Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 07

Sut Un Ydy Jehofa?

Sut Un Ydy Jehofa?

Pan feddyliwch am Jehofa Dduw, pa lun sy’n dod i’ch meddwl? A yw’n llun o rywun braidd yn ddychrynllyd ac yn bell i ffwrdd, fel y sêr mewn galaeth bell? Neu ydych chi’n ei ddychmygu yn hynod o rymus ond heb bersonoliaeth, yn debyg i storm o fellt a tharanau? Sut un ydy Jehofa mewn gwirionedd? Yn ei Air y Beibl, mae Jehofa yn datgelu rhai o’i rinweddau, yn ogystal â’i ddiddordeb ynoch chi.

1. Pam na allwn ni weld Duw?

“Ysbryd ydy Duw.” (Ioan 4:24) Nid oes gan Jehofa gorff o gig a gwaed. Mae’n byw yn y nefoedd, sydd yn lle na allwn ni ei weld.

2. Beth yw rhai agweddau ar bersonoliaeth Jehofa?

Er ei fod yn anweladwy, Person go iawn ydy Jehofa. Mae ganddo rinweddau sy’n apelio’n fawr at y rhai sy’n ei adnabod. Mae’r Beibl yn dweud ei fod “yn caru beth sy’n gyfiawn, a dydy e byth yn siomi’r rhai sy’n ffyddlon iddo.” (Salm 37:28) Y mae hefyd “yn fawr ei dosturi a’i drugaredd,” yn enwedig tuag at bobl sy’n dioddef. (Iago 5:11) Mae Jehofa “yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Mae e’n achub y rhai sydd wedi anobeithio.” (Salm 34:18) A oeddech chi’n gwybod bod ein hymddygiad ni’n effeithio ar Jehofa? Mae rhywun sy’n dewis gwneud pethau drwg yn ei siomi a’i wneud yn drist. (Salm 78:40, 41) Ond mae’r rhai sy’n gwneud pethau da yn ei wneud yn hapus.—Darllenwch Diarhebion 27:11.

3. Sut mae Jehofa yn dangos ei fod yn ein caru ni?

Rhinwedd fwyaf Jehofa yw cariad. Yn wir, “cariad ydy Duw.” (1 Ioan 4:8) Mae Jehofa yn datgelu ei gariad, nid yn unig drwy’r Beibl, ond hefyd drwy’r pethau y mae wedi eu creu. (Darllenwch Actau 14:17.) Ystyriwch, er enghraifft, y ffordd y mae wedi ein creu ni. Y mae wedi rhoi inni’r gallu i weld lliwiau hardd, i glywed cerddoriaeth swynol, ac i fwynhau bwyd blasus. Y mae eisiau inni fwynhau ein bywydau.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch beth mae Jehofa yn ei ddefnyddio i wneud pethau rhyfeddol. Yna gwelwch sut mae Jehofa yn dangos ei rinweddau arbennig i ni.

4. Yr ysbryd glân—grym Duw ar waith

Fel rydyn ni’n defnyddio ein dwylo i weithio, felly y mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân. Mae’r Beibl yn dangos nad person yw’r ysbryd glân, ond grym y mae Duw yn ei ddefnyddio i gyflawni ei waith. Darllenwch Luc 11:13 ac Actau 2:17, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Bydd Duw yn “tywallt” ei ysbryd glân ar y rhai sy’n gofyn iddo. Felly, ydych chi’n meddwl mai person ydy’r ysbryd glân, neu rym Duw ar waith? Pam rydych chi’n ateb felly?

Mae Jehofa yn defnyddio ei ysbryd glân i wneud pethau rhyfeddol. Darllenwch Salm 33:6, BC, ac 2 Pedr 1:20, 21, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Ym mha ffyrdd y mae Jehofa wedi defnyddio ei ysbryd glân?

5. Mae gan Jehofa bersonoliaeth apelgar

Roedd Moses yn was ffyddlon i Dduw, ond roedd yn dymuno adnabod ei Greawdwr yn well. Felly dywedodd wrth Dduw: “Dangos i mi dy ffyrdd, er mwyn i mi dy adnabod.” (Exodus 33:13, BCND) Atebodd Jehofa drwy ddatgelu rhai o’i rinweddau iddo. Darllenwch Exodus 34:4-6, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pa agweddau ar ei bersonoliaeth a ddatgelodd Jehofa i Moses?

  • Pa un o rinweddau Jehofa sy’n apelio fwyaf atoch chi?

6. Mae Jehofa yn caru pobl

Roedd pobl Dduw, yr Hebreaid, yn gaethweision yn yr Aifft. Sut roedd Jehofa yn teimlo am eu dioddefaint? Gwrandewch ar y TRAC SAIN a dilynwch yn eich Beibl, neu darllenwch Exodus 3:1-10. Yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

  • Beth mae’r hanes hwn yn ei ddweud am sut mae Jehofa yn teimlo am ddioddefaint?—Gweler adnodau 7 ac 8.

  • Ydych chi’n meddwl bod gan Jehofa yr awydd a’r gallu i helpu pobl? Pam, neu pam ddim?

7. Mae rhinweddau Jehofa i’w gweld ym myd natur

Mae Jehofa yn datgelu ei rinweddau drwy’r pethau y mae wedi eu creu. Gwyliwch y FIDEO. Yna darllenwch Rhufeiniaid 1:20, a thrafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Pa rinweddau Jehofa rydych chi’n eu gweld yn y pethau y mae wedi eu creu?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Grym sydd ym mhobman ydy Duw, nid person.”

  • Beth rydych chi’n ei feddwl?

  • Pam rydych chi’n dweud hynny?

CRYNODEB

Ysbryd anweladwy yw Jehofa. Mae ganddo lawer o rinweddau apelgar, yn enwedig ei gariad.

Adolygu

  • Pam na allwn ni weld Jehofa?

  • Beth yw’r ysbryd glân?

  • Beth yw rhai o rinweddau Jehofa?

Nod

DARGANFOD MWY

Dysgwch fwy am Jehofa drwy edrych ar bedair o’i rinweddau arbennig.

“Sut Un Ydy Duw?” (Y Tŵr Gwylio Rhif 1 2019)

Ystyriwch dystiolaeth sy’n dangos nad ydy Jehofa yn bresennol ym mhob man.

“Ydy Duw ym Mhobman, yn Hollbresennol?” (Erthygl ar jw.org)

Gwelwch pam mae’r Beibl yn cymharu’r ysbryd glân â dwylo Duw.

“Beth Yw’r Ysbryd Glân?” (Erthygl ar jw.org)

Roedd dyn dall yn methu credu bod Duw yn ei garu. Gwelwch beth newidiodd ei feddwl.

“Bellach Dw i’n Teimlo Mod i’n Gallu Helpu Eraill” (Y Tŵr Gwylio, Hydref 1, 2015)