Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 33

Beth Fydd y Deyrnas yn ei Gyflawni?

Beth Fydd y Deyrnas yn ei Gyflawni?

Mae Teyrnas Dduw eisoes yn rheoli. Yn fuan iawn, fe fydd yn gwneud newidiadau mawr ar y ddaear. Dewch inni ystyried rhai o’r pethau da gallwch chi edrych ymlaen atyn nhw o dan y Deyrnas.

1. Sut bydd Teyrnas Dduw yn dod â heddwch a chyfiawnder i’r ddaear?

Bydd Iesu, Brenin Teyrnas Dduw, yn dinistrio pobl ddrwg a’u llywodraethau yn rhyfel Armagedon. (Datguddiad 16:14, 16) Dyma pryd caiff yr addewid canlynol yn y Beibl ei gyflawni’n llwyr: “Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig.” (Salm 37:10) Bydd Iesu’n defnyddio’r Deyrnas i sicrhau bod heddwch a chyfiawnder yn llenwi’r ddaear.​—Darllenwch Eseia 11:4.

2. Sut bydd bywyd ar y ddaear pan gaiff ewyllys Duw ei wneud?

O dan Deyrnas Dduw, “bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.” (Salm 37:29) Dychmygwch sut brofiad bydd byw mewn byd lle mae pawb yn gyfiawn a phob un yn caru Jehofa a phobl eraill! Ni fydd neb yn mynd yn sâl a bydd pawb yn byw am byth.

3. Beth fydd Teyrnas Dduw yn ei wneud ar ôl i’r bobl ddrwg gael eu dinistrio?

Ar ôl i’r bobl ddrwg gael eu dinistrio, bydd Iesu yn teyrnasu am fil o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd Iesu a’r 144,000 sy’n rheoli gydag ef yn helpu pobl ar y ddaear i ddod yn berffaith. Erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, bydd y ddaear yn baradwys, yn llawn pobl hapus sy’n ufudd i Jehofa. Yna, bydd Iesu yn rhoi’r Deyrnas yn ôl i’w Dad, Jehofa. Bydd enw Jehofa yn cael ei sancteiddio yn fwy nag erioed o’r blaen. (Mathew 6:9, 10) Bydd pawb yn gwybod bod Jehofa yn rheolwr da sy’n gofalu am ei bobl. Yna, bydd Jehofa yn dinistrio Satan, y cythreuliaid, ac unrhyw un arall sy’n gwrthryfela yn Ei erbyn. (Datguddiad 20:7-10) Bydd bywyd perffaith o dan Deyrnas Dduw yn para am byth.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch pam gallwn gredu y bydd Duw yn defnyddio’r Deyrnas i gyflawni ei holl addewidion ar gyfer y dyfodol.

4. Bydd Teyrnas Dduw yn rhoi terfyn ar lywodraethau dynol

“Mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.” (Pregethwr 8:9) Bydd Jehofa yn defnyddio ei Deyrnas i newid y sefyllfa hon.

Darllenwch Daniel 2:44 ac 2 Thesaloniaid 1:6-8, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth fydd Jehofa a’i fab, Iesu, yn ei wneud am lywodraethau dynol a’r rhai sy’n eu cefnogi?

  • Wrth ichi ddod i adnabod Jehofa ac Iesu, pam rydych chi’n sicr y byddan nhw’n gweithredu’n gyfiawn?

5. Iesu yw’r Brenin gorau posib

Fel Brenin ar Deyrnas Dduw, bydd Iesu yn gwneud llawer er lles ei bobl ar y ddaear. Gwyliwch y FIDEO i weld sut mae Iesu eisoes wedi dangos bod ganddo’r awydd, a’r gallu i helpu pobl.

Roedd y pethau a wnaeth Iesu ar y ddaear yn enghreifftiau o’r hyn fydd yn digwydd o dan y Deyrnas. Pa fendithion yn y rhestr ganlynol hoffech chi eu gweld? Darllenwch yr adnodau yn y rhestr sy’n disgrifio’r bendithion hynny.

AR Y DDAEAR, ROEDD IESU YN . . .

O’R NEF, BYDD IESU YN . . .

  • datrys problemau amgylcheddol y ddaear.​—Eseia 35:1, 2.

  • cael gwared ar newyn.​—Salm 72:16.

  • sicrhau bod iechyd perffaith gan bawb.​—Eseia 33:24.

6. O dan y Deyrnas, bydd y dyfodol yn wych

Bydd y Deyrnas yn cyflawni pwrpas gwreiddiol Duw ar gyfer bodau dynol. Byddan nhw’n byw am byth mewn paradwys ar y ddaear. Gwyliwch y FIDEO i weld sut mae Jehofa yn defnyddio ei fab, Iesu, i gyflawni ei bwrpas.

Darllenwch Salm 37:4, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut rydych chi’n teimlo o wybod y bydd Jehofa yn rhoi i bob un ddymuniad ei galon?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Os bydd pawb yn cydweithio, gallwn ddatrys problemau’r byd.”

  • Pa broblemau y bydd Teyrnas Dduw yn eu datrys sy’n rhy anodd i lywodraethau dynol?

CRYNODEB

Bydd Teyrnas Dduw yn troi’r ddaear yn baradwys llawn pobl dda a fydd yn addoli Jehofa am byth.

Adolygu

  • Sut bydd Teyrnas Dduw yn sancteiddio enw Jehofa?

  • Pam gallwn gredu y bydd Teyrnas Dduw yn gwireddu pob addewid yn y Beibl?

  • O’r holl bethau y bydd y Deyrnas yn eu gwneud, pa un rydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch beth fydd yn digwydd yn ystod ac ar ddiwedd teyrnasiad mil blynyddoedd Iesu.

“Beth Fydd yn Digwydd ar Ddydd y Farn?” (Y Tŵr Gwylio, Medi 1, 2012)

Gwelwch sut gall teuluoedd fyfyrio ar y bendithion a ddaw o dan y Deyrnas.

Gweld Dy Hun ym Mharadwys (1:50)

Yn yr hanes “Roedd Gen i Lawer o Gwestiynau Oedd yn fy Mhoeni,” dysgwch sut daeth gwrthryfelwr gwleidyddol o hyd i atebion.

“Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” (Y Tŵr Gwylio, Ionawr 1, 2012)