Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A Ydw i’n Barod?

A Ydw i’n Barod?

A Ydw i’n Barod i Bregethu Gyda’r Gynulleidfa?

Efallai y byddwch chi’n barod i fod yn gyhoeddwr difedydd os ydych chi . . .

  • Yn astudio’r Beibl yn rheolaidd, yn gweddïo, ac yn mynychu cyfarfodydd y gynulleidfa.

  • Yn gwerthfawrogi ac yn credu’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ac eisiau sôn wrth eraill amdano.

  • Yn caru Jehofa ac yn dewis eich ffrindiau agos o blith y rhai sydd yn ei garu hefyd.

  • Wedi tynnu eich enw oddi ar restrau aelodaeth unrhyw gau grefydd neu gyfundrefn wleidyddol.

  • Yn byw yn ôl safonau Jehofa ac eisiau bod yn un o Dystion Jehofa.

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n barod i bregethu gyda’r gynulleidfa, bydd yr un sy’n astudio’r Beibl gyda chi yn trefnu ichi gyfarfod â’r henuriaid i drafod sut gallwch chi fod yn gymwys.

A Ydw i’n Barod i Gael Fy Medyddio?

Efallai y byddwch chi’n barod i gael eich bedyddio os ydych chi . . .

  • Eisoes yn gyhoeddwr difedydd.

  • Yn gwneud yr hyn a allwch i gael rhan reolaidd yn y gwaith pregethu.

  • Yn cefnogi ac yn dilyn arweiniad y “gwas ffyddlon a chall.”—Mathew 24:45-47.

  • Wedi ymgysegru i Jehofa mewn gweddi ac eisiau ei wasanaethu am byth.

Os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n barod i gael eich bedyddio, bydd yr un sy’n astudio’r Beibl gyda chi yn trefnu ichi gyfarfod â’r henuriaid i drafod sut gallwch chi fod yn gymwys.