Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 58

Aros yn Ffyddlon i Jehofa

Aros yn Ffyddlon i Jehofa

Mae gwir Gristnogion yn benderfynol o beidio â gadael i unrhyw un neu unrhyw beth amharu ar eu perthynas â Jehofa. Mae’n debyg mai dyna sut rydych chi’n teimlo ac mae Jehofa yn trysori eich ffyddlondeb yn fawr. (Darllenwch 1 Cronicl 28:9.) Pa sefyllfaoedd all roi prawf ar eich ffyddlondeb iddo, a beth all eich helpu chi?

1. Sut gall eraill roi prawf ar ein ffyddlondeb i Jehofa?

Bydd rhai pobl yn ceisio ein stopio ni rhag gwasanaethu Jehofa. Pwy fyddai’n gwneud y fath beth? Mae rhai sydd wedi gadael y gwir a throi’n wrthgilwyr yn dweud celwyddau am gyfundrefn Duw er mwyn dinistrio ein ffydd. Hefyd mae rhai arweinwyr crefyddol yn dweud celwyddau amdanon ni er mwyn ceisio gwneud i bobl anwyliadwrus stopio gwasanaethu Jehofa. Peth peryglus ydy dadlau gyda gwrthwynebwyr, darllen eu llyfrau a’u blogiau, ymweld â’u gwefannau neu wylio eu fideos. Wrth sôn am y rhai sy’n ceisio stopio eraill rhag gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon, dywedodd Iesu: “Gadewch iddyn nhw fod. Arweinwyr dall ydyn nhw. Felly, os bydd dyn dall yn arwain dyn dall, bydd y ddau yn syrthio i mewn i ffos.”​—Mathew 15:14.

Beth petai rhywun sy’n agos atoch chi’n penderfynu nad ydy ef eisiau bod yn un o Dystion Jehofa bellach? Gall hynny fod yn dorcalonnus. Efallai bydd y person yn eich gorfodi i ddewis rhyngddo ef a Jehofa. Mae’n rhaid bod yn benderfynol o aros yn ffyddlon i Dduw. (Mathew 10:37) Felly byddwn ni’n dilyn gorchymyn Jehofa i beidio â chadw cwmni pobl o’r fath.​—Darllenwch 1 Corinthiaid 5:​11.

2. Sut gall ein penderfyniadau personol ddangos ein bod ni’n ffyddlon i Jehofa?

Oherwydd ein bod ni’n caru Jehofa, byddwn ni eisiau sicrhau nad ydyn ni’n cael unrhyw beth i’w wneud â gau grefydd. Dylen ni sicrhau nad yw ein gwaith na’n gweithgareddau, nac unrhyw gyfundrefn rydyn ni’n perthyn iddi, yn gysylltiedig â gau grefydd. Mae Jehofa yn dweud wrthon ni: “Dewch allan [o Fabilon Fawr], fy mhobl.”​—Datguddiad 18:​2, 4.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch sut gallwch chi osgoi dylanwadau drwg all effeithio ar eich ffyddlondeb i Jehofa. Hefyd gwelwch sut gallwch brofi eich bod yn ffyddlon drwy adael Babilon Fawr.

3. Gwyliwch rhag gau athrawon

Sut dylen ni ymateb i straeon negyddol am gyfundrefn Jehofa? Darllenwch Diarhebion 14:​15, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam rydyn ni’n ofalus i beidio â chredu popeth rydyn ni’n ei glywed?

Darllenwch 2 Ioan 10, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:

  • Sut dylen ni drin gwrthgilwyr?

  • Hyd yn oed os nad ydyn ni’n siarad wyneb yn wyneb â gwrthgilwyr, sut gallen ni ddod ar draws eu dysgeidiaethau?

  • Sut rydych chi’n meddwl y byddai Jehofa yn teimlo petasen ni’n gwrando ar bethau negyddol amdano ef neu am ei gyfundrefn?

