Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 10

Sut Gall Cyfarfodydd Tystion Jehofa Eich Helpu?

Sut Gall Cyfarfodydd Tystion Jehofa Eich Helpu?

Ydych chi wedi cael gwahoddiad i un o gyfarfodydd Tystion Jehofa? Os nad ydych chi wedi bod o’r blaen, peth naturiol yw teimlo braidd yn nerfus. Efallai byddwch chi eisiau gwybod: ‘Beth sy’n digwydd yn y cyfarfodydd? Pam maen nhw’n bwysig? Pam dylwn i fynd?’ Yn y wers hon, byddwch yn dysgu sut mae’r cyfarfodydd yn gallu eich helpu chi’n bersonol ac yn eich tynnu chi’n nes at Dduw.

1. Beth yw’r rheswm pwysicaf dros gyfarfod gyda’n gilydd?

Sylwch sut mae’r Beibl yn tynnu sylw at y rheswm pennaf inni ddod at ein gilydd mewn cyfarfodydd: “Bydda i’n addoli’r ARGLWYDD eto gyda’i bobl.” (Salm 26:12) Mae Tystion Jehofa heddiw hefyd yn mwynhau cyfarfodydd yn fawr. Ym mhob cwr o’r byd, maen nhw’n cyfarfod bob wythnos er mwyn addoli Duw, canu, a gweddïo. Sawl gwaith y flwyddyn, maen nhw’n cynnal cynulliadau mawr er mwyn addoli ar y cyd.

2. Beth byddwch chi’n ei ddysgu yn y cyfarfodydd?

Yn y cyfarfodydd, mae’r pwyslais ar esbonio Gair Duw “fel bod y bobl yn deall beth [sy’n] cael ei ddarllen.” (Darllenwch Nehemeia 8:8.) Drwy fynychu’r cyfarfodydd, byddwch chi’n dysgu am Jehofa ac am ei bersonoliaeth hyfryd. Wrth ichi ddysgu mwy am ei gariad, byddwch yn closio ato. Byddwch chi hefyd yn gweld sut gall Jehofa eich helpu i gael bywyd ystyrlon.—Eseia 48:17, 18.

3. Sut bydd cymdeithasu â phobl eraill yn y cyfarfodydd yn eich helpu?

Mae Jehofa yn dweud wrthon ni am “ystyried ein gilydd er mwyn inni annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud pethau da, heb esgeuluso ein cyfarfodydd.” (Hebreaid 10:24, 25) Yn y cyfarfodydd, byddwch chi’n cwrdd â phobl sy’n caru ei gilydd, ac sydd, fel y chi, yn awyddus i ddysgu mwy am Dduw. Byddwch chi’n clywed pobl yn rhannu sylwadau calonogol o’r Beibl. (Darllenwch Rhufeiniaid 1:11, 12.) Cewch gyfle i siarad ag eraill sy’n delio’n llwyddiannus â’r problemau sy’n wynebu pobl briod a sengl. Dyma rai o’r rhesymau y mae Jehofa eisiau inni gyfarfod â’n gilydd yn rheolaidd.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch am beth sy’n digwydd mewn cyfarfodydd Tystion Jehofa a pham mae’n werth gwneud yr ymdrech i fynd.

4. Cyfarfodydd Tystion Jehofa

Yn y ganrif gyntaf, roedd Cristnogion yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i addoli Jehofa. (Rhufeiniaid 16:3-5) Darllenwch Colosiaid 3:16, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut roedd y Cristnogion cynnar yn addoli Jehofa?

Heddiw, mae’r Tystion yn cyfarfod yn rheolaidd. I weld beth sy’n digwydd yn eu cyfarfodydd, gwyliwch y FIDEO. Yna, edrychwch ar y llun o un o’r cyfarfodydd, a thrafodwch y cwestiynau canlynol:

  • Pa debygrwydd a weloch chi rhwng beth sy’n digwydd yn Neuadd y Deyrnas a’r disgrifiad yn Colosiaid 3:16?

