Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 41

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ryw?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ryw?

Mae llawer o bobl yn teimlo’n anghyfforddus yn siarad am ryw. Ond mae’r Beibl yn trafod rhyw mewn ffordd sydd yn blaen ond eto’n barchus. Mae’r hyn y mae’n ei ddweud yn gallu ein helpu ni. Ac mae hynny yn gwneud synnwyr. Wedi’r cwbl, Jehofa yw ein Creawdwr, ac felly y mae’n gwybod beth sydd orau inni. Mae’n dangos sut y gallwn ni ei blesio, a beth fydd yn ein helpu ni i fwynhau bywyd am byth.

1. Beth yw barn Duw ar ryw?

Rhodd oddi wrth Jehofa yw rhyw. Ei fwriad yw i ŵr a gwraig fwynhau’r rhodd honno. Mae rhyw nid yn unig yn caniatáu i gyplau gael plant, ond hefyd i ddangos eu cariad tuag at ei gilydd mewn ffordd naturiol. Dyna pam mae Gair Duw yn dweud: “Mwynha dy hun gyda’r wraig briodaist ti pan yn ifanc.” (Diarhebion 5:18, 19) Mae Jehofa yn disgwyl i Gristion priod fod yn ffyddlon i’w gymar ac i beidio â godinebu.—Darllenwch Hebreaid 13:4.

2. Beth yw anfoesoldeb rhywiol?

Mae’r Beibl yn dweud “Ni fydd pobl sy’n anfoesol yn rhywiol . . . yn etifeddu Teyrnas Dduw.” (1 Corinthiaid 6:9, 10) Roedd ysgrifenwyr y Beibl yn defnyddio’r gair Groeg por·nei′a i ddisgrifio anfoesoldeb rhywiol. Mae’r gair hwnnw yn cynnwys (1) cyfathrach rywiol a rhwng pobl nad yw’n briod â’i gilydd, (2) cyfunrhywiaeth, a (3) cyfathrach rywiol rhwng pobl ac anifeiliaid. Rydyn ni’n plesio Jehofa ac yn gwneud lles i ni’n hunain drwy “wrthod anfoesoldeb rhywiol.”—1 Thesaloniaid 4:3.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch sut gallwch chi wrthod anfoesoldeb rhywiol a pham mae cadw’n foesol lân o les inni.

3. Ffoi oddi wrth anfoesoldeb rhywiol

Roedd dyn ffyddlon o’r enw Joseff yn gweithio’n galed i aros yn foesol lân. Darllenwch Genesis 39:1-12, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pam gwnaeth Joseff redeg i ffwrdd?—Gweler adnod 9.

  • Ydych chi’n meddwl bod Joseff wedi gwneud y penderfyniad iawn? Pam?

Sut gall pobl ifanc heddiw efelychu Joseff ac wrthod anfoesoldeb rhywiol? Gwyliwch y FIDEO.

Mae Jehofa yn dymuno inni i gyd wrthod anfoesoldeb. Darllenwch 1 Corinthiaid 6:18, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pa sefyllfaoedd allai achosi i rywun fod yn anfoesol?

  • Sut gallwch chi ffoi oddi wrth anfoesoldeb?

4. Gallwch wrthsefyll temtasiwn

Pam gall fod yn anodd gwrthod temtasiwn anfoesoldeb rhywiol? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Beth a wnaeth y brawd yn y fideo pan welodd fod peryg i’w ymddygiad arwain at anfoesoldeb?

Weithiau, mae hyd yn oed Cristnogion ffyddlon yn ei chael hi’n anodd cadw eu meddyliau’n lân. Sut gallwch chi stopio eich hunan rhag canolbwyntio ar bethau anfoesol? Darllenwch Philipiaid 4:8, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pa fath o bethau y dylen ni feddwl amdanyn nhw?

  • Sut gall darllen y Beibl a chadw’n brysur yn gwasanaethu Jehofa ein helpu ni i wrthsefyll y temtasiwn i bechu?

5. Mae safonau Jehofa yn fuddiol

Mae Jehofa yn gwybod beth sydd orau inni. Mae’n dweud wrthon ni am sut i gadw’n foesol lân ac am y bendithion sy’n dod o wneud hynny. Darllenwch Diarhebion 7:7-27 neu gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

  • Sut gwnaeth y dyn ifanc roi ei hun mewn sefyllfa lle roedd temtasiwn yn debygol o godi?—Gweler Diarhebion 7:8, 9.

  • Yn ôl Diarhebion 7:23, 26, gall anfoesoldeb rhywiol gael canlyniadau difrifol. Os ydyn ni’n aros yn foesol lân, pa broblemau y byddwn ni’n eu hosgoi?

  • Sut gall bod yn foesol lân ein helpu ni i fwynhau bywyd am byth?

Mae rhai pobl yn meddwl bod safbwynt y Beibl ar gyfunrhywiaeth yn rhy lym. Ond Duw cariadus ydy Jehofa, ac mae’n dymuno i bawb fwynhau bywyd am byth. Er mwyn cael gwneud hynny, mae’n rhaid inni fyw yn ôl ei safonau. Darllenwch 1 Corinthiaid 6:9-11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • O safbwynt Duw, ai chwantau cyfunrhywiol yw’r unig chwantau anweddus?

Er mwyn plesio Duw, mae’n rhaid i bob un ohonon ni wneud newidiadau. A yw’n werth yr ymdrech? Darllenwch Salm 19:8, 11, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Ydych chi’n meddwl bod safonau moesol Jehofa yn rhesymol? Pam, neu pam ddim?

Mae Jehofa wedi helpu llawer o bobl i fyw yn ôl ei safonau moesol. Mae’n gallu eich helpu chi hefyd

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae rhyw rhwng unrhyw ddau unigolyn yn iawn cyn belled â’u bod nhw’n caru ei gilydd.”

  • Beth byddech chi’n ei ddweud?

CRYNODEB

Rhodd gan Jehofa yw rhyw, i ŵr a gwraig ei mwynhau.

Adolygu

  • Beth mae anfoesoldeb rhywiol yn ei gynnwys?

  • Beth fydd yn ein helpu ni i osgoi anfoesoldeb rhywiol?

  • Sut mae dilyn safonau moesol Jehofa yn gwella ein bywydau?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch pam mae Duw am i ddyn a dynes briodi cyn iddyn nhw fyw gyda’i gilydd.

“Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Gyd-Fyw Heb Briodi?” (Erthygl ar jw.org)

Ystyriwch pam nad yw safon y Beibl ar gyfunrhywiaeth yn annog casineb.

“A Oes Rhywbeth o’i Le ar Gyfunrhywiaeth?” (Erthygl ar jw.org)

Dysgwch sut mae gorchmynion Duw ynglŷn â rhyw yn ein hamddiffyn.

“Ai Rhyw Go Iawn Yw Rhyw Geneuol?” (Erthygl ar jw.org)

Yn yr hanes “Roedden Nhw yn Fy Nhrin ag Urddas,” gwelwch sut gwnaeth un dyn hoyw newid ei ffordd o fyw er mwyn plesio Duw.

“Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” (Y Tŵr Gwylio, Ebrill 1, 2011)

a Mae cyfathrach rywiol yn cynnwys rhyw geneuol, rhyw rhefrol, a mastyrbio rhywun arall.