Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

DECHRAU SGWRS

GWERS 3

Caredigrwydd

Caredigrwydd

Egwyddor: ‘Mae cariad yn garedig.’—1 Cor. 13:4.

Esiampl Iesu

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Ioan 9:​1-7. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1.    Beth wnaeth Iesu yn gyntaf—iacháu’r dyn dall neu sôn wrtho am y newyddion da?—Gweler Ioan 9:​35-38.

  2.   Pam rwyt ti’n meddwl bod y dyn yn fodlon gwrando ar Iesu?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Bydd rhywun yn fwy tebygol o wrando ar ein neges os yw’n teimlo bod gynnon ni ddiddordeb ynddo.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Dangosa gydymdeimlad. Ceisia ddychmygu sut mae’r person yn teimlo.

  1.    Gofynna i ti dy hun: ‘Beth sy’n ei boeni? Beth fyddai’n apelio ato neu’n ei helpu?’ Bydd gwneud hyn yn dy helpu di i fod yn garedig mewn ffordd naturiol a diffuant.

  2.   Gwranda arno. Drwy wneud hyn rwyt ti’n dangos bod ei bryderon yn bwysig i ti. Os bydd rhywun yn sôn am ei deimladau neu am un o’i broblemau, paid â newid pwnc y sgwrs.

4. Siarada yn garedig a dangosa barch. Pan wyt ti’n teimlo dros rywun ac eisiau ei helpu, bydd hynny’n dangos yn y ffordd rwyt ti’n siarad. Dewisa dy eiriau a thôn dy lais yn ofalus, a phaid â dweud pethau a allai pechu rhywun.

5. Bydda’n barod dy gymwynas. Chwilia am gyfle i helpu’r person mewn ffyrdd ymarferol. Gall caredigrwydd agor y drws i sgwrs.