn unig sydd “Oruchaf ar yr holl ddaear.” (Darllenwch Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.) Ef yw’r “Hollalluog,” sy’n golygu ei fod yn gallu gwneud unrhyw beth y mae’n mynnu ei wneud. Ef a “greodd bob peth”—y bydysawd a phopeth ar y ddaear. (Datguddiad 4:8, 11) Jehofa yw’r unig un sydd wedi bodoli erioed ac a fydd yn bodoli am byth.—Salm 90:2.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch fwy am y gwahaniaeth rhwng teitlau Duw a’i enw personol. Yna dysgwch sut mae Duw wedi datgelu ei enw ichi, a pham.

3. Mae gan Dduw lawer o deitlau, ond dim ond un enw

I weld y gwahaniaeth rhwng teitl rhywun a’i enw, gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

  • Beth yw’r gwahaniaeth rhwng teitl, fel “Arglwydd,” ac enw?

Mae’r Beibl yn dweud bod pobl yn addoli llawer o dduwiau ac arglwyddi. Darllenwch Salm 136:1-3, BCND ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pwy yw ‘Duw y duwiau’ ac “Arglwydd yr arglwyddi”?

4. Mae Jehofa eisiau ichi wybod ei enw a’i ddefnyddio

Beth sy’n dangos bod Jehofa eisiau ichi ddefnyddio ei enw? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

  • Ydych chi’n meddwl bod Jehofa eisiau i bobl wybod ei enw? Pam?

Mae Jehofa eisiau i bobl ddefnyddio ei enw. Darllenwch Rhufeiniaid 10:13, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pa mor bwysig ydy defnyddio enw Duw, Jehofa?

  • Sut rydych chi’n teimlo pan fydd rhywun yn cofio eich enw a’i ddefnyddio?

  • Sut mae Jehofa yn teimlo pan fyddwch chi’n defnyddio ei enw?

5. Mae Jehofa eisiau ichi nesáu ato

Dywedodd dynes o Gambodia, o’r enw Soten, mai dysgu enw Duw oedd “y teimlad gorau erioed.” Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

  • Yn y fideo, sut roedd dysgu enw Duw yn effeithio ar Soten?

Cyn ichi ddod yn ffrind i rywun, fel arfer rydych chi’n dysgu ei enw. Darllenwch Iago 4:8a, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth mae Jehofa yn eich gwahodd chi i’w wneud?

  • Sut gall gwybod a defnyddio enw Duw eich helpu chi i nesáu ato?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Dim ond un Duw sydd, felly dydy’r enw ddim yn bwysig.”

  • Ydych chi’n credu mai Jehofa yw enw Duw?

  • Sut byddech chi’n esbonio i rywun bod Duw eisiau inni ddefnyddio ei enw?

CRYNODEB

Jehofa yw enw’r unig wir Dduw. Mae eisiau inni wybod ei enw a’i ddefnyddio er mwyn nesáu ato.

Adolygu

  • Sut mae Jehofa yn wahanol i’r duwiau eraill y mae pobl yn eu haddoli?

  • Pam dylen ni ddefnyddio enw Duw?

  • Beth sy’n dangos bod Duw eisiau ichi nesáu ato?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch bum rheswm y gallwn ni fod yn sicr bod Duw yn bodoli.

“Ydy Duw yn Bod?” (Erthygl ar jw.org)

Ystyriwch pam mae’n rhesymol i gredu bod Duw wedi bodoli erioed.

“Pwy Greodd Dduw?” (Y Tŵr Gwylio, Awst 1, 2014)

Dysgwch pam dylen ni ddefnyddio enw Duw, er nad ydyn ni’n gwybod yn union sut roedd yn cael ei ynganu’n wreiddiol.

“Pwy Yw Jehofa?” (Erthygl ar jw.org)

Oes ots pa enw rydyn ni’n ei roi ar Dduw? Dysgwch pam gallwn ddweud mai dim ond un enw sydd ganddo.

“Faint o Enwau Sydd Gan Dduw?” (Erthygl ar jw.org)

a Am fyw o wybodaeth am ystyr enw Duw a pham mae rhai cyfieithiadau o’r Beibl wedi ei ddileu, gweler Cymorth i Astudio Gair Duw, tudalennau 1-5.