Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 32

Mae Teyrnas Dduw Yn Teyrnasu Nawr!

Mae Teyrnas Dduw Yn Teyrnasu Nawr!

Dechreuodd Teyrnas Dduw lywodraethu yn y nefoedd ym 1914. Dyna pryd y dechreuodd cyfnod olaf llywodraethau dynol. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Ystyriwch broffwydoliaethau yn y Beibl yn ogystal â chyflwr y byd ers 1914.

1. Beth mae’r Beibl wedi ei ragfynegi?

Mae llyfr Daniel yn y Beibl yn dangos y byddai Teyrnas Dduw yn dechrau llywodraethu ar ddiwedd adeg a elwir yn “saith cyfnod.” (Daniel 4:16, 17, BCND) Ganrifoedd yn ddiweddarach, cyfeiriodd Iesu at yr un cyfnod fel “amseroedd penodedig y cenhedloedd.” Dangosodd nad oedd y cyfnod hwnnw wedi dod i ben bryd hynny. (Luc 21:24) Fel y gwelwn ni, daeth y saith cyfnod i ben yn y flwyddyn 1914.

2. Beth sydd wedi digwydd yn y byd ers 1914, a sut mae pobl yn ymddwyn?

Gofynnodd disgyblion Iesu iddo: “Beth fydd yr arwydd o dy bresenoldeb ac o gyfnod olaf y system hon?” (Mathew 24:3) Atebodd Iesu drwy sôn am y pethau a fyddai’n digwydd ar ôl iddo ddechrau llywodraethu yn y nefoedd fel Brenin ar Deyrnas Dduw. Ymhlith y pethau hynny yw rhyfeloedd, newyn, a daeargrynfeydd. (Darllenwch Mathew 24:7.) Rhagfynegodd y Beibl hefyd y byddai ymddygiad pobl yn ystod y “dyddiau olaf” yn gwneud bywyd yn “hynod o anodd.” (2 Timotheus 3:1-5) Yn wir, mae cyflwr y byd ac ymddygiad pobl wedi gwaethygu ers 1914.

3. Pam mae cyflwr y byd wedi gwaethygu ers i Deyrnas Dduw ddechrau teyrnasu?

Yn fuan ar ôl i Iesu ddod yn Frenin ar Deyrnas Dduw, aeth i ryfel yn erbyn Satan a’i gythreuliaid yn y nefoedd. Collodd Satan y rhyfel hwnnw. Mae’r Beibl yn dweud am Satan: “Fe gafodd ei hyrddio i lawr i’r ddaear,” a’i angylion gydag ef. (Datguddiad 12:9, 10, 12) Mae Satan yn gandryll oherwydd y mae’n gwybod y bydd yn cael ei ddinistrio. Felly mae’n gwneud i bobl ddioddef ledled y byd. Nid oes rhyfedd bod cyflwr y byd mor ddrwg. Bydd Teyrnas Dduw yn datrys yr holl broblemau hynny.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch sut rydyn ni’n gwybod bod Teyrnas Dduw wedi dechrau rheoli ym 1914, a beth mae hyn yn ei olygu i ni.

4. Mae cronoleg y Beibl yn dangos bod 1914 yn flwyddyn arwyddocaol

Rhoddodd Duw freuddwyd i’r Brenin Nebwchadnesar i ddangos beth fyddai’n digwydd yn y dyfodol. Roedd y freuddwyd, a’r dehongliad a roddodd Daniel, yn berthnasol i frenhiniaeth Nebwchadnesar, ond roedd yn berthnasol hefyd i Deyrnas Dduw.​—Darllenwch Daniel 4:17. a

Darllenwch Daniel 4:20-26, BCND, ac yna defnyddiwch y siart i ateb y cwestiynau sy’n dilyn:

  • (A) Beth welodd Nebwchadnesar yn ei freuddwyd?​—Gweler adnodau 20 a 21.

  • (B) Beth fyddai’n digwydd i’r goeden?​—Gweler adnod 23.

  • (C) Beth fyddai’n digwydd ar ddiwedd y “saith cyfnod”?​—Gweler adnod 26.

Sut Mae’r Freuddwyd am y Goeden yn Berthnasol i Deyrnas Dduw?

Y BROFFWYDOLIAETH (Daniel 4:20-36, BCND)

Brenhiniaeth

(A) Coeden enfawr

Atal y frenhiniaeth

(B) “Torrwch y goeden” i lawr, a gadael i “saith cyfnod” fynd heibio

Adfer y frenhiniaeth

(C) “Bydd dy frenhiniaeth yn sefydlog” unwaith eto

Cyflawniad cyntaf y broffwydoliaeth:

  • (Ch) Pwy oedd y goeden yn ei gynrychioli?​—Gweler adnod 22.

  • (D) Sut daeth ei frenhiniaeth i ben?​—Darllenwch Daniel 4:29-33, BCND.

  • (Dd) Beth ddigwyddodd i Nebwchadnesar ar ôl y “saith cyfnod”?​—Darllenwch Daniel 4:34-36, BCND.

