Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 42

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Fod yn Sengl ac am Briodi?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Fod yn Sengl ac am Briodi?

Mewn rhai diwylliannau, mae pobl yn credu mai priodi yw’r unig ffordd i fod yn hapus. Ond nid yw pob priodas yn un hapus, ac nid yw pob person sengl yn anhapus. Yn ôl y Beibl, mae bywyd priodasol a bywyd di-briod yn rhoddion gan Dduw.

1. Beth yw manteision bod yn sengl?

Mae’r Beibl yn dweud: “Mae pwy bynnag sy’n priodi yn gwneud yn dda, ond bydd pwy bynnag sydd ddim yn priodi yn gwneud yn well.” (Darllenwch 1 Corinthiaid 7:32, 33, 38.) Ym mha ffyrdd gall rhywun sengl wneud yn well? Nid oes angen i Gristion sengl ofalu am anghenion cymar. Felly yn gyffredinol, mae ganddyn nhw fwy o ryddid. Er enghraifft, mae rhai wedi gallu ehangu eu gweinidogaeth a mynd i wledydd eraill i rannu’r newyddion da. Yn bwysicach byth, maen nhw’n gallu treulio mwy o amser yn agosáu at Jehofa.

2. Beth yw manteision priodi yn swyddogol?

Mae bod yn briod a bod yn sengl yn dod â manteision gwahanol. Mae’r Beibl yn dweud bod “dau gyda’i gilydd yn well nag un.” (Pregethwr 4:9) Mae hyn yn arbennig o wir yn achos Cristnogion sy’n rhoi egwyddorion y Beibl ar waith yn eu priodas. Mae cyplau sy’n priodi’n swyddogol yn gwneud ymrwymiad i garu, i barchu, ac i drysori ei gilydd. Yn wahanol i’r rhai sy’n byw gyda’i gilydd heb briodi, mae ganddyn nhw berthynas sefydlog a sylfaen da ar gyfer magu teulu.

3. Sut mae Jehofa yn teimlo am briodas?

Wrth sefydlu’r briodas gyntaf, dywedodd Jehofa y bydd “dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig.” (Genesis 2:24) Mae Jehofa eisiau i ŵr a gwraig garu ei gilydd ac aros gyda’i gilydd nes iddyn nhw farw. Yn ei farn ef, yr unig reswm dros ysgariad yw pan fydd cymar yn godinebu. Yn yr achos hwnnw, mae Jehofa yn gadael i’r cymar dieuog benderfynu a fydd ef neu hi’n cael ysgariad neu beidio. a (Mathew 19:9) Nid yw Jehofa am i Gristnogion briodi mwy nag un cymar ar y tro.—1 Timotheus 3:2.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch sut gallwch chi fod yn hapus—a gwneud Jehofa yn hapus—p’un a ydych chi wedi priodi neu beidio.

4. Gwneud defnydd da o fod yn sengl

Roedd Iesu’n meddwl bod bywyd sengl yn rhodd. (Mathew 19:11, 12) Darllenwch Mathew 4:23, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut defnyddiodd Iesu ei fywyd sengl i wasanaethu ei Dad ac i helpu eraill?

Gall Cristnogion fwynhau defnyddio eu bywydau sengl fel y gwnaeth Iesu. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Sut gall Cristnogion sengl ddefnyddio eu bywydau mewn ffordd sydd yn eu gwneud nhw’n hapus?

Oeddech chi’n gwybod?

Nid yw’r Beibl yn rhoi oedran penodol ar gyfer priodi. Ond mae’n annog rhywun i aros nes ei fod wedi pasio’r adeg yn ei ieuenctid pan mae teimladau rhywiol ar eu cryfaf ac yn gallu amharu ar ei allu i wneud penderfyniadau doeth.—1 Corinthiaid 7:36.

5. Bod yn ddoeth wrth ddewis cymar

Dewis cymar yw un o’r penderfyniadau pwysicaf mewn bywyd. Darllenwch Mathew 19:4-6, 9, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam na ddylai Cristion fod mewn brys i briodi?

