Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 23

Bedydd—Cam Buddiol Ymlaen!

Bedydd—Cam Buddiol Ymlaen!

Dywedodd Iesu fod rhaid i bob Cristion gael ei fedyddio. (Darllenwch Mathew 28:19, 20.) Ond beth yw bedydd? A beth sy’n rhaid ei wneud er mwyn cymryd y cam hwnnw?

1. Beth yw bedydd?

Mae’r gair “bedyddio” yn dod o ymadrodd Groeg sy’n golygu “trochi.” Pan fedyddiwyd Iesu, cafodd ei drochi yn afon yr Iorddonen, ac yna daeth “i fyny allan o’r dŵr.” (Marc 1:9, 10) Yn yr un modd, mae gwir Gristnogion yn cael eu bedyddio drwy gael eu llwyr ymdrochi mewn dŵr.

2. Beth mae bedydd yn ei ddangos?

Mae ein bedydd yn dangos ein bod wedi cysegru ein hunain i Jehofa Dduw. Sut rydyn ni’n ymgysegru? Cyn cael ein bedyddio, rydyn ni’n mynd at Jehofa mewn gweddi a dweud wrtho ein bod ni eisiau ei wasanaethu am byth. Rydyn ni’n addo addoli Jehofa yn unig a rhoi’r lle cyntaf yn ein bywydau i wneud ewyllys Duw. Rydyn ni’n dewis ‘gwadu ein hunain . . . a dal ati’ i ddilyn dysgeidiaeth ac esiampl Iesu. (Mathew 16:24) Mae ymgysegru a bedydd yn gwneud perthynas agos â Jehofa ac â’n cyd-addolwyr yn bosib.

3. Beth sydd angen ei wneud cyn cael eich bedyddio?

Gallwch baratoi ar gyfer bedydd drwy ddysgu am Jehofa a meithrin ffydd ynddo. (Darllenwch Hebreaid 11:6.) Wrth ichi ddysgu mwy am Jehofa a chryfhau eich ffydd, bydd eich cariad tuag at Jehofa hefyd yn tyfu. Yna byddwch yn dymuno pregethu amdano a byw yn unol â’i safonau. (2 Timotheus 4:2; 1 Ioan 5:3) Pan fyddwch chi’n byw “yn deilwng o Jehofa er mwyn ichi ei blesio’n llawn,” mae’n debyg y byddwch yn dewis cysegru eich bywyd i Dduw a chael eich bedyddio.​—Colosiaid 1:​9, 10. a

CLODDIO’N DDYFNACH

Gwelwch beth gallwn ni ei ddysgu o fedydd Iesu a sut gall rhywun baratoi ar gyfer y cam pwysig hwn.

4. Gallwn ddysgu o fedydd Iesu

Darllenwch Mathew 3:13-17 i ddysgu mwy am fedydd Iesu. Ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • A gafodd Iesu ei fedyddio’n fabi?

  • Sut cafodd ei fedyddio? Ai tywallt ychydig o ddŵr ar ei ben oedd hyn?

Ar ôl cael ei fedyddio, dechreuodd Iesu ar y gwaith pwysig yr oedd Duw wedi ei roi iddo. Darllenwch Luc 3:21-23 ac Ioan 6:​38, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Ar ôl i Iesu gael ei fedyddio, pa waith a gymerodd y lle cyntaf yn ei fywyd?

5. Mae bedydd yn nod y gallwch ei gyrraedd

Efallai bydd bedydd yn ymddangos yn gam hynod o fawr i ddechrau. Ond ymhen amser, byddwch yn teimlo’n fwy hyderus. I weld esiamplau rhai pobl sydd wedi cymryd y cam pwysig hwn, gwyliwch y FIDEO.

Darllenwch Ioan 17:3 ac Iago 1:5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth gall helpu rhywun i baratoi ar gyfer bedydd?

  1. Rydyn ni’n ein cysegru ein hunain i Jehofa drwy ddweud wrtho ein bod ni eisiau ei wasanaethu ef am byth

  2. Drwy gael ein bedyddio, rydyn ni’n dangos i eraill ein bod ni wedi ymgysegru i Dduw

6. Ar ôl ein bedydd rydyn ni’n dod yn rhan o deulu Jehofa

Pan gawn ni ein bedyddio, rydyn ni’n dod yn rhan o deulu unedig byd-eang. Er ein bod ni’n dod o gefndiroedd gwahanol, rydyn ni’n rhannu’r un daliadau a safonau moesol. Darllenwch Diarhebion 3:32 a 1 Pedr 2:17, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut mae bedydd yn effeithio ar ein perthynas â Jehofa ac ag eraill sy’n ei addoli?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Dw i ddim yn barod i gael fy medyddio.”

  • Os dyna sut rydych chi’n teimlo, ydych chi’n dal i feddwl bod bedydd yn nod gwerth ei gyrraedd?

CRYNODEB

Dysgodd Iesu fod angen i bob Cristion gael ei fedyddio. Cyn cymryd y cam hwnnw, mae angen adeiladu ffydd gadarn yn Jehofa, byw yn ôl ei safonau, ac ymgysegru iddo.

Adolygu

  • Beth yw bedydd, a pham mae’n bwysig?

  • Beth yw’r cysylltiad rhwng ymgysegru a bedydd?

  • Pa gamau sy’n arwain at ymgysegru a bedydd?

Nod

DARGANFOD MWY

Dysgwch beth yw bedydd a beth nad yw.

“Beth Yw Bedydd?” (Erthygl ar jw.org)

Adolygwch y camau sydd eu hangen er mwyn cael eich bedyddio.

“Bydd Caru Jehofa a’i Werthfawrogi yn Dy Arwain at Fedydd” (Y Tŵr Gwylio, Mawrth 2020)

Darllenwch pam nad emosiwn yn unig oedd y tu ôl i benderfyniad un dyn i gael ei fedyddio.

“Roedden Nhw Eisiau Imi Brofi’r Gwir Drosto I Fy Hun” (Y Tŵr Gwylio, Chwefror 1, 2013)

Ystyriwch pam mae bedydd yn gam buddiol a sut gallwch chi baratoi amdano.

“A Ddylwn i Gael Fy Medyddio?” (Cwestiynau Pobl Ifanc​—Atebion Sy’n Gweithio, Cyfrol 2, pennod 37)

a Os bydd rhywun wedi cael ei fedyddio mewn crefydd arall, bydd angen iddo gael ei fedyddio eto. Pam? Oherwydd nad oedd y grefydd honno’n dysgu’r gwir am y Beibl.​​—Gweler Actau 19:​1-5 a Gwers 13.