Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 40

Sut Gallwn Ni Fod yn Lân yng Ngolwg Duw?

Sut Gallwn Ni Fod yn Lân yng Ngolwg Duw?

Dychmygwch fam gariadus yn paratoi ei bachgen bach ar gyfer yr ysgol. Y mae’n sicrhau ei fod wedi ymolchi a bod ei ddillad yn dwt ac yn daclus. Mae hyn yn ei gadw’n iach ac yn dangos i eraill bod ei rieni’n gofalu amdano. Mewn ffordd debyg, mae ein Tad cariadus, Jehofa, eisiau inni fod yn gorfforol ac yn foesol lân. Mae bod yn lân o les inni ac yn dod â chlod i Jehofa.

1. Sut gallwn ni fod yn gorfforol lân?

Mae Jehofa’n dweud wrthon ni: “Mae’n rhaid i chi fod yn sanctaidd.” (1 Pedr 1:16) Er mwyn inni fod yn sanctaidd, mae’n rhaid inni fod yn lân yn gorfforol ac yn foesol. Gallwn fod yn gorfforol lân drwy ymolchi’n rheolaidd, a thrwy gadw ein dillad, ein cartrefi, a’n ceir yn dwt ac yn daclus. Gallwn hefyd helpu i lanhau Neuadd y Deyrnas. Rydyn ni’n dod â chlod i Jehofa drwy gadw’n gorfforol lân.—2 Corinthiaid 6:3, 4.

2. Pa arferion dylen ni eu hosgoi er mwyn cadw’n lân?

Mae’r Beibl yn ein hannog ni i “lanhau ein hunain oddi wrth bob peth sy’n llygru cnawd ac ysbryd.” (2 Corinthiaid 7:1) Felly, rydyn ni’n osgoi unrhyw beth a all niweidio ein corff neu ein meddwl. Dylai ein meddyliau blesio Jehofa ac felly rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i wrthod meddyliau anweddus. (Salm 104:34) Rydyn ni hefyd yn ceisio siarad mewn ffordd lân.—Darllenwch Colosiaid 3:8.

Beth arall allai ein gwneud ni’n aflan yn gorfforol neu’n foesol? Gall rhai sylweddau wneud niwed i’n cyrff. Felly fyddwn ni ddim yn defnyddio tybaco, cnoi cnau betel neu ddail coca, na chamddefnyddio cyffuriau. O wneud hynny, rydyn ni’n iachach, ac yn dangos parch tuag at rodd bywyd. Rydyn ni hefyd yn ymdrechu i fod yn foesol lân drwy beidio â mastyrbio neu edrych ar bornograffi. (Salm 119:37; Effesiaid 5:5) Gall fod yn anodd trechu’r arferion hyn, ond bydd Jehofa yn ein helpu.—Darllenwch Eseia 41:13.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch sut mae bod yn gorfforol lân yn dod â chlod i Jehofa, a sut i drechu arferion aflan.

3. Mae bod yn gorfforol lân yn dod â chlod i Jehofa

Gallwn weld pa mor bwysig yw glendid i Jehofa drwy edrych ar ei orchmynion i Israel gynt. Darllenwch Exodus 19:10 a 30:17-19, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth mae’r adnodau hyn yn ei ddangos am safbwynt Jehofa ar lendid corfforol?

  • Pa arferion da fydd yn eich helpu chi i aros yn gorfforol lân?

Mae’n cymryd amser ac ymdrech i fod yn gorfforol lân. Ond mae’n hollol bosib, ni waeth ble rydyn ni’n byw neu faint o arian sydd gynnon ni. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Sut mae cadw ein heiddo yn dwt ac yn daclus yn dangos parch at y gwaith pregethu?

4. Trechu arferion drwg

Mae Jehofa yn gallu ein helpu ni i drechu unrhyw arfer drwg

Os ydych chi’n ysmygu neu’n camddefnyddio cyffuriau, mae’n debyg y byddwch chi’n gwybod pa mor anodd yw trechu’r arferion hynny. Beth all eich helpu? Meddyliwch am sut mae’r arfer yn effeithio arnoch chi. Darllenwch Mathew 22:37-39, ac yna trafodwch sut mae tybaco neu gamddefnyddio cyffuriau yn effeithio ar . . .

