Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 153

Rho Imi Ddewrder

Rho Imi Ddewrder

(2 Brenhinoedd 6:16)

  1. 1. Ofn sy’n dynn amdanaf,

    Nid wyf yn teimlo’n gryf.

    Ond fy arwain rwyt yn gyson,

    Yn agos rwyt o hyd.

    Anodd ydyw bywyd,

    Ond ildiaf byth i’r braw.

    Byth a beunydd, ffyddlon ydwyt,

    A thi sy’n dal fy llaw.

    (CYTGAN)

    Jehofa, plîs atgoffa fi

    O’th nerthol nefol lu.

    Nifer mawr sydd nawr yn ein herbyn,

    Ond mwy sydd gyda ni.

    Dewrder, rho im ddewrder,

    Rho imi galon lew.

    Ti biau’r fuddugoliaeth.

    Jehofa, gwna fi’n ddewr.

  2. 2. Ofn sydd yn fy nghalon,

    Mae ’nghoesau i yn wan.

    Ond tydi yw ’nghraig a’m noddfa,

    Wrth f’ochr rwyt bob cam.

    Atgyfnertha ’nghalon,

    A dal fy llaw yn dynn.

    Nid oes neb na dim yn gryfach

    Na’th gariad mawr a’th rym.

    (CYTGAN)

    Jehofa, plîs atgoffa fi

    O’th nerthol nefol lu.

    Nifer mawr sydd nawr yn ein herbyn,

    Ond mwy sydd gyda ni.

    Dewrder, rho im ddewrder,

    Rho imi galon lew.

    Ti biau’r fuddugoliaeth.

    Jehofa, gwna fi’n ddewr.

    (CYTGAN)

    Jehofa, plîs atgoffa fi

    O’th nerthol nefol lu.

    Nifer mawr sydd nawr yn ein herbyn,

    Ond mwy sydd gyda ni.

    Dewrder, rho im ddewrder,

    Rho imi galon lew.

    Ti biau’r fuddugoliaeth.

    Jehofa, gwna fi’n ddewr.

    Ti biau’r fuddugoliaeth.

    Jehofa, gwna fi’n ddewr.