4. Aros yn ffyddlon i Dduw pan fydd brawd yn pechu

Os ydyn ni’n cael gwybod bod rhywun yn y gynulleidfa wedi pechu’n ddifrifol, pa ddyletswydd sydd arnon ni? Ystyriwch un o’r egwyddorion yng Nghyfraith Duw i Israel gynt. Darllenwch Lefiticus 5:1.

Fel mae’r adnod honno yn dweud, os ydyn ni’n cael gwybod bod rhywun wedi pechu’n ddifrifol, dylen ni ddweud wrth yr henuriaid. Ond cyn gwneud hynny, peth caredig fyddai siarad â’r person a’i annog i fynd at yr henuriaid a chyffesu. Os nad yw’n fodlon gwneud hynny, dylen ni fod yn ffyddlon i Jehofa a dweud wrth yr henuriaid beth rydyn ni’n ei wybod. Sut mae gwneud hyn yn dangos cariad tuag at . . .

  • Jehofa?

  • yr un sydd wedi pechu?

  • bobl eraill yn y gynulleidfa?

Os ydy un o’ch cyd-Gristnogion mewn trafferth, rhowch help iddo!

5. Cadw draw o Fabilon Fawr!

Darllenwch Luc 4:8 a Datguddiad 18:​4, 5, ac yna atebwch y cwestiynau hyn:

  • Ydy fy enw i’n dal ar restr aelodaeth unrhyw gau grefydd?

  • Ydw i’n perthyn i unrhyw gyfundrefn sy’n gysylltiedig â chrefydd arall?

  • Ydy fy ngwaith yn cefnogi gau grefydd mewn unrhyw ffordd?

  • A oes rhannau eraill o fy mywyd lle mae angen imi dorri cysylltiad â gau grefydd?

  • Os ydw i wedi rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau hyn, pa newidiadau mae’n rhaid imi eu gwneud?

Ym mhob achos, gwnewch benderfyniad sy’n rhoi cydwybod lân ichi ac sy’n dangos eich bod yn ffyddlon i Jehofa.

Beth byddech chi’n ei wneud petai rhywun yn gofyn ichi gyfrannu at elusen grefyddol?

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae’n bwysig imi wybod beth mae gwrthgilwyr yn ei ddweud am Dystion Jehofa er mwyn imi allu amddiffyn enw Duw.”

  • A fyddai hynny yn beth call? Pam, neu pam ddim?

CRYNODEB

Er mwyn aros yn ffyddlon i Jehofa, mae angen inni osgoi cadw cwmni’r rhai sydd yn anffyddlon iddo. Mae’n rhaid inni hefyd dorri pob cysylltiad â gau grefydd.

Adolygu

  • Pam na ddylen ni wylio, darllen, neu wrando ar syniadau gwrthgilwyr?

  • Sut dylen ni drin y rhai sydd ddim eisiau bod yn Dystion Jehofa bellach?

  • Sut gallwn ni ufuddhau i’r gorchymyn i ffoi oddi wrth gau grefydd?

Nod

DARGANFOD MWY

Dysgwch sut i ymateb pan fydd eraill yn lledaenu celwyddau am Dystion Jehofa.

“Oes Gen Ti’r Ffeithiau i Gyd?” (Y Tŵr Gwylio, Awst 2018)

Sut gallwch chi wybod pa gyfundrefnau neu weithgareddau sy’n cefnogi Babilon Fawr?

“Cadw’n Brysur yn Ystod Diwedd ‘y Dyddiau Diwethaf’” (Y Tŵr Gwylio, Hydref 2019, paragraffau 16-​18)

Beth mae rhai gwrthwynebwyr wedi ei wneud i geisio gwanhau ein ffydd?

Gwyliwch rhag Twyll (9:​32)

Yn yr hanes “Oeddwn i Wedi Bod yn Chwilio am Dduw Ers Fy Mhlentyndod,” darllenwch am offeiriad Shinto a wnaeth dorri pob cysylltiad â gau grefydd.

“Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” (Y Tŵr Gwylio, Gorffennaf 1, 2011)