Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 54

Rôl y “Gwas Ffyddlon a Chall”

Rôl y “Gwas Ffyddlon a Chall”

Iesu sy’n ben ar y gynulleidfa Gristnogol. (Effesiaid 5:​23) Heddiw, mae Iesu’n arwain ei ddilynwyr o’r nefoedd drwy ddefnyddio “gwas ffyddlon a chall” yma ar y ddaear. (Darllenwch Mathew 24:45.) Gan fod y “gwas” wedi ei benodi gan Iesu ei hun, mae ganddo rywfaint o awdurdod, ond mae’n dal yn was i Grist ac yn gorfod gwasanaethu brodyr Crist. Pwy yw’r gwas hwnnw? A sut mae’r gwas yn gofalu amdanon ni?

1. Pwy yw’r “gwas ffyddlon a chall”?

Ers amser maith mae Jehofa wedi defnyddio naill ai dyn neu grŵp bach o ddynion i arwain ei bobl. (Malachi 2:7; Hebreaid 1:1) Ar ôl i Iesu farw, fe wnaeth yr apostolion a’r henuriaid yn Jerwsalem gymryd y blaen. (Actau 15:2) Gan ddilyn y patrwm hwnnw, heddiw mae grŵp bach o henuriaid​—Corff Llywodraethol Tystion Jehofa​—yn darparu bwyd ysbrydol ac yn arwain y gwaith pregethu. Y grŵp hwn yw’r “gwas ffyddlon a chall a benodwyd gan [Iesu].” (Mathew 24:45a) Mae holl aelodau’r Corff Llywodraethol wedi cael eu heneinio â’r ysbryd glan, ac yn edrych ymlaen at reoli gyda Iesu yn y nefoedd ar ôl i’w bywydau ar y ddaear ddod i ben.

2. Pa fwyd ysbrydol mae’r gwas ffyddlon yn ei ddarparu?

Dywedodd Iesu y byddai’r gwas ffyddlon yn rhoi “iddyn nhw [sef cyd-Gristnogion] eu bwyd ar yr amser iawn.” (Mathew 24:45b) Fel mae bwyd llythrennol yn ein helpu ni i aros yn gryf ac yn iach, mae bwyd ysbrydol, sef y dysgeidiaethau yng Ngair Duw, yn rhoi’r nerth inni aros yn ffyddlon i Jehofa, ac i wneud y gwaith mae Iesu wedi gofyn inni ei wneud. (1 Timotheus 4:6) Rydyn ni’n derbyn bwyd ysbrydol yn ein cyfarfodydd, cynulliadau a chynadleddau, yn ogystal â thrwy gyhoeddiadau a fideos sydd wedi eu seilio ar y Beibl. Mae’r rhain yn ein helpu ni i ddeall ewyllys Duw ac i gryfhau ein perthynas ag ef.

CLODDIO’N DDYFNACH

Gwelwch pam mae angen y “gwas ffyddlon a chall,” sef y Corff Llywodraethol.

Mae’r Corff Llywodraethol yn darparu bwyd ysbrydol, arweiniad a chymorth ymarferol ar gyfer Tystion Jehofa ledled y byd

3. Mae’n rhaid i bobl Jehofa gael eu trefnu

O dan arweiniad Iesu, mae’r Corff Llywodraethol yn trefnu gwaith Tystion Jehofa. Roedd Iesu’n arwain y Cristnogion cynnar mewn ffordd debyg. Gwyliwch y FIDEO.

Darllenwch 1 Corinthiaid 14:​33, 40, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut mae’r adnodau hyn yn dangos bod Jehofa am i’w Dystion fod yn drefnus?

4. Mae’r gwas ffyddlon yn trefnu ein gwaith pregethu

Pregethu oedd y gwaith pwysicaf roedd y Cristnogion cynnar yn ei wneud. Darllenwch Actau 8:​14, 25, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pwy oedd yn arwain gwaith pregethu’r Cristnogion cynnar?

  • Beth oedd ymateb Pedr ac Ioan i arweiniad yr apostolion eraill?

Pregethu yw’r gwaith pwysicaf mae’r Corff Llywodraethol yn ei drefnu. Gwyliwch y FIDEO.

Pwysleisiodd Iesu ba mor bwysig yw’r gwaith pregethu. Darllenwch Marc 13:​10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pam mae’r gwaith pregethu mor bwysig i’r Corff Llywodraethol?

  • Pam mae angen y “gwas ffyddlon a chall” i drefnu’r gwaith byd-eang hwn?

5. Mae’r gwas ffyddlon yn rhoi arweiniad

Mae’r Corff Llywodraethol yn rhoi arweiniad i Gristnogion ledled y byd. Sut mae’n penderfynu pa arweiniad i’w roi? Ystyriwch sut roedd y corff llywodraethol yn y ganrif gyntaf yn gwneud hynny. Darllenwch Actau 15:​1, 2, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Pa gwestiwn a oedd yn achosi dadleuon ymhlith y Cristnogion cynnar?

  • At bwy aeth Paul, Barnabas, ac eraill er mwyn datrys y broblem?

Darllenwch Actau 15:​12-​18, 23-​29, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Cyn penderfynu, sut aeth y corff llywodraethol cynnar ati i gael arweiniad Duw ar y cwestiwn?​​—Gweler adnodau 1215, a 28.

Darllenwch Actau 15:​30, 31 ac 16:​4, 5, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Beth oedd ymateb y Cristnogion cynnar i arweiniad y corff llywodraethol?

  • Sut gwnaeth Jehofa fendithio eu hufudd-dod?

Darllenwch 2 Timotheus 3:​16 ac Iago 1:​5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • I le mae’r Corff Llywodraethol yn mynd i gael arweiniad wrth wneud penderfyniadau heddiw?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Dilyn dynion ydych chi os ydych chi’n gwrando ar y Corff Llywodraethol.”

  • Beth sy’n profi i chi mai Iesu sydd yn arwain y Corff Llywodraethol?

CRYNODEB

Y Corff Llywodraethol yw’r “gwas ffyddlon a chall” a gafodd ei benodi gan Grist. Mae’n rhoi arweiniad a bwyd ysbrydol i Gristnogion ledled y byd.

Adolygu

  • Pwy a benododd y “gwas ffyddlon a chall”?

  • Sut mae’r Corff Llywodraethol yn gofalu amdanon ni?

  • Ydych chi’n credu mai’r Corff Llywodraethol yw’r “gwas ffyddlon a chall”?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch sut mae’r Corff Llywodraethol wedi ei drefnu er mwyn gwneud ei waith.

“Beth Yw Corff Llywodraethol Tystion Jehofa?” (Erthygl ar jw.org)

Dysgwch sut mae’r Corff Llywodraethol yn sicrhau ein bod ni’n cael bwyd ysbrydol sy’n ddibynadwy.

Sicrhau Bod Ein Cyhoeddiadau yn Gywir (17:18)

Sut mae aelodau’r Corff Llywodraethol yn teimlo am y gwaith mae Iesu wedi ei roi iddyn nhw?

Braint i’w Thrysori (7:04)

Sut mae ein cyfarfodydd a’n cynadleddau’n profi bod Jehofa yn arwain y Corff Llywodraethol?

Mae Jehofa yn Dysgu Ei Bobl (9:39)