Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

DECHRAU SGWRS

GWERS 4

Gostyngeiddrwydd

Gostyngeiddrwydd

Egwyddor: “Gyda gostyngeiddrwydd ystyriwch bobl eraill yn uwch na chi.”—Phil. 2:3.

Esiampl Paul

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Actau 26:​2, 3. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1.    Sut dangosodd Paul ei fod yn ostyngedig wrth siarad â’r Brenin Agripa?

  2.   Sut gwnaeth Paul dynnu sylw at Jehofa a’r Ysgrythurau yn hytrach nag ato ef ei hun?—Gweler Actau 26:22.

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Paul?

2. Mae siarad yn barchus a bod yn ostyngedig yn gwneud y neges yn fwy apelgar.

Dilyna Esiampl Paul

3. Paid â bychanu pobl. Paid â rhoi’r argraff dy fod ti’n gwybod y cwbl ac nad yw’r person arall yn gwybod dim byd. Dangosa barch at ei safbwynt.

4. Esbonia fod y gwirioneddau rwyt ti’n eu rhannu yn dod o’r Beibl. Mae Gair Duw yn cynnwys syniadau sy’n cyffwrdd â chalonnau. Drwy ei ddefnyddio, rydyn ni’n adeiladu ffydd y person ar y sylfaen iawn.

5. Paid â chynhyrfu. Paid â mynnu gwneud pwynt. Dydyn ni ddim eisiau dadlau. Dangosa dy fod ti’n ostyngedig drwy aros yn dawel a thrwy wybod pryd i adael. (Diar. 17:14; Titus 3:2) Os ydyn ni’n siarad yn addfwyn efallai bydd y person yn fodlon gwrando ar ein neges yn y dyfodol.