Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 09

Closio at Dduw Drwy Weddi

Closio at Dduw Drwy Weddi

Ydych chi’n teimlo weithiau bod angen cyngor da arnoch chi? Ydych chi’n chwilio am atebion i gwestiynau pwysig? Oes angen cysur neu dawelwch meddwl arnoch chi? Hoffech chi deimlo’n agosach at Jehofa? Bydd gweddïo yn eich helpu gyda’r pethau hyn i gyd. Ond beth ydy’r ffordd iawn inni weddïo? Ydy Duw yn gwrando ar bob gweddi? Beth gallwch chi ei wneud i sicrhau bod Duw yn gwrando ar eich gweddïau chi? Gadewch inni weld.

1. Ar bwy dylen ni weddïo, a beth gallwn ni weddïo amdano?

Dysgodd Iesu y dylen ni weddïo ar ein Tad nefol yn unig. Roedd Iesu ei hun yn gweddïo ar Jehofa. Dywedodd ef: “Mae’n rhaid i chi weddïo, felly, fel hyn: ‘Ein Tad yn y nefoedd . . . ’” (Mathew 6:9) Drwy weddïo ar Jehofa, rydyn ni’n cryfhau ein perthynas ag ef.

Gallwn weddïo am bron pob dim. Wrth gwrs, i Dduw ateb ein gweddïau, mae’n bwysig inni weddïo am bethau sy’n unol â’i ewyllys. “Beth bynnag rydyn ni’n gofyn amdano yn ôl [ewyllys Duw] mae’n ein clywed ni.” (1 Ioan 5:14) Rhoddodd Iesu enghreifftiau o’r pethau y gallwn ni weddïo amdanyn nhw. (Darllenwch Mathew 6:9-13.) Yn ogystal â gweddïo am ein pryderon, dylen ni gofio diolch i Dduw am bopeth y mae wedi ei wneud ar ein cyfer, a gofyn iddo helpu pobl eraill hefyd.

2. Sut dylen ni weddïo?

Mae’r Beibl yn dweud: “Tywalltwch beth sydd ar eich calon o’i flaen.” (Salm 62:8) Dylen ni weddïo o’n calonnau. Gallwn weddïo yn uchel neu’n ddistaw a does dim angen dal y corff mewn rhyw ffordd arbennig. Gallwn weddïo yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg.

3. Sut mae Duw yn ateb ein gweddïau?

Mae’n gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd. Mae Jehofa wedi rhoi i ni ei Air, y Beibl, sy’n ateb llawer o’n cwestiynau. Mae darllen Gair Duw yn gallu “gwneud y person mwyaf cyffredin yn ddoeth.” (Salm 19:7; darllenwch Iago 1:5.) Mae Duw yn gallu rhoi tawelwch meddwl inni pan fyddwn ni’n wynebu problemau. Ac fe all ysgogi ei weision i’n helpu ni pan fyddwn ni mewn angen.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch sut gallwch chi weddïo mewn ffordd sy’n plesio Duw, a gweld sut gall gweddi eich helpu chi.

4. Y ffordd mae Duw eisiau inni weddïo arno

Beth sydd ei angen i’n gweddïau fod yn dderbyniol gan Dduw? Gwyliwch y FIDEO.

Mae Jehofa yn dymuno inni weddïo arno. Darllenwch Salm 65:2, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Ydych chi’n meddwl bod yr Un “sy’n gwrando gweddïau” eisiau i chi weddïo arno? Pam, neu pam ddim?

Os ydyn ni eisiau i Dduw wrando ar ein gweddïau, mae’n rhaid i ni geisio byw yn unol â’i safonau. Darllenwch Micha 3:4 a 1 Pedr 3:12, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gallwn ni sicrhau bod Jehofa yn gwrando ar ein gweddïau?

Yn aml, bydd milwyr ar y ddwy ochr mewn rhyfel yn gweddïo am fuddugoliaeth. A yw’n rhesymol i feddwl y byddai Duw yn ateb gweddïau pawb?

5. Dylen ni weddïo o’n calonnau

Mae rhai wedi dysgu adrodd gweddïau air am air. Ond ai dyna’r ffordd mae Duw am i ni weddïo arno? Darllenwch Mathew 6:7, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gallwch chi osgoi “dweud yr un pethau drosodd a throsodd” yn eich gweddïau?

Bob dydd, ceisiwch feddwl am un ffordd mae Jehofa wedi eich bendithio chi, a diolch iddo am y fendith honno. Ar ôl wythnos, byddwch chi wedi gweddïo am saith peth gwahanol heb ailadrodd eich hun.

Mae tad cariadus eisiau i’w blant siarad ag ef o’r galon. Mae Jehofa hefyd eisiau i ni weddïo arno o’n calonnau

6. Mae gweddi yn rhodd gan Dduw

Sut gall gweddi roi nerth inni, yn enwedig yn ystod cyfnodau anodd? Gwyliwch y FIDEO.

Mae’r Beibl yn addo y bydd gweddi yn rhoi tawelwch meddwl inni. Darllenwch Philipiaid 4:6, 7, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Er nad ydy gweddi yn gwneud i’n problemau ddiflannu, sut mae’n helpu?

  • Pa bethau hoffech chi weddïo amdanyn nhw?

Oeddech chi’n gwybod?

Ystyr y gair “amen” ydy “bydded felly” neu “yn wir.” Mae dweud “amen” ar ddiwedd gweddi wedi bod yn arfer ers amser y Beibl.—1 Cronicl 16:36.

7. Neilltuo amser ar gyfer gweddi

Weithiau, mae bywyd mor brysur nes ein bod ni’n anghofio gweddïo. Pa mor bwysig oedd gweddi i Iesu? Darllenwch Mathew 14:23 a Marc 1:35, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut roedd Iesu yn neilltuo amser ar gyfer gweddi?

  • Pryd byddech chi’n gallu neilltuo amser i weddïo?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Ymarfer therapiwtig ydy gweddi, a dyna i gyd.”

  • Beth byddech chi’n ei ddweud?

CRYNODEB

Mae gweddïo o’r galon yn dod â ni’n nes at Dduw, yn rhoi tawelwch meddwl i ni, ac yn rhoi inni’r nerth sydd ei angen i blesio Jehofa.

Adolygu

  • Ar bwy dylen ni weddïo?

  • Sut dylen ni weddïo?

  • Sut mae gweddi yn ein helpu?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch atebion i gwestiynau cyffredin am weddi.

“Saith Peth Pwysig am Weddi” (Y Tŵr Gwylio, Hydref 1, 2010)

Dysgwch pam mae gweddïo’n bwysig, a sut gallwch chi wella eich gweddïau.

“Pam Dylwn i Weddïo?” (Erthygl ar jw.org)

Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am bwy y dylen ni weddïo arno.

“A Ddylwn i Weddïo ar Seintiau?” (Erthygl ar jw.org)

Gwyliwch y fideo cerddoriaeth hwn i weld a ydy’r lle a’r amser rydyn ni’n gweddïo o unrhyw bwys.

Gweddïo Unrhyw Bryd (1:22)