Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol

Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol

Annwyl Frodyr a Chwiorydd:

Cariad at Dduw ac at bobl eraill yw’r rheswm ein bod ni’n ‘gwneud disgyblion o bobl o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio nhw.’ (Math. 28:​19, 20; Marc 12:​28-31) Mae cariad anhunanol yn bwerus iawn. Gall gyffwrdd â chalonnau pobl sydd “â’r agwedd gywir ar gyfer cael bywyd tragwyddol.”—Act. 13:48.

Yn y gorffennol, y pwyslais oedd ar ddysgu cyflwyniadau ar gof a gadael cyhoeddiadau. Nawr mae angen inni hogi ein sgiliau sgwrsio. Rydyn ni eisiau dangos cariad at eraill drwy siarad am bynciau sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Mae hyn yn gofyn inni fod yn hyblyg ac ystyried pryderon a diddordebau pob unigolyn. Sut bydd y llyfryn hwn yn ein helpu?

Mae’r 12 gwers yn y llyfryn hwn yn tynnu sylw at rinweddau y mae angen inni eu meithrin er mwyn dangos cariad a gwneud disgyblion. Mae pob gwers yn edrych ar rinwedd benodol a ddangosodd Iesu, neu un o’i ddilynwyr, yn y weinidogaeth yn y ganrif gyntaf. Yn hytrach na cheisio dysgu cyflwyniadau ar ein cof, y nod yw chwilio am ffyrdd i ddangos cariad at bobl. Er bod pob rhinwedd yn bwysig yn y weinidogaeth, byddwn ni’n ystyried pam mae rhai yn arbennig o bwysig wrth ddechrau sgwrs, wrth alw’n ôl, neu wrth gynnal astudiaethau o’r Beibl.

Wrth ystyried pob gwers, meddyliwch am sut gallwch chi ddangos y rhinwedd honno mewn sgyrsiau gyda phobl yn eich cymunedau chi. Ceisiwch gryfhau eich cariad at Jehofa ac at bobl eraill, oherwydd, yn anad dim, dyna’r peth fydd yn eich helpu chi i wneud disgyblion.

Mae’n fraint inni weithio ysgwydd wrth ysgwydd â chi. (Seff. 3:9) Bydd Jehofa yn eich bendithio yn fawr wrth ichi barhau i ddangos cariad at eraill a gwneud disgyblion!

Eich brodyr,

Corff Llywodraethol Tystion Jehofa