Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 08

Gallwch Chi Fod yn Ffrind i Jehofa

Gallwch Chi Fod yn Ffrind i Jehofa

Mae Jehofa eisiau ichi ei adnabod yn well. Pam? Mae’n gobeithio y byddwch chi eisiau bod yn ffrind iddo ar ôl ichi ddysgu am ei bersonoliaeth, ei ffyrdd, a’i bwrpas. Ond a ydy hi’n bosib ichi fod yn ffrind i Dduw? (Darllenwch Iago 2:23.) Beth gallwch chi ei wneud er mwyn dod yn ffrind i Dduw? Mae’r Beibl yn ateb y cwestiynau hynny ac yn dangos pam mai cyfeillgarwch â Jehofa yw’r berthynas bwysicaf.

1. Pa wahoddiad mae Jehofa yn ei roi i chi?

“Nesewch at Dduw ac fe fydd yntau’n nesáu atoch chi.” (Iago 4:8) Beth mae hyn yn ei feddwl? Mae Jehofa yn eich gwahodd chi i fod yn ffrind iddo. Mae’n anodd i rai ddychmygu bod yn ffrind i rywun na allan nhw ei weld, heb sôn am fod yn ffrind i Dduw. Ond yn y Beibl, mae Jehofa yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei angen er mwyn inni nesáu ato. Wrth inni ddarllen neges Duw yn y Beibl, bydd ein cyfeillgarwch â Jehofa yn tyfu, er nad ydyn ni’n ei weld.

2. Pam mai Jehofa yw’r ffrind gorau y gallwch chi ei gael?

Nid oes neb yn eich caru yn fwy nag y mae Jehofa yn eich caru chi. Mae eisiau ichi fod yn hapus a throi ato pryd bynnag mae angen help arnoch chi. Gallwch “fwrw eich holl bryder arno ef, oherwydd ei fod yn gofalu amdanoch chi.” (1 Pedr 5:7) Mae Jehofa bob amser yn barod i gefnogi, i gysuro, ac i wrando ar ei ffrindiau.—Salm 94:18, 19.

3. Beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gan ei ffrindiau?

Mae gan Jehofa gariad tuag at bawb, “ond mae ganddo berthynas glòs gyda’r rhai sy’n onest.” (Diarhebion 3:32) Mae Jehofa yn disgwyl i’w ffrindiau geisio gwneud beth sy’n dda yn ei olwg ef, ac osgoi pethau drwg. Efallai bydd rhai yn teimlo na allan nhw gyrraedd safonau Jehofa o ran da a drwg. Ond mae Jehofa yn Dduw trugarog. Y mae’n derbyn pawb sy’n Ei garu ac sy’n gwneud eu gorau glas i’w blesio.—Salm 147:11; Actau 10:34, 35.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch fwy am sut gallwch chi ddod yn ffrind i Jehofa a pham mai Ef yw’r ffrind gorau y gallwch chi ei gael.

4. Roedd Abraham yn ffrind i Jehofa

Mae hanes Abraham (a elwid hefyd yn Abram) yn rhoi cipolwg inni ar beth mae’n ei feddwl i fod yn ffrind i Dduw. Darllenwch am Abraham yn Genesis 12:1-4. Yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth gofynnodd Jehofa i Abraham ei wneud?

  • Beth addawodd Jehofa i Abraham?

  • Beth oedd ymateb Abraham i gyfarwyddiadau Jehofa?

5. Beth mae Jehofa yn ei ofyn gan ei ffrindiau?

Fel arfer, mae ’na bethau sy’n bwysig inni mewn ffrind.

  • Pa bethau rydych chi’n hoffi i’ch ffrindiau eu gwneud i chi?

Darllenwch 1 Ioan 5:3, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gan ei ffrindiau?

Er mwyn plesio Jehofa, efallai bydd yn rhaid inni newid ein hymddygiad neu ein personoliaeth. Darllenwch Eseia 48:17, 18, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam mae Jehofa yn gofyn i’w ffrindiau wneud newidiadau?

Bydd ffrind da yn ein hatgoffa ni am bethau sydd o fudd i ni ac a fydd yn ein hamddiffyn. Mae Jehofa yn gwneud yr un peth ar gyfer ei ffrindiau ef

6. Beth mae Jehofa yn ei wneud i helpu ei ffrindiau?

Mae Jehofa yn helpu ei ffrindiau i ymdopi â’u problemau. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Sut mae Jehofa wedi helpu’r ddynes yn y fideo i ymdopi â’i meddyliau negyddol a’i hemosiynau?

Darllenwch Eseia 41:10, 13, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth mae Jehofa yn addo ei wneud dros bob un o’i ffrindiau?

  • Ydych chi’n meddwl y byddai Jehofa yn Ffrind da i chi? Pam?

Bydd ffrindiau agos yno pan fydd angen help arnoch chi. Bydd Jehofa yn eich helpu chi hefyd

7. I fod yn ffrind i Jehofa mae angen cyfathrebu

Mae cyfathrebu yn cryfhau cyfeillgarwch. Darllenwch Salm 86:6, 11, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut gallwn ni gyfathrebu â Jehofa?

  • Sut mae Jehofa yn cyfathrebu â ni?

Rydyn ni’n siarad â Jehofa mewn gweddi; mae ef yn siarad â ni trwy’r Beibl

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae’n amhosib bod yn agos at Dduw.”

  • Pa adnod byddech chi’n ei defnyddio i ddangos y gallwn fod yn ffrind i Jehofa?

CRYNODEB

Mae Jehofa yn dymuno bod yn ffrind i chi ac fe fydd yn eich helpu chi i nesáu ato.

Adolygu

  • Sut mae Jehofa yn helpu ei ffrindiau?

  • Pam mae Jehofa yn gofyn i’w ffrindiau wneud newidiadau?

  • Ydych chi’n meddwl bod Jehofa yn disgwyl gormod gan ei ffrindiau? Pam, neu pam ddim?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch pam mae un ddynes yn teimlo bod ei chyfeillgarwch â Jehofa wedi achub ei bywyd.

“Doeddwn i Ddim Eisiau Marw!” (Erthygl o’r Tŵr Gwylio)

Clywch sut mae pobl yn eu harddegau yn teimlo am Jehofa.

Beth Mae’n ei Olygu i Fod yn Ffrind i Dduw? (1:46)