Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 51

Sut Gallwch Chi Blesio Jehofa yn y Ffordd Rydych Chi’n Siarad?

Sut Gallwch Chi Blesio Jehofa yn y Ffordd Rydych Chi’n Siarad?

Pan wnaeth Jehofa ein creu ni, rhoddodd anrheg arbennig inni​—y gallu i siarad. Ydy’r ffordd rydyn ni’n defnyddio’r anrheg honno’n bwysig iddo? Ydy, wir. (Darllenwch Iago 1:​26.) Felly sut gallwn ni blesio Jehofa yn y ffordd rydyn ni’n siarad?

1. Sut dylen ni ddefnyddio ein gallu i siarad?

Mae’r Beibl yn dweud: “Daliwch ati i annog eich gilydd ac i gryfhau eich gilydd.” (1 Thesaloniaid 5:​11) Allwch chi feddwl am rai sydd angen anogaeth? Sut gallwch chi ei helpu nhw i deimlo’n well? Dywedwch wrthyn nhw eu bod nhw’n bwysig ichi. Efallai gallwch chi sôn am rywbeth arbennig rydych chi’n ei hoffi amdanyn nhw. Allwch chi feddwl am adnod a fydd yn codi eu calonnau? Mae nifer o adnodau y gallwch chi eu defnyddio. Cofiwch hefyd fod y ffordd rydych chi’n dweud rhywbeth yr un mor bwysig â’ch geiriau. Felly, ceisiwch fod yn garedig ac yn addfwyn bob amser.​—Diarhebion 15:1.

2. Pa fath o iaith dylen ni ei hosgoi?

Mae’r Beibl yn dweud: “Peidiwch â gadael i air drwg ddod allan o’ch ceg.” (Darllenwch Effesiaid 4:​29.) Mae hyn yn golygu na fyddwn ni’n defnyddio iaith aflan na siarad yn gas er mwyn brifo teimladau rhywun. Rydyn ni hefyd yn osgoi hel clecs neu bardduo enw da pobl eraill.​—Darllenwch Diarhebion 16:28.

3. Beth fydd yn ein helpu ni i siarad mewn ffordd bositif?

Yn aml, mae’r pethau rydyn ni’n siarad amdanyn nhw yn dangos beth sydd yn ein calonnau neu ar ein meddyliau. (Luc 6:45) Felly mae angen inni ganolbwyntio ar bethau positif​—pethau sydd yn gyfiawn, yn bur, sy’n hyrwyddo cariad ac sy’n haeddu canmoliaeth. (Philipiaid 4:8) Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid inni fod yn ddoeth wrth ddewis ein ffrindiau a’n hadloniant. (Diarhebion 13:20) Mae hefyd yn syniad da inni feddwl cyn inni siarad, ac i ystyried sut bydd ein geiriau’n effeithio ar eraill. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae siarad yn fyrbwyll fel cleddyf yn trywanu, ond mae geiriau doeth yn iacháu.”​—Diarhebion 12:18.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch sut i siarad mewn ffordd sy’n plesio Jehofa ac sy’n calonogi eraill.

4. Rheoli eich tafod

Ar adegau, rydyn ni i gyd yn dweud pethau rydyn ni’n difaru. (Iago 3:2) Darllenwch Galatiaid 5:​22, 23, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pa un o’r rhinweddau hyn gallwch chi weddïo amdanyn nhw i’ch helpu chi i reoli eich tafod? Sut byddai’r rhinweddau hyn yn eich helpu?

Darllenwch 1 Corinthiaid 15:​33, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gall eich ffrindiau a’ch adloniant ddylanwadu ar eich ffordd o siarad?

Darllenwch Pregethwr 3:​1, 7, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pryd byddai’n ddoeth inni gadw’n dawel neu aros am amser gwell i ddweud rhywbeth?

5. Dweud pethau da am bobl eraill

Sut gallwn ni osgoi brifo eraill neu ddweud pethau cas? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

  • Yn y fideo, pam roedd y brawd eisiau newid y ffordd roedd yn siarad am bobl eraill?

  • Beth a wnaeth y brawd er mwyn newid?

Darllenwch Pregethwr 7:​16, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth dylen ni ei gofio pan fydd yr awydd yn codi i siarad yn gas am rywun?

Darllenwch Pregethwr 7:​21, 22, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gall yr adnodau hyn eich helpu chi i beidio â gwylltio pan fydd eraill yn dweud pethau cas amdanoch chi?

6. Bod yn garedig wrth siarad â’ch teulu

Mae Jehofa eisiau inni siarad â’n teuluoedd mewn ffordd gariadus. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Beth fydd yn eich helpu chi i fod yn garedig wrth siarad â’ch teulu?

Darllenwch Effesiaid 4:​31, 32, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pa fath o iaith sy’n cryfhau’r berthynas rhwng aelodau teulu?

Dangosodd Jehofa faint oedd yn caru ei Fab, Iesu. Darllenwch Mathew 17:​5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gallwch chi efelychu Jehofa yn y ffordd rydych chi’n siarad â’ch teulu?

Chwiliwch am gyfleoedd i ganmol eraill

BYDD RHAI YN DWEUD: “Dw i’n siarad yn blwmp ac yn blaen. Does dim ots gen i sut mae pobl eraill yn teimlo am hynny.”

  • Ydych chi’n cytuno? Pam, neu pam ddim?

CRYNODEB

Mae geiriau’n bwerus. Mae’n rhaid inni feddwl yn ofalus am beth rydyn ni am ei ddweud, a phryd a sut byddwn ni’n ei ddweud.

Adolygu

  • Sut gallwch chi ddefnyddio eich geiriau i helpu eraill?

  • Pa fath o iaith y mae’n bwysig inni ei hosgoi?

  • Beth all ein helpu ni i ddefnyddio ein geiriau i galonogi pobl eraill?

Nod

DARGANFOD MWY

Beth gall ein helpu i siarad yn bositif?

Dysgu Sut i Ddefnyddio Geiriau Doeth (8:04)

Gwelwch beth gall eich helpu i osgoi rhegi.

“Ydy Rhegi Wir yn Ddrwg?” (Erthygl ar jw.org)

Gwelwch sut gallwch chi osgoi’r fagl o hel clecs

Sut Galla’ i Osgoi Hel Clecs? (2:36)

Dysgwch sut llwyddodd un dyn i stopio rhegi gyda help Jehofa.

“Dechreuais Feddwl o Ddifri am Gyfeiriad Fy Mywyd” (Y Tŵr Gwylio, Awst 1, 2013)