Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Adolygu Rhan 4

Adolygu Rhan 4

Trafodwch y cwestiynau canlynol â’r un sy’n eich helpu chi i astudio’r Beibl:

  1. Darllenwch Diarhebion 13:20.

    • Pam mae’n bwysig ichi fod yn ddoeth wrth ddewis ffrindiau?

      (Gweler Gwers 48.)

  2. Pa gyngor yn y Beibl sy’n gallu eich helpu os ydych chi . . .

    • yn ŵr neu’n wraig?

    • yn rhiant neu’n blentyn?

      (Gweler Gwersi 49 a 50.)

  3. Pa fath o iaith sy’n plesio Jehofa? Pa fath o iaith sydd ddim yn ei blesio?

    (Gweler Gwers 51.)

  4. Pa egwyddorion yn y Beibl fydd yn eich helpu chi i ddewis gwisg a thrwsiad addas?

    (Gweler Gwers 52.)

  5. Sut gallwch chi ddewis adloniant sy’n plesio Jehofa?

    (Gweler Gwers 53.)

  6. Darllenwch Mathew 24:​45-​47.

    • Pwy yw’r “gwas ffyddlon a chall”?

      (Gweler Gwers 54.)

  7. Sut gallwch chi gefnogi’r gynulleidfa gan ddefnyddio eich amser, eich egni, a’ch eiddo?

    (Gweler Gwers 55.)

  8. Darllenwch Salm 133:1.

    • Sut gallwch chi gyfrannu at heddwch y gynulleidfa?

      (Gweler Gwers 56.)

  9. Os ydyn ni’n pechu’n ddifrifol, sut gallwn ni gael help Jehofa?

    (Gweler Gwers 57.)

  10. Darllenwch 1 Cronicl 28:9.

    • Pan fydd pobl yn gadael y gwir neu’n ein gwrthwynebu, sut gallwch chi ddangos eich bod chi’n ‘rhoi eich hun yn llwyr’ i Jehofa?

    • A oes angen ichi wneud newidiadau er mwyn aros yn ffyddlon i Jehofa a chadw draw o gau grefydd?

      (Gweler Gwers 58.)

  11. Sut gallwch chi baratoi ar gyfer erledigaeth?

    (Gweler Gwers 59.)

  12. Beth rydych chi’n bwriadu ei wneud er mwyn dal ati i wneud cynnydd ysbrydol?

    (Gweler Gwers 60.)