Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

DECHRAU SGWRS

GWERS 2

Naturioldeb

Naturioldeb

Egwyddor: “Mor dda ydy gair yn ei bryd!”—Diar. 15:23.

Esiampl Philip

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Actau 8:​30, 31. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1.    Sut dechreuodd Philip y sgwrs?

  2.   Pam roedd hyn yn ffordd naturiol o ddechrau sgwrs a dysgu rhywbeth newydd i’r dyn?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Philip?

2. Os ydyn ni’n gadael i’r sgwrs lifo’n naturiol, mae’n debyg bydd y person yn teimlo’n gyfforddus ac yn fodlon trafod ein neges.

Dilyna Esiampl Philip

3. Sylwa ar yr hyn sydd o dy gwmpas. Mae’r olwg ar wyneb rhywun ac iaith ei gorff yn dweud llawer wrthon ni. Ydy’r person i’w weld yn fodlon siarad? Fe allet ti ddechrau sgwrsio am rywbeth yn y Beibl drwy ofyn, “Oeddech chi’n gwybod bod . . . ?” Paid â gorfodi rhywun i siarad os nad yw’n fodlon.

4. Bydda’n amyneddgar. Paid â meddwl dy fod ti’n gorfod dechrau sôn am y Beibl yn syth. Arhosa am gyfle i gyflwyno’r pwnc yn naturiol. Weithiau bydd hynny’n golygu aros tan y sgwrs nesaf.

5. Bydda’n hyblyg. Efallai bydd sgwrs yn mynd i gyfeiriad annisgwyl. Felly bydda’n fodlon rhannu rhywbeth sy’n berthnasol i’r person, hyd yn oed os bydd hynny’n golygu trafod rhywbeth gwahanol i’r pwnc oedd ar dy feddwl di.

GWELER HEFYD