CÂN 154
Cariad Diddarfod
1. Cofia’r munud hwn,
Cadwa’r awr hon ar gof,
Cofia’r cariad sydd yma nawr.
Dyma ffrindiau da,
Dyma gariad ar waith.
Dyma lle mae’r cariad go iawn.
(RHAG-GYTGAN)
Bydd cariad byth yn darfod.
Di-feth, diderfyn yw.
(CYTGAN)
Â’i gariad di-drai,
Ystyr rydd Ef i’n byw.
Duw, cariad yw.
Byw yw’n cariad triw,
Cariad diddiwedd yw.
Yn ein calon y mae,
Ac am byth gwna barhau.
Diddarfod yw.
2. Pwysau dwys a ddaw,
Digalondid, a braw,
Gall ein dyddiau droi yn ddi-liw.
Cofio cariad Duw,
Rhannu gobaith a ffydd,
Dyma sy’n ail-liwio ein byw.
(RHAG-GYTGAN)
Bydd cariad byth yn darfod.
Di-feth, diderfyn yw.
(CYTGAN)
Â’i gariad di-drai,
Ystyr rydd Ef i’n byw.
Duw, cariad yw.
Byw yw’n cariad triw,
Cariad diddiwedd yw.
Yn ein calon y mae,
Ac am byth gwna barhau.
(CYTGAN)
Â’i gariad di-drai,
Ystyr rydd Ef i’n byw.
Duw, cariad yw.
Byw yw’n cariad triw,
Cariad diddiwedd yw.
Yn ein calon y mae,
Ac am byth gwna barhau.
Diddarfod yw.
Diddarfod yw.
Diddarfod yw.