CÂN 156
Drwy Lygaid Ffydd
(Salm 27:13)
1. Pam ofni’r llew a’i ruo?
Beth allai dyn wneud i mi?
Yma gyda mi y mae
Jehofa yn ddi-baid,
Ac felly sefyll rwyf yn gryf.
(CYTGAN)
Drwy lygaid ffydd
dwi’n gweld tu hwnt i’r t’wyllwch.
Drwy lygaid ffydd
does dim i’m dychryn i.
Wrth fy ysgwydd mae fy Nuw
Ac iddo byddaf driw.
Gwelaf fod Jehofa
gyda mi—
Drwy lygaid ffydd.
2. Drwy ffydd gwnaeth y ffyddloniaid
Gadw’n gryf drwy’r oesoedd o’r blaen.
Drwy ffydd gwelsant o bell
Addewid bywyd gwell,
A sefyll eto wna y rhain.
(CYTGAN)
Drwy lygaid ffydd
dwi’n gweld tu hwnt i’r t’wyllwch.
Drwy lygaid ffydd
does dim i’m dychryn i.
Wrth fy ysgwydd mae fy Nuw
Ac iddo byddaf driw.
Gwelaf fod Jehofa
gyda mi—
Drwy lygaid ffydd.
(PONT)
Drwy lygaid ffydd
gallaf symud mynydd.
Drwy lygaid ffydd
dwi’n gweld yn glir.
Gwelaf tu draw
i’r her dwi’n ei
hwynebu nawr.
Mor sicr yw fy ngobaith i.
3. Gwelaf fy wych ddyfodol
A’i holl brydferthwch nawr.
Drwy ffydd byddaf gryf.
Yn bendant, cyn bo hir
Caiff Jehofa’i fuddugoliaeth fawr.
(CYTGAN)
Drwy lygaid ffydd
dwi’n gweld tu hwnt i’r t’wyllwch.
Drwy lygaid ffydd
does dim i’m dychryn i.
Wrth fy ysgwydd mae fy Nuw
Ac iddo byddaf driw.
Gwelaf fod Jehofa
gyda mi—
Drwy lygaid ffydd,
Drwy lygaid ffydd.
(Gweler hefyd Heb. 11:1-40.)