Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 17

Sut Un Yw Iesu?

Sut Un Yw Iesu?

Wrth inni ddysgu am y pethau a ddywedodd Iesu a’r hyn a wnaeth ar y ddaear, rydyn ni’n gweld rhinweddau sy’n ein denu ni’n nes ato ef a’i Dad, Jehofa. Beth yw rhai o’r rhinweddau hyfryd hyn? A sut gallwn ni efelychu Iesu yn ein bywydau ni?

1. Ym mha ffyrdd mae Iesu yn debyg i’w Dad?

Yn y nef, mae Iesu wedi gwylio ei Dad cariadus a dysgu oddi wrtho ers biliynau o flynyddoedd. O ganlyniad, mae Iesu yn meddwl, yn teimlo, ac yn gweithredu’n union fel ei Dad. (Darllenwch Ioan 5:19.) Yn wir, mae Iesu yn adlewyrchu personoliaeth ei Dad mor dda nes iddo ddweud: “Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad hefyd.” (Ioan 14:9) Wrth ichi ddysgu am bersonoliaeth Iesu, byddwch yn dod i adnabod Jehofa yn well. Er enghraifft, mae trugaredd Iesu tuag at bobl yn dangos sut mae Jehofa yn teimlo amdanoch chi.

2. Sut mae Iesu wedi dangos ei fod yn caru Jehofa?

Dywedodd Iesu: “Er mwyn i’r byd wybod fy mod i’n caru’r Tad, rydw i’n gwneud yn union fel mae’r Tad wedi gorchymyn imi.” (Ioan 14:31) Ar y ddaear, dangosodd Iesu gariad mawr tuag at ei Dad drwy ufuddhau iddo, hyd yn oed pan oedd hynny’n anodd. Roedd Iesu wrth ei fodd yn siarad am ei Dad ac yn helpu eraill i ddod yn ffrindiau i Dduw.​—Ioan 14:23.

3. Sut mae Iesu wedi dangos ei fod yn caru pobl?

Mae’r Beibl yn dweud bod Iesu yn caru’r ddynoliaeth yn fawr. Dangosodd ei gariad drwy galonogi a helpu pobl yn ddiflino. Roedd ei wyrthiau yn dangos, nid yn unig ei allu, ond hefyd ei drugaredd. (Marc 1:40-42) Roedd Iesu yn trin pobl yn garedig ac yn deg. Rhoddodd geiriau Iesu gysur a gobaith i’r bobl ddiffuant oedd yn gwrando arno. Roedd Iesu yn barod i ddioddef a marw oherwydd ei gariad tuag at ddynolryw i gyd. Ond mae’n teimlo cariad arbennig tuag at y rhai sy’n dilyn ei ddysgeidiaeth.​—Darllenwch Ioan 15:13, 14.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch fwy am bersonoliaeth Iesu. Ac ystyriwch sut gallwch chi efelychu Iesu drwy ddangos cariad a bod yn hael.

4. Mae Iesu yn caru ei Dad

Mae esiampl Iesu yn ein dysgu ni sut i ddangos ein cariad tuag at Dduw. Darllenwch Luc 6:12 ac Ioan 15:10; 17:26. Ar ôl darllen pob adnod, trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gallwn ni efelychu Iesu a dangos ein bod ni’n caru Jehofa?

Roedd Iesu yn caru ei Dad nefol ac yn gweddïo arno’n aml

5. Mae Iesu yn tosturio wrth bobl mewn angen

Roedd Iesu yn rhoi anghenion pobl eraill o flaen ei anghenion ei hun. Hyd yn oed pan oedd yn flinedig, roedd yn defnyddio ei amser a’i egni i helpu pobl eraill. Darllenwch Marc 6:30-44, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Yn yr hanes hwn, sut dangosodd Iesu ei fod yn tosturio wrth bobl eraill?​—Gweler adnodau 31, 3441, a 42.

  • Beth ysgogodd Iesu i helpu pobl eraill?​—Gweler adnod 34.

  • Gan fod Iesu yn adlewyrchu personoliaeth Jehofa, beth mae hyn yn eich dysgu chi am Jehofa?

  • Ym mha ffyrdd gallwn ni efelychu gofal Iesu am eraill?

6. Mae Iesu yn hael

Roedd Iesu yn hael er nad oedd ganddo lawer o bethau materol, ac roedd yn ein hannog ni i fod yn hael hefyd. Darllenwch Actau 20:35, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Yn ôl Iesu, sut gallwn ni fod yn hapus?

Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

  • Sut gallwn ni fod yn hael, hyd yn oed os nad oes lawer o bethau materol gynnon ni?

Oeddech chi’n gwybod?

Mae’r Beibl yn ein dysgu ni i weddïo ar Jehofa yn enw Iesu. (Darllenwch Ioan 16:23, 24.) Pan weddïwn yn enw Iesu, dangoswn ein bod ni’n ddiolchgar am beth mae Iesu wedi ei wneud i’n helpu ni i ddod yn ffrindiau i Jehofa.

BYDD RHAI YN DWEUD: “Dydy’r ffaith ein bod ni’n dioddef ddim yn bwysig i Dduw.”

  • Gan fod Iesu yn adlewyrchu personoliaeth ei Dad, sut mae’r hyn a wnaeth yn profi bod Jehofa yn tosturio wrthon ni?

CRYNODEB

Mae Iesu yn caru Jehofa, ac y mae’n caru pobl. Gan fod Iesu yn debyg i’w Dad, wrth ddod i adnabod Iesu rydych chi hefyd yn dod i adnabod Jehofa.

Adolygu

  • Sut gallwn ni efelychu Iesu yn ein cariad tuag at Jehofa?

  • Sut gallwn ni efelychu Iesu yn ein cariad tuag at bobl?

  • Beth sy’n apelio atoch chi am bersonoliaeth Iesu?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch rai o rinweddau Iesu y gallwn ni eu hefelychu.

“I Efelychu Iesu, Byddwch . . .” (Iesu—Y Ffordd, y Gwirionedd, y Bywyd)

Gwelwch pam mae angen inni weddïo yn enw Iesu.

“Pam Dylen Ni Weddïo yn Enw Iesu?” (Y Tŵr Gwylio, Chwefror 1, 2008)

Ydy’r Beibl yn dweud unrhyw beth am sut roedd Iesu yn edrych?

“Sut Roedd Iesu yn Edrych?” (Erthygl ar jw.org)

Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd roedd Iesu yn trin menywod?

“Parch ac Urddas o Dan Ofal Duw” (Y Tŵr Gwylio, Medi 1, 2012)