Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 24

Beth Yw’r Gwir am Angylion?

Beth Yw’r Gwir am Angylion?

Mae Jehofa yn dymuno inni ddysgu am ei deulu yn y nefoedd. Mae’r teulu hwnnw’n cynnwys yr angylion, sy’n cael eu galw’n “feibion Duw.” (Job 38:​7, BC) Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am angylion? Sut maen nhw’n dylanwadu ar bobl? Ac a yw pob angel yn rhan o deulu Duw?

1. Pwy yw’r angylion?

Creodd Duw’r angylion cyn iddo greu’r ddaear. Fel Duw, maen nhw’n fodau ysbrydol sy’n byw yn y nef. (Hebreaid 1:14) Mae miliynau o angylion, ac mae pob un yn unigryw. (Datguddiad 5:11) Maen nhw’n “gwneud beth mae [Jehofa yn ei] ddweud . . . ac yn ufudd iddo.” (Salm 103:20) Weithiau yn y gorffennol, roedd Jehofa yn anfon angylion i gefnogi neu i achub ei bobl, neu i roi negeseuon. Heddiw mae’r angylion yn arwain Cristnogion at y rhai sydd eisiau dysgu am Dduw.

2. Pwy yw Satan a’i gythreuliaid?

Nid yw pob angel wedi aros yn ffyddlon i Jehofa. Yr un cyntaf i wrthryfela oedd “yr un sy’n cael ei galw Diafol a Satan, yr un sy’n camarwain yr holl ddaear.” (Datguddiad 12:9) Roedd Satan eisiau teyrnasu dros eraill, ac felly perswadiodd Adda ac Efa i fod yn anufudd i Jehofa. Yn nes ymlaen, dylanwadodd ar angylion eraill hefyd. Mae’r angylion drwg hynny yn cael eu galw’n gythreuliaid. Cawson nhw eu bwrw allan o’r nefoedd i’r ddaear, ac yn y dyfodol byddan nhw’n cael eu dinistrio.​—Darllenwch Datguddiad 12:9, 12.

3. Sut mae Satan a’r cythreuliaid yn ceisio ein camarwain?

Mae Satan a’r cythreuliaid yn camarwain llawer o bobl drwy ysbrydegaeth, hynny yw ceisio cyfathrebu ag ysbrydion. Er enghraifft, mae rhai’n troi at astrolegwyr, neu at bobl sy’n seicig neu’n dweud ffortiwn. Mae eraill yn dewis mathau o driniaeth feddygol sy’n dibynnu ar ysbrydegaeth. Mae pobl hefyd yn cael eu twyllo i gredu bod modd siarad â’r meirw. Ond mae Jehofa yn rhybuddio: “Peidiwch mynd ar ôl ysbrydion neu siarad â’r meirw.” (Lefiticus 19:31) Mae’n rhoi y rhybudd hwn i’n hamddiffyn rhag Satan a’r cythreuliaid. Maen nhw’n elynion i Dduw ac maen nhw eisiau ein niweidio.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch am y pethau da y mae angylion yn eu gwneud, am beryglon ysbrydegaeth, a sut gallwch amddiffyn eich hun rhag Satan a’r cythreuliaid.

4. Mae angylion yn helpu pobl i ddysgu am Jehofa

Nid yw’r angylion yn pregethu’n uniongyrchol i bobl. Ond maen nhw’n gallu arwain gweision Duw at y rhai sydd eisiau dysgu amdano. Darllenwch Datguddiad 14:6, 7, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pam mae angen help yr angylion i bregethu?

  • Ydy’r ffaith bod yr angylion yn gallu eich arwain at bobl sydd eisiau gwybod am y Beibl yn codi eich calon? Pam?

5. Cadwch draw oddi wrth ysbrydegaeth

Mae Satan a’r cythreuliaid yn elynion i Dduw. Ac maen nhw’n elynion i ninnau hefyd. Darllenwch Luc 9:38-42, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth mae’r cythreuliaid yn ei wneud i bobl?

Fydden ni byth eisiau rhoi cyfle i’r cythreuliaid ddylanwadu arnon ni. Darllenwch Deuteronomium 18:10-12, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut mae’r cythreuliaid yn ceisio dylanwadu arnon ni a chyfathrebu â ni? Pa arferion sy’n gyffredin yn eich ardal chi?

  • Ydych chi’n meddwl ei bod hi’n rhesymol i Jehofa wahardd ysbrydegaeth? Pam?

Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

  • Ydych chi’n meddwl bod y freichled a roddodd Palesa am arddwrn ei merch yn beth drwg? Pam?

  • Beth roedd angen i Palesa ei wneud i gael ei hamddiffyn rhag y cythreuliaid?

Mae gwir Gristnogion wastad wedi gwrthwynebu’r cythreuliaid. Darllenwch Actau 19:19 a 1 Corinthiaid 10:21, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam mae angen dinistrio unrhyw beth yn eich meddiant sy’n gysylltiedig ag ysbrydegaeth?

6. Gallwch ennill y frwydr yn erbyn Satan a’i gythreuliaid

Mae’r cythreuliaid dan reolaeth Satan. Ond mae’r angylion ffyddlon yn dilyn yr archangel Michael, sydd yn enw arall ar Iesu. Pa mor rymus yw Michael? Darllenwch Datguddiad 12:7-9, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pwy sydd â mwy o rym? Michael a’i angylion neu Satan a’i gythreuliaid?

  • Ydych chi’n meddwl bod angen i ddilynwyr Iesu ofni Satan a’i gythreuliaid?

Gallwch ennill y frwydr yn erbyn Satan a’i gythreuliaid. Darllenwch Iago 4:7, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gallwch chi amddiffyn eich hun rhag Satan a’r cythreuliaid?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Does dim byd o’i le ar gemau neu ffilmiau sy’n ymwneud ag ysbrydegaeth. Adloniant ydyn nhw, dyna i gyd.”

  • Pam mae’r agwedd hon yn beryglus?

CRYNODEB

Mae angylion ffyddlon yn ein helpu. Mae Satan a’i gythreuliaid yn elynion i Jehofa ac maen nhw’n defnyddio ysbrydegaeth i gamarwain pobl.

Adolygu

  • Sut mae angylion Jehofa yn helpu pobl i ddysgu amdano?

  • Pwy yw Satan a’i gythreuliaid?

  • Pam rydych chi eisiau cadw draw oddi wrth ysbrydegaeth?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch y dystiolaeth sy’n dangos mai Iesu yw’r archangel Michael.

“Pwy Yw’r Archangel Michael?” (Erthygl ar jw.org)

Ystyriwch dystiolaeth sy’n profi mai person go iawn yw’r Diafol yn hytrach na’r tueddiadau drwg sydd ynon ni.

“Ydy’r Diafol Wir yn Bodoli?” (Erthygl ar jw.org)

Gwelwch sut llwyddodd un ddynes i dorri’n rhydd oddi wrth ddylanwad y cythreuliaid.

“Cafodd Hi Bwrpas i’w Bywyd” (Y Tŵr Gwylio, Gorffennaf 1, 1993)

Dysgwch sut mae Satan yn defnyddio ysbrydegaeth i dwyllo pobl.

“Y Gwir am Ddewiniaeth” (Y Ffordd i Fywyd Tragwyddol, rhan 5)