Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys


Sut i gael y budd mwyaf o’r gwersi hyn

Sut i gael y budd mwyaf o’r gwersi hyn

Cael cymorth i astudio: Gofynnwch am help i astudio’r Beibl gan y person a roddodd y llyfryn hwn ichi, neu cyflwynwch gais ar ein gwefan, jw.org/cy.

RHAN GYNTAF

Darllenwch bob paragraff, gan gynnwys y cwestiynau mewn print trwm (A) a’r adnodau (B) sy’n pwysleisio’r prif bwyntiau. Sylwch fod y gair “darllenwch” wrth ymyl rhai o’r adnodau.

RHAN GANOL

Yn Cloddio’n Ddyfnach fe welwch chi gyflwyniad byr (C) i’r hyn sy’n dilyn. Mae’r is-benawdau (Ch) yn rhoi braslun o’r drafodaeth. Darllenwch yr adnodau, atebwch y cwestiynau a gwyliwch y fideos (D).

Ystyriwch y lluniau a’r capsiynau (Dd), a meddyliwch am ateb ar gyfer yr adran Bydd Rhai yn Dweud (E).

RHAN OLAF

Mae Crynodeb ac Adolygu (F) yn cloi’r wers. Nodwch y dyddiad ichi gwblhau’r wers. Mae Nod (Ff) yn rhoi rhywbeth ichi weithio arno. Mae Darganfod Mwy (G) yn cynnwys gwybodaeth bellach i’w hystyried os dymunwch.

Sut i gael hyd i adnodau yn y Beibl

Mae’r cyfeiriadau at yr Ysgrythurau yn dangos llyfr o’r Beibl (A), y bennod (B), a’r adnod neu adnodau (C). Er enghraifft, mae Ioan 17:3 yn cyfeirio at lyfr Ioan, pennod 17, adnod 3.