Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

DECHRAU SGWRS

GWERS 1

Dangos Diddordeb

Dangos Diddordeb

Egwyddor: “[Gofalwch] nid yn unig am eich lles eich hunain, ond hefyd am les pobl eraill.” —Phil. 2:4.

Esiampl Iesu

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Ioan 4:​6-9. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1.    Beth sylwodd Iesu arno am y ddynes cyn iddo ddechrau sgwrs?

  2.   Dywedodd Iesu: “Rho ddiod imi.” Pam roedd hyn yn ffordd effeithiol o ddechrau sgwrs?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Rydyn ni’n fwy tebygol o gael sgwrs dda os ydyn ni’n dechrau gyda phwnc sydd o ddiddordeb i’r person arall.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Bydda’n hyblyg. Yn lle mynnu sgwrsio am rywbeth sydd ar dy feddwl di, dechreua gyda rhywbeth y mae pobl eraill yn meddwl amdano. Gofynna i ti dy hun:

  1.    ‘Beth sydd ar y newyddion?’

  2.   ‘Beth mae pobl yn y gymuned, yn y gwaith, neu yn yr ysgol yn siarad amdano?’

4. Sylwa ar yr hyn sydd o dy gwmpas. Gofynna i ti dy hun:

  1.    ‘Beth mae’r person yn ei wneud? Beth, efallai, sydd ar ei feddwl?’

  2.   ‘Beth rydw i’n ei ddysgu am ddaliadau neu ddiwylliant y person drwy edrych ar ei ddillad, ei olwg, a’i gartref?’

  3.   ‘A yw’n gyfleus i’r person siarad?’

5. Gwranda.

  1.    Paid â siarad gormod.

  2.   Ceisia annog y person arall i’w fynegi ei hun. Gofynna gwestiynau pan fydd hynny’n addas.