  • Yn y fideo neu’r llun, a weloch chi rywbeth arall am y cyfarfodydd sy’n apelio atoch chi?

Darllenwch 2 Corinthiaid 9:7, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam nad yw Tystion Jehofa yn casglu arian yn eu cyfarfodydd?

Gyda’r un sy’n eich dysgu am y Beibl, edrychwch ar raglen un o’r cyfarfodydd yr wythnos hon i weld beth fydd yn cael ei drafod.

  • Pa ran o’r cyfarfod sy’n swnio’n ddiddorol neu’n ddefnyddiol i chi?

Oeddech chi’n gwybod?

Os ewch i jw.org, gallwch weld pryd a lle mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal ledled y byd.

  1. A. Mae ein cyfarfodydd yn cynnwys anerchiadau, dangosiadau a fideos. Ceir cân a gweddi ar ddechrau a diwedd pob cyfarfod

  2. B. Mewn rhai rhannau o’r cyfarfod, mae cyfle i’r gynulleidfa gynnig sylwadau

  3. C. Mae croeso cynnes i bawb—teuluoedd, pobl sengl, rhai mewn oed, a phlant

  4. Ch.  Mae mynediad am ddim i bob cyfarfod. Nid yw Tystion Jehofa byth yn gwneud casgliad

5. Mae mynd i’r cyfarfodydd yn gofyn am ymdrech

Ystyriwch esiampl teulu Iesu. Bob blwyddyn, roedden nhw’n cerdded 60 milltir drwy’r mynyddoedd o Nasareth i Jerwsalem er mwyn mynd i’r deml. Darllenwch Luc 2:39-42, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Ydych chi’n meddwl bod y daith i Jerwsalem wedi gofyn am ymdrech?

  • Pam efallai bydd angen i chi wneud ymdrech i fynd i’r cyfarfodydd?

  • Ydych chi’n meddwl ei bod yn werth yr ymdrech? Pam?

Mae’r Beibl yn dweud bod dod at ein gilydd i addoli Duw yn bwysig iawn. Darllenwch Hebreaid 10:24, 25, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam dylen ni fynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Does dim rhaid ichi gyfarfod â phobl eraill. Gallwch astudio’r Beibl gartref ar eich pen eich hun.”

  • Pa adnod neu esiampl o’r Beibl sy’n dangos beth mae Jehofa eisiau i ni ei wneud?

CRYNODEB

Bydd mynd i’r cyfarfodydd yn eich helpu chi i ddysgu mwy am Jehofa, i gryfhau eich perthynas ag ef, ac i’w addoli yng nghwmni pobl eraill.

Adolygu

  • Pam mae Jehofa yn ein hannog ni i ddod at ein gilydd mewn cyfarfodydd?

  • Beth byddwch chi’n ei ddysgu yng nghyfarfodydd Tystion Jehofa?

  • Ym mha ffordd arall bydd y cyfarfodydd yn eich helpu chi?

Nod

DARGANFOD MWY

Ydych chi’n teimlo’n nerfus am fynd i’r cyfarfod? Gwelwch hanes dyn oedd yn teimlo’r un ffordd ond sydd bellach wrth ei fodd yn mynd i’r cyfarfodydd.

Fyddwn Ni Byth yn Anghofio’r Croeso (4:16)

Gwelwch sut roedd dyn ifanc yn mwynhau’r cyfarfodydd a beth a wnaeth er mwyn eu mynychu.

O’n i’n Mwynhau’r Cyfarfodydd Gymaint! (4:33)

Dysgwch sut mae pobl eraill yn teimlo am fynd i’r cyfarfodydd.

“Pam Mynd i’r Cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas?” (Erthygl ar jw.org)

Gwelwch sut newidiodd bywyd dyn treisgar a oedd yn aelod o gang, ar ôl iddo fynd i un o gyfarfodydd Tystion Jehofa.

“Doeddwn i Ddim yn Mynd i Nunlle Heb fy Ngwn” (Y Tŵr Gwylio, Gorffennaf 1, 2014)