Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 59

Gallwch Chi Aros yn Ffyddlon Er Gwaethaf Erledigaeth

Gallwch Chi Aros yn Ffyddlon Er Gwaethaf Erledigaeth

Yn hwyr neu’n hwyrach, bydd pob Cristion yn profi gwrthwynebiad neu hyd yn oed erledigaeth. A ddylai hynny godi ofn arnon ni?

1. Pam rydyn ni’n disgwyl cael ein herlid?

Mae’r Beibl yn dweud yn glir: “Bydd pawb sydd eisiau byw mewn undod â Christ Iesu ac sydd eisiau dangos defosiwn duwiol hefyd yn cael eu herlid.” (2 Timotheus 3:​12) Cafodd Iesu ei erlid oherwydd nad oedd yn rhan o fyd Satan. Dydyn ni ddim yn rhan o’r byd chwaith, felly nid yw’n syndod ein bod ni’n cael ein herlid gan lywodraethau a chyfundrefnau crefyddol y byd.​—Ioan 15:​18, 19.

2. Sut gallwn ni baratoi ar gyfer erledigaeth?

Mae angen inni gryfhau ein hyder yn Jehofa heddiw. Neilltuwch amser bob dydd i weddïo arno ac i ddarllen ei Air. Ewch i’r cyfarfodydd yn rheolaidd. Bydd gwneud y pethau hyn yn rhoi’r nerth ichi allu wynebu erledigaeth yn ddewr, hyd yn oed os yw’n dod o aelodau’r teulu. Cafodd yr apostol Paul ei erlid yn aml, ond dywedodd: “Jehofa ydy fy helpwr; dydw i ddim yn mynd i ofni.”​—Hebreaid 13:6.

Ffordd arall i fagu hyder yw drwy bregethu’n aml. Rydyn ni’n dysgu dibynnu ar Jehofa a dod dros unrhyw ofn dyn. (Diarhebion 29:25) Os ydych chi’n magu hyder i bregethu nawr, byddwch chi’n barod i bregeth hyd yn oed os bydd ein gwaith yn cael ei wahardd gan y llywodraeth.​—1 Thesaloniaid 2:2.

3. Sut gall dal ein tir er gwaethaf erledigaeth fod o les inni?

Wrth gwrs, does neb yn mwynhau cael ei erlid ond mae ein ffydd yn cael ei chryfhau pan fyddwn ni’n dyfalbarhau. Mae gwybod bod Jehofa wedi rhoi nerth inni pan oedden ni’n wan yn dod â ni’n nes ato. (Darllenwch Iago 1:​2-4.) Mae ein gweld ni’n dioddef yn brifo Jehofa, ond mae ein gweld ni’n dyfalbarhau yn ei blesio. Mae’r Beibl yn dweud: “Os ydych chi’n dyfalbarhau er gwaethaf dioddefaint oherwydd eich bod chi’n gwneud daioni, mae hynny’n plesio Duw.” (1 Pedr 2:​20) Os ydyn ni’n aros yn ffyddlon, bydd Jehofa yn ein gwobrwyo drwy roi inni fywyd tragwyddol yn y byd newydd lle bydd pawb yn addoli Jehofa a neb yn ein gwrthwynebu.​—Mathew 24:13.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch sut mae’n bosib aros yn ffyddlon er gwaethaf erledigaeth a sut bydd Jehofa yn ein gwobrwyo ni.

4. Gallwch aros yn ffyddlon er gwaethaf gwrthwynebiad gan aelodau’r teulu

Roedd Iesu’n gwybod yn iawn na fyddai pob aelod o’r teulu’n cefnogi ein penderfyniad i addoli Jehofa. Darllenwch Mathew 10:​34-​36, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth all ddigwydd pan fydd aelod o’r teulu yn dewis addoli Jehofa?

I weld esiampl o hyn, gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Beth byddech chi’n ei wneud petai perthynas neu ffrind yn ceisio eich atal rhag gwasanaethu Jehofa?

Darllenwch Salm 27:10 a Marc 10:​29, 30. Ar ôl darllen pob adnod, trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gall yr addewid hwn eich helpu chi os yw eich teulu neu eich ffrindiau yn eich gwrthwynebu?

5. Daliwch ati i wasanaethu Jehofa er gwaethaf erledigaeth

Mae gwasanaethu Jehofa pan fydd eraill yn ceisio ein stopio yn gofyn am ddewrder. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Sut mae’r esiamplau yn y fideo yn eich helpu chi i fod yn ddewr?

Darllenwch Actau 5:​27-29 a Hebreaid 10:​24, 25. Ar ôl darllen pob adnod, trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam mae’n bwysig inni ddal ati i addoli Jehofa, hyd yn oed pan fydd ein cyfarfodydd a’n gwaith pregethu’n cael eu gwahardd?

6. Bydd Jehofa yn eich helpu i ddyfalbarhau

Mae Tystion Jehofa o bob cefndir ac oedran wedi dal ati i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon er gwaethaf erledigaeth. I weld beth sydd wedi eu helpu nhw, gwyliwch y FIDEO. Yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

  • Yn y fideo, beth oedd yn helpu’r Tystion i ddyfalbarhau?

Darllenwch Rhufeiniaid 8:​35-​39 a Philipiaid 4:​13. Ar ôl darllen pob adnod, trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut mae’r adnod hon yn eich sicrhau bod dyfalbarhau’n bosib?

Darllenwch Mathew 5:​10-​12, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam gallwch chi fod yn hapus er gwaethaf erledigaeth?

Mae miliynau o Dystion Jehofa wedi aros yn ffyddlon i Dduw er gwaethaf gwrthwynebiad. Gallwch chi wneud yr un fath!

BYDD RHAI YN DWEUD: “Faswn i ddim yn gallu dioddef cael fy erlid.”

  • Pa adnodau gall roi hyder iddyn nhw?

CRYNODEB

Mae Jehofa yn trysori ein hymdrechion i’w wasanaethu er gwaethaf erledigaeth. Gyda’i help, mae’n bosib inni ddyfalbarhau!

Adolygu

  • Pam dylai Cristnogion ddisgwyl cael eu herlid?

  • Sut gallwch chi baratoi ar gyfer erledigaeth yn y dyfodol?

  • Beth gall eich helpu chi i fod yn hyderus y byddwch yn gallu gwasanaethu Jehofa er gwaethaf unrhyw dreial?

Nod

DARGANFOD MWY

Gwyliwch frawd ifanc yn esbonio sut roedd Jehofa yn ei helpu i ddyfalbarhau pan gafodd ei garcharu oherwydd ei safiad niwtral.

Dyfalbarhau er Gwaethaf Erledigaeth (2:​34)

Ystyriwch beth sydd wedi helpu un cwpl i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon am flynyddoedd lawer er gwaethaf gwrthwynebiad.

Gwasanaethu Jehofa yn Ystod Cyfnod o Newid (7:​11)

Sut dylen ni deimlo am wrthwynebiad gan aelodau’r teulu, a sut gallwn ni gadw heddwch ac aros yn ffyddlon i Jehofa ar yr un pryd?

“Dydy’r Gwirionedd ‘Ddim yn Dod â Heddwch, Ond Cleddyf’” ( Y Tŵr Gwylio, Hydref 2017)