Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 50

Sut Gallwch Chi Gael Teulu Hapus?​—Rhan 2

Sut Gallwch Chi Gael Teulu Hapus?​—Rhan 2

Anrheg gan Jehofa ydy plant, ac felly y mae’n disgwyl i rieni ofalu amdanyn nhw. Mae Jehofa yn rhoi cyngor doeth sy’n gallu helpu rhieni i wneud hynny. Mae ei gyngor hefyd yn gallu helpu plant i gyfrannu at deulu hapus.

1. Pa gyngor mae Jehofa yn ei roi i rieni?

Mae Jehofa yn disgwyl i rieni garu eu plant ac i dreulio cymaint o amser â phosib gyda nhw. Hefyd, mae’n dymuno i rieni amddiffyn eu plant rhag niwed a dysgu egwyddorion y Beibl iddyn nhw. (Diarhebion 1:8) Mae’n dweud wrth dadau: “Parhewch [i fagu eich plant] yn . . . hyfforddiant Jehofa.” (Darllenwch Effesiaid 6:4.) Gall rhieni blesio Jehofa drwy ddilyn ei arweiniad ynglŷn â magu plant a thrwy beidio â rhoi’r cyfrifoldeb hwnnw i rywun arall.

2. Pa gyngor mae Jehofa yn ei roi i blant?

Mae Jehofa yn dweud wrth blant: “Byddwch yn ufudd i’ch rhieni.” (Darllenwch Colosiaid 3:​20.) Pan fydd plant yn parchu ac yn ufuddhau i’w rhieni, maen nhw’n gwneud Jehofa a’u rhieni yn hapus. (Diarhebion 23:​22-​25) Gosododd Iesu esiampl dda pan oedd yn blentyn. Er ei fod yn berffaith, roedd yn ufudd i’w rieni ac yn eu parchu.​—Luc 2:​51, 52.

3. Sut gall eich teulu chi agosáu at Dduw?

Os ydych chi’n rhiant, mae’n debyg eich bod chi eisiau i’ch plant garu Jehofa fel rydych chi’n ei garu. Gallwch chi eu helpu nhw drwy ddilyn cyngor y Beibl: “Rwyt [i ddysgu geiriau Jehofa yn] gyson i dy blant, a’u trafod nhw pan fyddi adre yn y tŷ ac i ffwrdd oddi cartref, pan fyddi’n mynd i gysgu ac yn codi yn y bore.” (Deuteronomium 6:7) Mae’n debyg eich bod chi’n gwybod bod angen ailadrodd rhywbeth i’ch plant nifer o weithiau er mwyn iddyn nhw ei gofio. Mae’r adnod hon yn dangos y dylech chi chwilio’n rheolaidd am gyfleoedd i siarad â’ch plant am Jehofa. Syniad da yw neilltuo amser bob wythnos i addoli Jehofa fel teulu. Hyd yn oed os nad oes gynnoch chi blant, byddwch chi’n elwa o gymryd amser bob wythnos i astudio Gair Duw.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch syniadau ymarferol sy’n helpu pawb yn y teulu i deimlo’n ddiogel ac i fod yn hapus.

4. Dysgu eich plant mewn ffordd gariadus

Gall dysgu plant fod yn heriol. Ond sut gall y Beibl helpu? Darllenwch Iago 1:​19, 20, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut gall rhieni ddangos cariad wrth siarad â’u plant?

  • Pam na ddylai rhieni ddisgyblu plentyn tra eu bod nhw’n ddig? a

5. Amddiffyn eich plant

Er mwyn cadw eich plant yn ddiogel, mae’n hanfodol eich bod chi’n siarad â nhw am ryw. Efallai bydd hyn braidd yn anodd. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

  • Pam mae rhai rhieni yn ei chael hi’n anodd siarad â’u plant am ryw?

  • Sut mae rhai rhieni wedi esbonio rhyw i’w plant?

