Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 35

Sut i Wneud Penderfyniadau Da

Sut i Wneud Penderfyniadau Da

Mae pawb yn gorfod gwneud penderfyniadau. Bydd llawer o’r penderfyniadau hyn yn cael effaith fawr arnon ni ac ar ein perthynas â Jehofa. Er enghraifft, efallai bydd yn rhaid inni benderfynu ble byddwn ni’n byw, sut byddwn yn ennill bywoliaeth, ac a fyddwn ni’n priodi ai peidio. Trwy wneud penderfyniadau da, gallwn gael bywyd hapus a phlesio Jehofa.

1. Sut gallwch chi ddefnyddio’r Beibl i wneud penderfyniadau da?

Cyn penderfynu, gweddïwch am help Jehofa a darllenwch y Beibl i weld sut y mae Jehofa yn teimlo. (Darllenwch Diarhebion 2:3-6.) Weithiau bydd Jehofa wedi rhoi gorchymyn clir. Os felly, y penderfyniad gorau yw ufuddhau iddo.

Ond beth os nad oes gorchymyn clir yn y Beibl? Bydd Jehofa yn dal “yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.” (Eseia 48:17) Sut felly? Mae’n debyg y bydd egwyddorion ar gael i’ch helpu chi. Egwyddorion yw gwirioneddau sylfaenol sy’n datgelu meddyliau a theimladau Duw. Yn aml byddwn ni’n gweld sut mae Duw yn teimlo am rywbeth drwy ddarllen un o’r hanesion yn y Beibl. Ar ôl canfod sut mae Jehofa yn teimlo, byddwn ni’n gallu gwneud penderfyniadau sy’n ei blesio.

2. Beth dylech chi ei ystyried cyn gwneud penderfyniad?

Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r call yn ystyried pob cam.” (Diarhebion 14:15, BCND) Felly cyn penderfynu, mae’n bwysig inni feddwl am y dewisiadau. Wrth bwyso a mesur y dewisiadau, gofynnwch: ‘Pa egwyddorion o’r Beibl sy’n berthnasol yma? Pa ddewis fydd yn rhoi tawelwch meddwl imi? Sut bydd fy mhenderfyniad yn effeithio ar eraill? Ac yn bwysicach fyth, a fydd y penderfyniad yn plesio Jehofa?’—Deuteronomium 32:29.

Mae gan Jehofa yr hawl i ddweud beth sy’n dda a beth sy’n ddrwg. Wrth inni ddod yn gyfarwydd â’i ddeddfau a’i egwyddorion, ac yn eu dilyn, byddwn ni’n hyfforddi ein cydwybod. Y gydwybod yw’r llais mewnol sy’n dweud wrthon ni a yw rhywbeth yn dda neu’n ddrwg. (Rhufeiniaid 2:14, 15) Drwy hyfforddi ein cydwybod byddwn yn gallu gwneud penderfyniadau da.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch sut mae egwyddorion y Beibl a’r gydwybod yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau.

3. Dilynwch gyngor y Beibl

Sut gall egwyddorion y Beibl ein helpu ni i wneud penderfyniadau? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

  • Beth yw ewyllys rhydd?

  • Pam rhoddodd Jehofa ewyllys rhydd inni?

  • Beth mae Jehofa wedi ei roi inni er mwyn ein helpu ni i ddefnyddio ein hewyllys rhydd yn y ffordd orau bosib?

I weld enghraifft o egwyddor o’r Beibl, darllenwch Effesiaid 5:15,16. Yna trafodwch sut gallwch chi “ddefnyddio eich amser yn y ffordd orau” . . .

  • i ddarllen y Beibl yn rheolaidd.

  • i fod yn berson gwell, fel gŵr, gwraig, rhiant, mab, neu ferch.

  • i fynychu cyfarfodydd y gynulleidfa.

4. Hyfforddwch eich cydwybod i wneud penderfyniadau da

Pan welwn orchymyn clir yn y Beibl, efallai bydd y dewis iawn yn hawdd. Ond beth os nad oes gorchymyn clir? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Yn y fideo, pa gamau a gymerodd y chwaer i hyfforddi ei chydwybod ac i wneud penderfyniad a fyddai’n plesio Jehofa?