Gall y Beibl eich helpu chi i wybod pa rinweddau i edrych amdanyn nhw wrth ddewis cymar. Y peth pwysicaf oll yw cael cymar sy’n caru Jehofa. b Darllenwch 1 Corinthiaid 7:39 ac 2 Corinthiaid 6:14. Yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pam dylen ni briodi rhywun sy’n gyd-Gristion?

  • Sut rydych chi’n meddwl y byddai Jehofa yn teimlo pe baen ni’n priodi rhywun nad yw’n ei garu Ef?

Os bydd dau anifail gwahanol yn cael eu rhoi o dan iau gyda’i gilydd, byddan nhw’n dioddef. Yn yr un modd, bydd Cristion sy’n priodi anghrediniwr yn cael llawer o broblemau

6. Gweld priodas fel mae Jehofa yn ei gweld

Yn Israel gynt, roedd rhai dynion yn cael ysgariad am resymau hunanol. Darllenwch Malachi 2:13, 14, 16, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam mae Jehofa yn casáu ysgariad heb sail ysgrythurol?

Mae godinebu ac ysgaru yn brifo’r cymar dieuog a’r plant

Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Os ydych chi’n briod â rhywun sydd ddim yn addoli Jehofa, beth gallwch chi ei wneud er mwyn cael priodas lwyddiannus?

7. Rhoi safonau Jehofa ar waith yn eich priodas

Efallai bydd rhoi safonau Jehofa ar waith mewn priodas yn gofyn am ymdrech fawr. c Ond bydd Jehofa yn bendithio’r rhai sy’n gwneud yr ymdrech honno. Gwyliwch y FIDEO.

Darllenwch Hebreaid 13:4, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Ydych chi’n meddwl bod safonau Jehofa ar gyfer priodas yn rhesymol? Pam, neu pam ddim?

Mae Jehofa yn disgwyl i Gristnogion gofrestru eu priodas neu ysgariad yn ôl cyfreithiau’r wlad. Darllenwch Titus 3:1. Ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Os ydych chi’n briod, ydych chi’n sicr bod eich priodas yn un gyfreithiol?

BYDD RHAI YN GOFYN: “Pam mae angen priodi? Pam na all pobl fyw gyda’i gilydd heb briodi?”

  • Sut byddech chi’n ateb?

CRYNODEB

Mae bywyd priodasol a bywyd di-briod yn rhoddion gan Jehofa. Gall y ddau ddod â llawenydd os ydy rhywun yn byw yn unol â’i safonau.

Adolygu

  • Sut gall rhywun wneud defnydd da o’i fywyd sengl?

  • Pam mae’r Beibl yn dweud y dylen ni briodi dim ond rhywun sydd yn gyd-Gristion?

  • Beth yw’r unig sail Ysgrythurol dros ysgaru?

Nod

DARGANFOD MWY

Beth mae’n ei olygu i briodi “yn yr Arglwydd”?

“Cwestiynau Ein Darllenwyr” (Y Tŵr Gwylio, Gorffennaf 1, 2004)

Gwyliwch ddau ddramateiddiad a all eich helpu chi i wneud penderfyniadau da ynglŷn â chanlyn a phriodi.

Paratoi ar Gyfer Priodi (11:53)

Dysgwch pam mae brawd yn teimlo bod yr hyn mae Jehofa wedi ei roi iddo yn fwy gwerthfawr nag unrhyw beth y mae wedi ei aberthu.

O’n i’n Dal i Obeithio y Byddai hi’n Dysgu’r Gwir (1:56)

Beth dylai rhywun ystyried cyn meddwl am ysgaru neu wahanu?

“Parcha ‘Beth Mae Duw Wedi’i Uno’” (Y Tŵr Gwylio, Rhagfyr 2018)

a Gweler Ôl-nodyn 4 am y rhesymau dros wahanu heblaw am odinebu.

b Mewn rhai diwylliannau, y rhieni sy’n dewis cymar i’w plant. Os felly, y peth pwysicaf i rieni cariadus fydd dewis rhywun sy’n caru Jehofa yn hytrach na meddwl am arian neu statws cymdeithasol y cymar.

c Os ydych chi’n byw gyda rhywun heb briodi, eich penderfyniad chi yw priodi neu wahanu.