Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 11

Sut i Elwa’n Fwy ar Ddarllen y Beibl

Sut i Elwa’n Fwy ar Ddarllen y Beibl

Ydych chi erioed wedi meddwl am ddechrau prosiect mawr, ond wedyn yn teimlo ei fod yn rhy anodd? Er mwyn gwneud pethau’n haws, efallai i chi benderfynu rhannu’r prosiect yn dasgau llai. Gallwch chi wneud yr un peth wrth ddarllen y Beibl. Ond y cwestiwn ydy: ‘Ble dylwn i ddechrau?’ Yn y wers hon, byddwn ni’n trafod pethau syml y gallwch chi eu gwneud i’ch helpu chi i fwynhau darllen ac astudio’r Beibl.

1. Pam dylen ni ddarllen y Beibl yn rheolaidd?

Bydd rhywun sy’n darllen y Beibl, neu ‘gyfraith yr ARGLWYDD yn rheolaidd, yn hapus ac yn llwyddo. (Darllenwch Salm 1:1-3, BCND.) I ddechrau, ceisiwch ddarllen y Beibl am gwpl o funudau bob dydd. Po fwyaf rydych chi’n darllen Gair Duw, mwyaf yn y byd y byddwch yn ei fwynhau.

2. Beth fydd yn eich helpu chi i elwa ar ddarllen y Beibl?

Er mwyn cael y gorau o ddarllen y Beibl, mae angen inni gymryd amser i feddwl am yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen. Dylen ni ddarllen y Beibl a ‘myfyrio’ arno. (Josua 1:8) Wrth ichi ddarllen, gofynnwch: ‘Beth rydw i’n ei ddysgu am Jehofa Dduw? Sut gallaf roi hyn ar waith yn fy mywyd? Sut gallaf ddefnyddio’r adnodau hyn i helpu eraill?’

3. Sut gallwch chi neilltuo’r amser i ddarllen y Beibl?

Ydy hi’n anodd ichi ddod o hyd i’r amser i ddarllen y Beibl? Mae hyn yn broblem gyffredin. Ceisiwch “ddefnyddio eich amser yn y ffordd orau.” (Effesiaid 5:16) Gallwch wneud hyn drwy osod amser penodol bob dydd ar gyfer darllen y Beibl. Mae rhai yn ei wneud yn gynnar yn y bore. Mae’n well gan eraill ddarllen y Beibl yn hwyrach yn y dydd, efallai yn eu hamser cinio neu cyn mynd i’r gwely. Beth fyddai’r amser gorau i chi?

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch sut i wneud darllen y Beibl yn fwy diddorol, a sut i baratoi er mwyn cael y gorau ohono.

Fel y gallwn gael blas ar fwydydd newydd, gallwn ni ddod i fwynhau darllen y Beibl

4. Dysgwch sut i fwynhau darllen y Beibl

Efallai, i ddechrau, fydd darllen y Beibl ddim yn hawdd iawn. Ond fe allwn ni ddod i’w fwynhau, fel y gallwn ni ddod i gael blas ar fwydydd newydd. Darllenwch 1 Pedr 2:2, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Petasech chi’n darllen y Beibl bob dydd, ydych chi’n meddwl y byddech chi’n dechrau edrych ymlaen ato a’i fwynhau?

Gwyliwch y FIDEO i weld sut mae rhai wedi dechrau mwynhau darllen y Beibl. Yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

  • Yn y fideo, pa anawsterau wnaeth y bobl ifanc ddod drostyn nhw?

  • Beth oedd yn eu helpu nhw i ddal ati i ddarllen y Beibl yn rheolaidd?

  • Sut roedden nhw’n gwneud darllen y Beibl yn fwy diddorol?

Syniadau i’ch helpu chi:

  • Dewiswch gyfieithiad cywir, sy’n hawdd ei ddeall. Rhowch gynnig ar y New World Translation os yw ar gael yn eich iaith chi, neu mewn iaith arall rydych chi’n ei darllen yn dda.

  • Dechreuwch gyda’r rhannau sy’n apelio fwyaf atoch chi. I ddod o hyd i syniadau, gwelwch y siart “Dechrau Darllen y Beibl.”

  • Cadwch nodyn o’r hyn rydych chi wedi ei ddarllen. Defnyddiwch y siart “Darllen y Beibl—Eich Cofnod Personol” yn y llyfr hwn.

  • Defnyddiwch yr ap JW Library®. Gallwch ddefnyddio’r ap ar eich ffôn clyfar neu ar ddyfais arall i ddarllen y Beibl a gwrando arno le bynnag ydych chi.

  • Defnyddiwch Cymorth i Astudio Gair Duw. Mae’n cynnwys mapiau a siartiau a fydd yn gwneud darllen y Beibl yn fwy diddorol.

5. Sut i baratoi ar gyfer eich sesiwn astudio’r Beibl

Darllenwch Salm 119:34, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam mae’n bwysig ichi weddïo cyn darllen y Beibl neu cyn paratoi ar gyfer eich sesiwn astudio’r Beibl?

Sut gallwch chi gael y budd mwyaf o’r sesiwn astudio? Wrth ichi baratoi’r gwersi, rhowch gynnig ar hyn:

  1. Darllenwch y paragraffau agoriadol yn y wers.

  2. Darllenwch yr adnodau a cheisiwch weld sut maen nhw’n cysylltu â’r deunydd.

  3. Nodwch y geiriau allweddol sy’n ateb y cwestiynau. Bydd hyn yn eich helpu chi i drafod y wers yn y sesiwn astudio.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae Tystion Jehofa wedi defnyddio sawl cyfieithiad gwahanol o’r Beibl. Ond rydyn ni’n gwerthfawrogi’r New World Translation of the Holy Scriptures yn fawr, oherwydd y mae’n fanwl gywir, yn glir, ac mae’n defnyddio enw Duw.—Gweler yr erthygl Oes gan Dystion Jehofa Gyfieithiad eu Hunain o’r Beibl? ar jw.org.

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae astudio’r Beibl yn rhy anodd. Does gen i ddim digon o amser nac egni.”

  • Sut rydych chi’n teimlo am hynny?

CRYNODEB

I gael y gorau o’r Beibl, neilltuwch amser i’w ddarllen, gweddïwch am help i’w ddeall, a pharatowch ar gyfer eich sesiynau astudio.

Adolygu

  • Beth fydd yn eich helpu chi i elwa fwyaf ar ddarllen y Beibl?

  • Pryd gallwch chi neilltuo amser i ddarllen ac astudio’r Beibl?

  • Pam mae’n werth paratoi ar gyfer eich sesiynau astudio’r Beibl?

Nod

DARGANFOD MWY

Adolygwch rai syniadau a fydd yn eich helpu chi i gael y budd mwyaf o ddarllen y Beibl.

Sut i Elwa’n Fwy o Ddarllen y Beibl” (Erthygl o’r Tŵr Gwylio)

Gwrandewch ar awgrymiadau pobl sydd wedi bod yn darllen y Beibl am flynyddoedd.

Astudio’r Beibl yn Effeithiol (2:06)