Fel mae’r Beibl wedi ei ragfynegi, mae byd Satan yn mynd o ddrwg i waeth. Darllenwch 2 Timotheus 3:1, 13, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Mae rhai o’r bobl ddrwg y mae sôn amdanyn nhw yn adnod 13 yn cam-drin plant yn rhywiol. Felly, pam mae’n bwysig i rieni ddysgu eu plant am ryw, a sut i amddiffyn eu hunain rhag pobl o’r fath?

Oeddech chi’n gwybod?

Mae Tystion Jehofa yn cyhoeddi llawer o ddeunydd i helpu rhieni i ddysgu eu plant am ryw ac i’w hamddiffyn rhag cael eu cam-drin. Er enghraifft, gweler:

6. Parchu eich rhieni

Gall plant a phobl ifanc ddangos parch at eu rhieni yn y ffordd maen nhw’n siarad. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

  • Pam mae’n beth da i berson ifanc ddangos parch wrth siarad â’i rieni?

  • Sut gall person ifanc wneud hynny?

Darllenwch Diarhebion 1:8, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut dylai person ifanc ymateb pan fydd ei rieni yn rhoi cyngor iddo?

7. Addoli Jehofa gyda’ch teulu

Mae Tystion Jehofa yn neilltuo amser penodol bob wythnos er mwyn addoli fel teulu. Beth gallwch chi ei wneud yn ystod sesiwn addoliad teuluol? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

  • Sut gall teulu gynnal Addoliad Teuluol yn rheolaidd?

  • Sut gall rhieni sicrhau bod Addoliad Teuluol yn ymarferol ac yn hwyl?​—Gweler y llun ar ddechrau’r wers hon.

  • Pam gall fod yn anodd ichi astudio gyda’ch gilydd?

Yn Israel gynt, roedd Jehofa yn disgwyl i deuluoedd drafod yr Ysgrythurau’n rheolaidd. Darllenwch Deuteronomium 6:​6, 7, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gallwch chi roi’r egwyddor hon ar waith?

Syniadau ar gyfer addoliad teuluol:

  • Paratoi ar gyfer y cyfarfodydd.

  • Darllen a thrafod hanes o’r Beibl y bydd eich teulu yn ei fwynhau.

  • Os oes gynnoch chi blant bach, lawrlwythwch neu argraffwch un o’r gweithgareddau i blant sydd ar jw.org.

  • Os oes gynnoch chi blant yn eu harddegau, trafodwch un o’r erthyglau ar gyfer pobl ifanc sydd ar jw.org.

  • Chwarae rhan cymeriadau o’r Beibl gyda’ch plant.

  • Gwylio a thrafod fideo oddi ar jw.org.

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae’r Beibl yn rhy gymhleth i blant.”

  • Beth fyddech chi’n ei ddweud?

CRYNODEB

Mae Jehofa eisiau i rieni garu, ddysgu, ac amddiffyn eu plant. Mae eisiau i blant barchu ac ufuddhau i’w rhieni, ac i deuluoedd ei addoli gyda’i gilydd.

Adolygu

  • Sut gall rhieni ddysgu a hyfforddi eu plant?

  • Sut gall plant ddangos parch tuag at eu rhieni?

  • Pam mae addoli fel teulu bob wythnos yn bwysig?

Nod

DARGANFOD MWY

Pa wersi a all baratoi eich plant ar gyfer bod yn oedolion?

“Chwe Gwers Bwysig i Blant” (Deffrwch! Rhif 2 2019)

Gwelwch gyngor ymarferol mae’r Beibl yn ei roi i’r rhai sy’n gofalu am rieni oedrannus.

“Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Ofalu am Rieni Oedrannus?” (Erthygl ar jw.org)

Gwelwch sut gwnaeth dyn ddysgu sut i fod yn dad da.

Cael Ein Dysgu gan Jehofa i Fagu Ein Plant (5:58)

Ystyriwch sut gall tad gryfhau ei berthynas â’i fab.

“Sut Gall Tadau Aros yn Agos at Eu Meibion?” (Y Tŵr Gwylio, Tachwedd 1, 2011)

a Yn y Beibl, mae’r gair “disgyblaeth” yn cyfeirio at hyfforddiant, arweiniad, a cherydd. Nid yw byth yn golygu creulondeb na chamdriniaeth.​—Diarhebion 15:5.