Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 57

Beth Os Ydych Chi’n Pechu’n Ddifrifol?

Beth Os Ydych Chi’n Pechu’n Ddifrifol?

Er eich bod chi’n caru Jehofa o waelod eich calon ac eisiau osgoi gwneud unrhyw beth a allai ei frifo, byddwch chi’n gwneud camgymeriadau o bryd i’w gilydd. Sut bynnag, mae rhai pechodau’n fwy difrifol nag eraill. (1 Corinthiaid 6:​9, 10) Os ydych chi’n pechu’n ddifrifol, cofiwch fod Jehofa yn dal i’ch caru chi. Y mae’n fodlon maddau ichi a’ch helpu.

1. Beth sy’n rhaid inni ei wneud i gael maddeuant Jehofa?

Pan fydd pobl sy’n caru Jehofa yn sylweddoli eu bod nhw wedi pechu’n ddifrifol, maen nhw’n drist iawn. Ond mae Jehofa yn eu cysuro drwy addo: “Os ydy’ch pechodau chi’n goch llachar, gallan nhw droi’n wyn fel yr eira.” (Eseia 1:18) Os ydyn ni’n edifarhau, bydd Jehofa yn maddau inni’n llwyr. Ond sut rydyn ni’n edifarhau? Oherwydd ein bod ni’n teimlo’n ddrwg am beth rydyn ni wedi ei wneud, byddwn ni’n stopio ei wneud ac erfyn ar Jehofa i faddau inni. Wedyn byddwn ni’n gweithio’n galed i newid ein ffordd o feddwl a’r arferion sydd wedi ein harwain ni i bechu. A byddwn ni’n ceisio byw yn unol â safonau glân Jehofa.​—Darllenwch Eseia 55:​6, 7.

2. Sut mae Jehofa’n defnyddio’r henuriaid i helpu’r rhai sy’n pechu?

Os ydyn ni’n pechu’n ddifrifol, mae Jehofa yn dweud wrthon ni am “alw henuriaid y gynulleidfa.” (Darllenwch Iago 5:​14, 15.) Mae’r brodyr hyn yn caru Jehofa a’i ddefaid. Maen nhw’n gymwys i’n helpu ni i adfer ein perthynas â Jehofa.​​—Galatiaid 6:1.

Sut bydd yr henuriaid yn ein helpu ni os ydyn ni’n pechu’n ddifrifol? Bydd dau neu dri o henuriaid yn defnyddio’r Beibl i’n cywiro ni. Byddan nhw hefyd yn rhoi anogaeth inni a chynnig syniadau ymarferol i’n helpu ni i osgoi gwneud yr un camgymeriad eto. Efallai byddan nhw’n penderfynu peidio â gadael inni wneud rhai pethau yn y gynulleidfa nes bod ein perthynas â Jehofa yn gryf eto. Er mwyn amddiffyn y gynulleidfa rhag dylanwadau drwg, bydd yr henuriaid yn diarddel y rhai sy’n pechu’n ddifrifol ac sydd heb edifarhau.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch fwy am sut mae Jehofa yn ein helpu ni os ydyn ni’n pechu’n ddifrifol.

3. Mae cyffesu yn ein helpu i adfer ein perthynas â Jehofa

Mae pob pechod yn brifo Jehofa, felly mae’n bwysig inni gyffesu iddo ef. Darllenwch Salm 32:​1-5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam mae’n bwysig inni gyffesu ein pechodau i Jehofa, yn hytrach na cheisio eu cuddio?

Ar ôl inni gyffesu ein pechodau i Jehofa a siarad â’r henuriaid, byddwn ni’n teimlo’n llawer gwell. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Yn y fideo, sut gwnaeth yr henuriaid helpu Canon i droi’n ôl at Jehofa?

Mae’n rhaid inni fod yn agored ac yn onest gyda’r henuriaid; maen nhw yno i’n helpu ni. Darllenwch Iago 5:​16, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut mae bod yn onest gyda’r henuriaid yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw ein helpu?

Cyffeswch eich pechod, byddwch yn onest wrth siarad â’r henuriaid, a derbyniwch help cariadus Jehofa

4. Sut mae diarddel yn helpu?

Os bydd rhywun yn pechu’n ddifrifol ac yn gwrthod dilyn safonau Jehofa, nid yw’n bosib iddo barhau i fod yn rhan o’r gynulleidfa bellach. Mae’n cael ei ddiarddel, ac ni fyddwn ni’n cymdeithasu ag ef neu siarad ag ef rhagor. Darllenwch 1 Corinthiaid 5:​6, 11 ac 2 Ioan 9-​11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Fel mae lefain, neu furum, yn lledu drwy’r holl does, sut byddai cymdeithasu â rhywun sy’n gwrthod safonau Duw yn effeithio ar y gynulleidfa?

Ymhen amser, mae llawer sydd wedi cael eu diarddel wedi dod yn ôl i’r gynulleidfa. Pam? Er bod y ddisgyblaeth yn boenus, dyna sydd wedi eu helpu i sylweddoli eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth o’i le. (Salm 141:5) Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Yn y fideo, sut roedd cael ei diarddel yn helpu Sonja?

Sut mae diarddel . . .

  • yn dangos parch tuag at enw Jehofa?

  • yn dangos bod Jehofa yn rhesymol ac yn llawn cariad?

5. Mae Jehofa yn maddau inni pan fyddwn ni’n edifarhau

Rhoddodd Iesu eglureb sy’n dangos sut mae Jehofa yn teimlo pan fydd pobl yn edifarhau. Darllenwch Luc 15:​1-7, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth rydych chi’n ei ddysgu am Jehofa o’r adnodau hyn?

Darllenwch Eseciel 33:​11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn dangos ein bod ni’n edifar?

Yn debyg i fugail, mae Jehofa’n gofalu’n dyner am ei ddefaid

BYDD RHAI YN DWEUD: “Dw i’n poeni y bydda i’n cael fy niarddel os dyweda i wrth yr henuriaid fy mod i wedi pechu.”

  • Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n teimlo fel hyn?

CRYNODEB

Os ydyn ni’n pechu’n ddifrifol ond rydyn ni’n wir edifar ac yn benderfynol o beidio â’i wneud eto, bydd Jehofa yn maddau inni.

Adolygu

  • Pam mae’n beth da inni gyffesu ein pechodau i Jehofa?

  • Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn cael maddeuant am ein pechodau?

  • Os ydyn ni’n pechu’n ddifrifol, pam dylen ni geisio help yr henuriaid?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwelwch sut mae un dyn wedi profi trugaredd Jehofa yn y ffordd sy’n cael ei disgrifio yn Eseia 1:18.

Peidiwch Byth ag Amau Trugaredd Jehofa (5:​02)

Dysgwch sut y gallwch chi esbonio wrth rywun sydd ddim yn un o Dystion Jehofa pam mae rhai’n cael eu diarddel.

“Ydy Tystion Jehofa yn Osgoi Rhywun a Oedd yn Perthyn i’w Crefydd?” (Erthygl ar jw.org)

Yn yr hanes “Roedd Angen imi Droi’n ôl at Jehofa,” dysgwch pam mae un dyn a gefnodd ar y gwir am sbel yn teimlo bod Jehofa wedi ei ddenu’n ôl.

“Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” (Y Tŵr Gwylio, Ebrill 1, 2012)