Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 48

Bod yn Ddoeth Wrth Ddewis Ffrindiau

Bod yn Ddoeth Wrth Ddewis Ffrindiau

Mae ffrindiau agos yn ein gwneud ni’n hapus pan fydd pethau’n mynd yn dda, ac maen nhw’n gefn inni pan fydd bywyd yn anodd. Ond mae’r Beibl yn ein rhybuddio nad yw pawb yn ffrind da. Felly sut gallwch chi ddewis ffrindiau da? Ystyriwch y cwestiynau canlynol.

1. Sut bydd eich ffrindiau yn dylanwadu arnoch chi?

Rydyn ni’n tueddu i ddod yn debyg i’r bobl rydyn ni’n cymdeithasu â nhw. Gall hyn fod yn beth da, neu’n beth drwg, ac mae hyn yn wir p’un a ydyn ni’n treulio amser gyda nhw wyneb yn wyneb neu ar lein. Fel mae’r Beibl yn dweud, “mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid [rhai sydd ddim yn caru Jehofa] yn gofyn am drwbwl.” (Diarhebion 13:20) Mae ffrindiau sy’n caru Jehofa a’i addoli yn gallu eich helpu chi i aros yn agos ato ac i wneud penderfyniadau da. Ond mae ffrindiau agos y tu allan i’r gynulleidfa yn gallu gwneud inni ymbellhau oddi wrth Jehofa. Does dim syndod felly bod y Beibl yn ein hannog i fod yn ddoeth wrth ddewis ffrindiau. Pan fydd ein ffrindiau yn caru Jehofa, bydd hyn yn beth da i ni ac iddyn nhw. Gallwn ufuddhau i orchymyn y Beibl: “Daliwch ati i annog eich gilydd ac i gryfhau eich gilydd.”—1 Thesaloniaid 5:11.

2. Sut bydd Jehofa yn teimlo am ein dewis o ffrindiau?

Mae Jehofa yn dewis ei ffrindiau yn ofalus. “Mae ganddo berthynas glòs gyda’r rhai sy’n onest.” (Diarhebion 3:​32) Sut byddai Jehofa yn teimlo petasen ni’n dewis ffrindiau sydd ddim yn ei garu? Byddai hynny yn ei frifo. (Darllenwch Iago 4:4.) Ar y llaw arall, os ydyn ni’n gwrthod cwmni drwg ac yn agosáu at Jehofa a’r rhai sydd yn ei garu, bydd Jehofa yn hapus ac yn ein dewis ni’n ffrindiau iddo.—Salm 15:1-4.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch pam mae’n bwysig inni ddewis ffrindiau da, a sut gallwch chi wneud ffrindiau a fydd yn gwella eich bywyd.

3. Osgoi cwmni drwg

Mae pobl sydd ddim yn caru Jehofa a’i safonau yn gwmni drwg. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Sut efallai byddwn ni’n cadw cwmni drwg heb sylweddoli?

Darllenwch 1 Corinthiaid 15:​33, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pa fath o berson allai fod yn gwmni drwg i chi? Pam?

Darllenwch Salm 119:​63, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth sy’n bwysig ei gael mewn ffrind?

Gall un afal drwg lygru’r gweddill. Sut gall ffrind drwg ddylanwadu arnoch chi?

4. Gallwn ni wneud ffrindiau â phobl sy’n wahanol iawn i ni

Mae’r Beibl yn disgrifio Dafydd a Jonathan, dau ddyn oedd yn byw yn Israel gynt. Roedden nhw’n wahanol iawn o ran oedran ac amgylchiadau ond roedden nhw’n ffrindiau da. Darllenwch 1 Samuel 18:​1, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam gallwn ni gael ffrindiau o wahanol oedran neu gefndir?

Darllenwch Rhufeiniaid 1:​11, 12, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gall ffrindiau sy’n caru Jehofa annog ei gilydd?

Yn y fideo hwn, gwelwch sut daeth un brawd ifanc o hyd i ffrindiau mewn llefydd annisgwyl. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Yn y fideo, pam roedd rhieni Akil yn poeni am ei ffrindiau ysgol?

  • Pam roedd Akil yn hoffi’r ffrindiau hynny ar y dechrau?

  • Sut daeth Akil dros deimlo’n unig?

5. Sut i feithrin cyfeillgarwch

Ystyriwch sut i ddod o hyd i ffrindiau da​—a sut i fod yn ffrind da. Gwyliwch y FIDEO.

Darllenwch Diarhebion 18:24 a 27:​17, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut mae ffrindiau go iawn yn helpu ei gilydd?

  • Oes gynnoch chi ffrindiau da? Os hoffech chi gael ffrindiau agos, sut gallwch chi fynd ati?

Darllenwch Philipiaid 2:​4, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Er mwyn cael ffrindiau da, mae’n rhaid ichi fod yn ffrind da. Sut gallwch chi fod yn ffrind da?

Er mwyn cael ffrindiau da, mae’n rhaid ichi fod yn ffrind da

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae unrhyw ffrind yn well na bod heb ffrind o gwbl.”

  • Beth fyddech chi’n ei ddweud?

CRYNODEB

Mae dewis ein ffrindiau’n ddoeth yn plesio Jehofa ac yn gwneud lles i ni.

Adolygu

  • Pam mae ein ffrindiau yn bwysig i Jehofa?

  • Pa fath o ffrindiau dylen ni eu hosgoi?

  • Sut gallwch chi feithrin cyfeillgarwch â phobl fydd yn eich helpu chi i blesio Jehofa?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch sut gall ffrindiau da eich helpu yn ystod amseroedd anodd.

“Gwna Ffrindiau Da Cyn i’r Diwedd Ddod” (Y Tŵr Gwylio, Tachwedd 2019)

Beth dylech chi ei wybod am gymdeithasu ar lein?

Defnyddio Dy Ben Wrth Gymdeithasu Ar-Lein (4:​12)

Yn yr hanes “Roeddwn i’n Dyheu am Gael Dad Cariadus,” gwelwch beth a wnaeth i un dyn ddewis ffrindiau gwahanol.

“Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” (Y Tŵr Gwylio, Ebrill 1, 2012)