  • eich perthynas â Jehofa.

  • eich teulu a’r bobl o’ch cwmpas.

Gwnewch gynllun i drechu’r arfer drwg. a Gwyliwch y FIDEO.

Darllenwch Philipiaid 4:13, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gall gweddïo, astudio’r Beibl, a mynychu’r cyfarfodydd roi’r nerth i rywun fedru trechu arfer drwg?

5. Brwydro yn erbyn meddyliau ac arferion aflan

Darllenwch Colosiaid 3:5, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut rydyn ni’n gwybod bod pornograffi, secstio, a mastyrbio yn aflan yng ngolwg Jehofa?

  • Ydych chi’n meddwl ei bod yn rhesymol i Jehofa ddisgwyl inni fod yn foesol lân? Pam?

Dysgwch sut i frwydro yn erbyn meddyliau aflan. Gwyliwch y FIDEO.

Rhoddodd Iesu eglureb sy’n dangos bod aros yn foesol lân yn gofyn am ymdrech. Darllenwch Mathew 5:29, 30, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Nid oedd Iesu’n dweud y dylen ni niweidio ein hunain yn gorfforol, ond mae ei eiriau’n dangos bod angen inni gymryd camau pendant i osgoi meddyliau aflan. Beth gallwn ni ei wneud? b

Os ydych chi’n brwydro yn erbyn meddyliau aflan, mae Jehofa yn gwerthfawrogi eich ymdrechion. Darllenwch Salm 103:13, 14, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Os ydych chi’n brwydro yn erbyn arferion drwg, sut mae’r adnod hon yn eich helpu chi i beidio â rhoi’r ffidil yn y to?

Nid yw llithro yn golygu methu!

Gall fod yn hawdd meddwl, ‘Wel, dw i wedi methu felly waeth imi roi’r gorau iddi.’ Ond meddyliwch am hyn: Os bydd rhedwr yn baglu ac yn cwympo, nid yw hynny’n golygu ei fod wedi colli’r ras, na bod rhaid iddo fynd yn ôl i’r cychwyn. Yn yr un modd, dydy llithro’n ôl i ryw arfer drwg ddim yn golygu eich bod chi wedi colli’r frwydr. Gallwch chi fod yn falch o’r cynnydd rydych chi eisoes wedi ei wneud. Mae llawer o bobl wedi wynebu’r un her. Daliwch ati! Gyda help Jehofa, gallwch chi drechu’r arfer drwg.

BYDD RHAI YN DWEUD: “Dw i’n gaeth. Alla’ i ddim stopio.”

  • Pa adnod gallwch chi ei rhannu i ddangos bod Jehofa yn gallu eich helpu chi i drechu arferion drwg?

CRYNODEB

Mae cadw ein cyrff, ein meddyliau, a’n hymddygiad yn lân yn plesio Jehofa.

Adolygu

  • Pam mae’n bwysig inni fod yn lân?

  • Sut gallwch chi fod yn gorfforol lân?

  • Sut gallwch chi gadw eich meddyliau a’ch ymddygiad yn lân?

Nod

DARGANFOD MWY

Pa bethau syml gallwch chi eu gwneud i fod yn gorfforol lân, hyd yn oed os nad oes llawer o arian gynnoch chi?

Iechyd a Hylendid—Golchi Dwylo (3:01)

Gwelwch rai camau ymarferol y gallwch eu cymryd i stopio ysmygu.

“Sut i Roi’r Gorau i Ysmygu” (Deffrwch!, Mai 2010)

Gwelwch sut llwyddodd un dyn i drechu ei ddibyniaeth ar bornograffi.

“Wnes i Fethu Nifer o Weithiau Cyn Imi Lwyddo” (Y Tŵr Gwylio Rhif 4 2016)

a Mae’r erthygl “Sut i Roi’r Gorau i Ysmygu” o dan y pennawd Darganfod Mwy yn y wers hon yn rhestru camau ymarferol y gallwch eu cymryd i drechu dibyniaeth.

b I gael help i ennill y frwydr yn erbyn mastyrbio gweler “Sut Galla i Ennill y Frwydr yn Erbyn Mastyrbio?” yn y llyfr Cwestiynau Pobl Ifanc—Atebion Sy’n Gweithio, Cyfrol 1, pennod 25.