Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 60

Daliwch Ati i Wneud Cynnydd

Daliwch Ati i Wneud Cynnydd

Wrth ichi fynd trwy’r cwrs hwn am y Beibl, rydych chi wedi dysgu llawer am Jehofa. Mae’r pethau rydych chi wedi eu dysgu amdano wedi eich helpu chi i nesáu ato ac mae’n debyg eich bod chi wedi ymgysegru iddo a chael eich bedyddio. Os nad ydych chi wedi cymryd y camau hyn eto, efallai eich bod chi’n meddwl am wneud hyn cyn bo hir. Ond fyddwch chi ddim yn stopio nesáu at Jehofa ar ôl ichi gael eich bedyddio. Gallwch barhau i nesáu ato am byth. Sut?

1. Pam dylech chi ddal ati i gryfhau eich perthynas â Jehofa?

Mae’n rhaid inni barhau i weithio’n galed er mwyn cryfhau ein perthynas â Jehofa. Pam? “Fel na fyddwn ni byth yn drifftio” oddi wrtho. (Hebreaid 2:1) Beth all ein helpu ni i ddal ati i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon? Gallwn gadw’n brysur yn y gwaith pregethu ac edrych am ffyrdd eraill i wasanaethu Duw. (Darllenwch Philipiaid 3:​16.) Gwasanaethu Jehofa yw’r ffordd orau o fyw!​—Salm 84:10.

2. Beth arall dylech chi ddal ati i’w wneud?

Er bod y cwrs hwn yn dod i ben, mae eich bywyd fel Cristion newydd ddechrau. Mae’r Beibl yn dweud bod rhaid inni roi amdanon ni’r “bersonoliaeth newydd.” (Effesiaid 4:​23, 24) Wrth ichi barhau i astudio Gair Duw a mynd i’r cyfarfodydd, byddwch yn dysgu mwy am Jehofa a’i bersonoliaeth. Edrychwch am ffyrdd i efelychu natur Duw yn eich bywyd. Daliwch ati i wneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen er mwyn plesio Jehofa.

3. Sut bydd Jehofa yn eich helpu chi i wneud cynnydd?

Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd Duw . . . yn cwblhau eich hyfforddiant. Bydd ef yn eich gwneud chi’n gadarn, bydd ef yn eich gwneud chi’n gryf, bydd ef yn eich gosod chi ar sylfaen gadarn.” (1 Pedr 5:10) Rydyn ni i gyd yn cael ein temtio o bryd i’w gilydd. Ond mae Jehofa yn ein helpu ni i aros yn gryf yn wyneb temtasiwn. (Salm 139:​23, 24) Mae’n addo rhoi ichi’r dymuniad a’r grym i’w wasanaethu’n ffyddlon.​—Darllenwch Philipiaid 2:​13.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch sut gallwch chi ddal ati i wneud cynnydd a sut bydd Jehofa yn eich bendithio.

4. Daliwch ati i gyfathrebu â’ch Ffrind gorau

Mae gweddïo ac astudio’r Beibl wedi eich helpu i ddod yn ffrind i Jehofa. Sut gall y pethau hyn eich helpu chi i ddod yn agosach ato?

Darllenwch Salm 62:​8, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Er mwyn cryfhau eich perthynas â Jehofa, sut gallwch chi wella eich gweddïau?

Darllenwch Salm 1:​2, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Er mwyn cryfhau eich perthynas â Jehofa, sut gallwch chi elwa’n fwy o ddarllen y Beibl?

Sut gallwch chi wella eich astudiaeth bersonol o’r Beibl? I gael syniadau, gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

  • Pa awgrymiadau yn y fideo gallwch chi eu rhoi ar waith?

  • Pa bynciau hoffech chi eu hastudio?

5. Gosodwch amcanion ysbrydol

Bydd gosod amcanion yng ngwasanaeth Jehofa yn eich helpu chi i ddal ati i wneud cynnydd. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.

  • Yn y fideo, sut roedd gosod amcanion ysbrydol yn helpu Cameron?

Nid pawb sy’n gallu symud i wlad arall er mwyn pregethu. Ond gallwn ni i gyd osod amcanion rhesymol. Darllenwch Diarhebion 21:​5, ac yna ystyriwch pa amcanion hoffech chi eu gosod . . .

  • yn y gynulleidfa.

  • yn y weinidogaeth.

Sut gall yr egwyddor yn yr adnod hon eich helpu chi i gyrraedd eich amcanion?

Rhai amcanion i’w hystyried

  • Gwella ansawdd eich gweddïau.

  • Darllen y Beibl cyfan.

  • Dod i adnabod pawb yn y gynulleidfa.

  • Dechrau astudio’r Beibl gyda rhywun.

  • Arloesi’n gynorthwyol neu’n llawn amser.

  • Gweithio tuag at fod yn was y gynulleidfa os ydych chi’n frawd.

6. Mwynhewch fywyd am byth!

Darllenwch Salm 22:26 a Jeremeia 29:​11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Beth gallwch chi ei wneud i fwynhau bywyd nawr ac i gael dyfodol llawn gobaith?

CRYNODEB

Daliwch ati i gryfhau eich perthynas â Jehofa ac i osod amcanion ysbrydol. Yna gallwch chi fwynhau bywyd am byth!

Adolygu

  • Pam gallwch chi fod yn sicr y bydd Jehofa yn eich helpu i’w wasanaethu’n ffyddlon?

  • Sut gallwch chi gryfhau eich perthynas â Jehofa?

  • Sut gall gosod amcanion ysbrydol eich helpu chi i wneud cynnydd?

Nod Hirdymor

DARGANFOD MWY

Beth sydd mwyaf gwerthfawr i Jehofa, un weithred ddramatig i ddangos ein bod ni’n ei garu, neu oes o wasanaeth ffyddlon?

Byddwch yn Ffyddlon Fel Abraham (9:​20)

Gall hyd yn oed gweision ffyddlon Jehofa golli eu llawenydd. Gwelwch sut y gallwch ei gael yn ôl.

Astudio a Myfyrio er Mwyn Aildanio Eich Llawenydd (5:​25)

Pam mae’n bwysig inni ddod yn Gristnogion aeddfed, a sut gallwn ni wneud hyn?

“Bwria Ymlaen at Aeddfedrwydd​—‘Mae Dydd Barn yr ARGLWYDD yn Agos’” (Y Tŵr Gwylio, Mai 15, 2009)