Pam na ddylen ni ofyn i eraill benderfynu droston ni? Darllenwch Hebreaid 5:14, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Er ei bod weithiau yn haws gofyn i eraill benderfynu droston ni, beth mae’n bwysig inni allu ei wneud?

  • Beth sydd ar gael i’ch helpu chi i hyfforddi eich cydwybod a gwneud penderfyniadau da?

Yn debyg i fap, mae’r gydwybod yn dangos inni ba ffordd i’w dewis mewn bywyd

5. Parchu cydwybod pobl eraill

Bydd pobl wahanol yn gwneud penderfyniadau gwahanol. Sut gallwn ni barchu cydwybod pobl eraill? Ystyriwch ddwy sefyllfa:

Sefyllfa 1: Mae chwaer sy’n hoffi gwisgo llawer o golur yn symud i gynulleidfa lle mae’r chwiorydd, ar y cyfan, yn teimlo’n anghyfforddus am hynny.

Darllenwch Rhufeiniaid 15:1 a 1 Corinthiaid 10:23, 24, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Ar sail yr adnodau hyn, beth efallai fydd y chwaer yn penderfynu? Beth wnewch chi os byddwch yng nghwmni rhywun y mae ei gydwybod yn gwahardd rhywbeth y mae eich cydwybod chithau yn ei ganiatáu?

Sefyllfa 2: Mae brawd yn dewis peidio ag yfed alcohol er ei fod yn gwybod nad yw’r Beibl yn gwahardd yfed alcohol yn gymedrol. Mae’n cael ei wahodd am bryd o fwyd lle mae’n gweld brodyr yn yfed alcohol.

Darllenwch Pregethwr 7:16 a Rhufeiniaid 14:1, 10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Ar sail yr adnodau hyn, beth efallai fydd y brawd yn penderfynu? Beth fyddwch chi’n ei wneud os ydych chi’n gweld rhywun yn gwneud rhywbeth nad yw eich cydwybod chithau yn ei ganiatáu?

 Pa gamau sy’n arwain at benderfyniadau da?

1. Gofynnwch i Jehofa eich helpu chi i benderfynu.—Iago 1:5.

2. Chwiliwch am egwyddorion perthnasol yn y Beibl ac yn y cyhoeddiadau. Gallwch hefyd ofyn am help gan Gristnogion profiadol.

3. Ystyriwch effaith y penderfyniad ar eich cydwybod chi ac ar gydwybod pobl eraill.

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae gen ti’r hawl i wneud fel y mynni di. Does dim ots beth mae eraill yn ei feddwl.”

  • Pam dylen ni ystyried teimladau Duw yn ogystal â theimladau pobl eraill?

CRYNODEB

Rydyn ni’n gwneud penderfyniadau da drwy ganfod sut mae Jehofa yn teimlo ac ystyried a fydd ein dewisiadau yn helpu pobl eraill neu eu niweidio.

Adolygu

  • Sut gallwch chi wneud penderfyniadau sy’n plesio Jehofa?

  • Sut gallwch chi hyfforddi eich cydwybod?

  • Sut gallwch chi barchu cydwybod pobl eraill?

Nod

DARGANFOD MWY

Sut gallwch chi wneud penderfyniadau sy’n cryfhau eich perthynas â Duw?

“Gwna Benderfyniadau Sy’n Plesio Duw” (Y Tŵr Gwylio, Ebrill 15, 2011)

Dysgwch fwy am sut mae Jehofa yn rhoi cyngor inni.

Mae Jehofa yn Arwain ei Bobl (9:50)

Gwelwch beth helpodd un dyn i wneud penderfyniad anodd.

Gyda Jehofa, Mae Pob Peth Da yn Sicr (5:46)

Dysgwch fwy am sut i blesio Jehofa pan nad oes gorchymyn penodol.

“A Oes Angen Rheol Bob Amser?” (Y Tŵr Gwylio, Rhagfyr 1, 2003)