Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 30

Gall Eich Anwyliaid Ddod yn ôl yn Fyw!

Gall Eich Anwyliaid Ddod yn ôl yn Fyw!

Mae marwolaeth yn achosi galar a thristwch ofnadwy. Dyna pam mae’r Beibl yn galw marwolaeth yn elyn. (1 Corinthiaid 15:26) Yng Ngwers 27, dysgon ni fod Jehofa yn mynd i drechu’r gelyn hwnnw. Ond beth fydd yn digwydd i’r bobl sydd eisoes wedi marw? Yn y wers hon, byddwch yn dysgu mwy am addewid Jehofa i atgyfodi biliynau o bobl i fwynhau bywyd am byth. Ydy hynny wir yn bosib? A fyddan nhw’n cael eu hatgyfodi i’r nefoedd neu i’r ddaear?

1. Beth mae Jehofa yn dymuno ei wneud ar gyfer ein hanwyliaid sydd wedi marw?

Mae Jehofa yn dyheu am ddod â’r meirw yn ôl yn fyw. Roedd dyn ffyddlon o’r enw Job yn hyderus y byddai Duw yn ei gofio ar ôl iddo farw. Dywedodd wrth Dduw: “Gelwit arnaf, ac atebwn innau [o’r bedd].”​—Darllenwch Job 14:13-15, BCND.

2. Sut rydyn ni’n gwybod bod hi’n bosib i’r meirw gael eu hatgyfodi?

Tra oedd Iesu ar y ddaear, rhoddodd Duw y gallu iddo i atgyfodi pobl. Atgyfododd Iesu ferch 12 oed a mab i wraig weddw. (Marc 5:41, 42; Luc 7:12-15) Yn nes ymlaen, bu farw ffrind agos Iesu, Lasarus. Er bod Lasarus wedi marw ers pedwar diwrnod ac wedi ei gladdu, daeth Iesu ag ef yn ôl yn fyw. Ar ôl gweddïo ar Dduw, dywedodd Iesu: “Lasarus, tyrd allan!” A “dyma’r dyn a oedd wedi bod yn farw yn dod allan.” Roedd Lasarus yn fyw! (Ioan 11:43, 44) Dychmygwch pa mor hapus oedd teulu a ffrindiau Lasarus!

3. Pa obaith sydd i’n hanwyliaid sydd wedi marw?

Mae’r Beibl yn addo y bydd atgyfodiad. (Actau 24:15) Pan oedd Iesu ar y ddaear, atgyfododd nifer o bobl, ond nid aethon nhw i’r nef. (Ioan 3:13) Roedden nhw’n hapus i gael dod yn ôl i fywyd ar y ddaear. Yn yr un modd, bydd Iesu yn fuan yn atgyfodi biliynau o bobl i fywyd tragwyddol mewn paradwys ar y ddaear. Dywedodd Iesu y bydd Duw yn atgyfodi pawb y mae’n eu cofio, hyd yn oed y rhai y mae pobl wedi anghofio amdanyn nhw.​—Ioan 5:28, 29.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch dystiolaeth o’r Beibl sy’n dangos y bydd y meirw yn cael eu hatgyfodi. Dysgwch sut mae’r atgyfodiad yn gallu rhoi gobaith a chysur i chi.

4. Profodd Iesu ei fod yn gallu atgyfodi’r meirw

Dysgwch fwy am yr hyn a wnaeth Iesu ar gyfer ei ffrind Lasarus. Darllenwch Ioan 11:14, 38-44, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut rydyn ni’n gwybod bod Lasarus yn bendant wedi marw?—Gweler adnod 39.

  • Pe bai Lasarus wedi mynd i’r nefoedd, ydych chi’n meddwl y byddai Iesu wedi dod ag ef yn ôl i’r ddaear?

Gwyliwch y FIDEO.

5. Bydd llawer yn cael eu hatgyfodi!

Darllenwch Salm 37:29, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Ble fydd y biliynau o bobl sy’n cael eu hatgyfodi yn byw?

Nid y rhai sydd wedi addoli Jehofa yw’r unig rai a fydd yn cael eu hatgyfodi gan Iesu. Darllenwch Actau 24:15, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pwy rydych chi’n edrych ymlaen at ei weld yn yr atgyfodiad?

Meddyliwch am hyn: Mae Iesu yn gallu atgyfodi rhywun yr un mor hawdd ag y mae tad yn gallu deffro plentyn o’i gwsg

6. Mae’r atgyfodiad yn gallu rhoi gobaith a chysur ichi

Mae hanes merch Jairus yn y Beibl wedi codi calonnau llawer sy’n galaru. Darllenwch yr hanes yn Luc 8:40-42, 49-56.

Cyn i Iesu atgyfodi merch Jairus, dywedodd wrth ei thad: “Paid ag ofni, dim ond ffydd sydd ei angen arnat ti.” (Gweler adnod 50.) Sut gall gobaith yr atgyfodiad eich helpu chi . . .

  • pan fydd anwylyn yn marw?

  • pan fydd eich bywyd mewn peryg?

Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

  • Sut mae gobaith yr atgyfodiad wedi annog a chysuro rhieni Phelicity?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae’r syniad o atgyfodiad yn swnio’n rhy dda i fod yn wir.”

  • Beth rydych chi’n ei feddwl?

  • Pa adnod gallwch chi ei defnyddio i ddangos bod yr atgyfodiad yn mynd i ddigwydd?

CRYNODEB

Mae’r Beibl yn addo y bydd biliynau o bobl sydd wedi marw yn cael eu hatgyfodi. Mae Jehofa yn dymuno iddyn nhw gael byw eto, ac y mae wedi rhoi’r gallu i Iesu i’w hatgyfodi.

Adolygu

  • Sut mae Jehofa ac Iesu yn teimlo am ddod â’r meirw yn ôl yn fyw?

  • Ble fydd biliynau o bobl sy’n cael eu hatgyfodi yn byw​​—yn y nefoedd neu ar y ddaear? Pam rydych chi’n ateb felly?

  • Pam rydych chi’n ffyddiog y bydd eich anwyliaid yn cael eu hatgyfodi?

Nod

DARGANFOD MWY

Dysgwch pa gamau y gallwch chi eu cymryd i ymdopi â galar.

“Help ar Gyfer y Rhai Sy’n Galaru” (Deffrwch! Rhif 3 2018)

A yw’n bosib i egwyddorion y Beibl helpu rhywun sy’n galaru?

Pan Fydd Anwylyn yn Marw (5:06)

Sut gall plant ymdopi â marwolaeth anwylyn?

Y Pridwerth (2:07)

A fydd unrhyw un yn cael ei atgyfodi i’r nefoedd? Pwy na fydd yn cael ei atgyfodi?

“Beth Yw’r Atgyfodiad?” (Erthygl ar jw.org)