Y CYFLAWNIAD CYNTAF

Brenhiniaeth

(Ch) Nebwchadnesar, Brenin Babilon

Atal y frenhiniaeth

(D) Ar ôl 606 COG, Nebwchadnesar yn mynd yn wallgof ac yn methu teyrnasu am saith o flynyddoedd

Adfer y frenhiniaeth

(Dd) Nebwchadnesar yn gwella ac yn cael ei frenhiniaeth yn ôl

Ail gyflawniad y broffwydoliaeth:

  • (E) Pwy oedd y goeden yn ei gynrychioli?​—Darllenwch 1 Cronicl 29:23.

  • (F) Pryd daeth eu brenhiniaeth i ben? Sut rydyn ni’n gwybod nad oedd eu brenhiniaeth wedi ei hadfer pan oedd Iesu ar y ddaear?​—Darllenwch Luc 21:24.

  • (Ff) Pryd a lle cafodd y frenhiniaeth hon ei hadfer?

YR AIL GYFLAWNIAD

Brenhiniaeth

(E) Brenhinoedd Israel a oedd yn cynrychioli Teyrnas Dduw

Atal y frenhiniaeth

(F) Jerwsalem yn cael ei dinistrio, gan dorri ar draws llinach brenhinoedd Israel am 2,520 o flynyddoedd

Adfer y frenhiniaeth

(Ff) Iesu yn dechrau teyrnasu yn y nefoedd fel Brenin ar Deyrnas Dduw

Pa mor hir yw’r saith cyfnod?

Mae rhai rhannau o’r Beibl yn ein helpu ni i ddeall rhannau eraill. Er enghraifft, mae llyfr Datguddiad yn dweud bod tri amser a hanner yn cyfateb i 1,260 o ddyddiau. (Datguddiad 12:6, 14) Felly, byddai saith cyfnod yn ddwywaith hynny, sef 2,520 o ddyddiau. Weithiau yn y Beibl, bydd diwrnod yn cynrychioli blwyddyn. (Eseciel 4:6) Mae hyn yn wir am y saith cyfnod yn llyfr Daniel​—maen nhw’n cynrychioli 2,520 o flynyddoedd.

5. Mae’r byd wedi newid ers 1914

Rhagfynegodd Iesu beth fyddai cyflwr y byd ar ôl iddo ddod yn Frenin. Darllenwch Luc 21:9-11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Ydych chi wedi clywed am neu wedi gweld rhai o’r pethau hyn yn digwydd?

Disgrifiodd yr apostol Paul sut byddai pobl yn ymddwyn yn ystod dyddiau olaf llywodraethau dynol. Darllenwch 2 Timotheus 3:1-5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Ydych chi wedi gweld pobl yn ymddwyn fel hyn?

6. Mae gwybod am Deyrnas Dduw yn gofyn inni weithredu

Darllenwch Mathew 24:3, 14, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pa waith pwysig sy’n dangos bod Teyrnas Dduw yn llywodraethu heddiw?

  • Sut gallwch chi gael rhan yn y gwaith hwn?

Mae Teyrnas Dduw yn rheoli nawr ac yn fuan iawn bydd yn rheoli’r ddaear gyfan. Darllenwch Hebreaid 10:24, 25, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth dylai pob un ohonon ni ei wneud wrth weld “y dydd yn dod yn agos”?

Petasech chi’n dysgu rhywbeth a allai helpu pobl ac achub bywydau, beth fyddech chi’n ei wneud?

BYDD RHAI YN GOFYN: “Pam mae Tystion Jehofa yn rhoi cymaint o bwys ar y flwyddyn 1914?”

  • Sut byddech chi’n ateb?

CRYNODEB

Mae cronoleg, proffwydoliaethau’r Beibl, a chyflwr y byd yn profi bod Teyrnas Dduw yn llywodraethu nawr. Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n credu hyn drwy bregethu a mynd i’r cyfarfodydd.

Adolygu

  • Beth ddigwyddodd ar ddiwedd y saith cyfnod yn llyfr Daniel?

  • Pam rydych chi’n sicr bod Teyrnas Dduw wedi dechrau teyrnasu ym 1914?

  • Sut gallwch chi ddangos eich bod chi’n credu bod y Deyrnas yn teyrnasu nawr?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch beth mae haneswyr ac eraill yn dweud am sut mae’r byd wedi newid ers 1914.

“Pryd Gwnaeth Moesau Ddechrau Dirywio’n Sydyn?” (Deffrwch!, Ebrill 2007)

Dysgwch sut cafodd y broffwydoliaeth ym Mathew 24:14 effaith fawr ar fywyd un dyn.

“O’n i’n Caru Pêl-fas yn Fwy na Dim Byd Arall!” (Erthygl o’r Tŵr Gwylio)

 Sut rydyn ni’n gwybod bod y broffwydoliaeth yn Daniel pennod 4 yn cyfeirio at Deyrnas Dduw?

“Pryd Dechreuodd Teyrnas Dduw Reoli? (Rhan 1)” (Y Tŵr Gwylio, Hydref 1, 2014)

Beth sy’n dangos bod y “saith cyfnod” yn Daniel pennod 4 wedi dod i ben ym 1914?

“Pryd Dechreuodd Teyrnas Dduw Reoli? (Rhan 2)” (Y Tŵr Gwylio , Tachwedd 1, 2014)

a Gweler y  ddwy erthygl olaf yn y rhan Darganfod Mwy yn y wers hon.