PARHAU Â’R SGWRS
GWERS 7
Dyfalbarhad
Egwyddor: “Wnaethon nhw ddim stopio dysgu a chyhoeddi’r newyddion da.”—Actau 5:42.
Esiampl Paul
1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Actau 19:8-10. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:
Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Paul?
2. Mae angen inni dreulio amser a gwneud ymdrech i alw’n ôl ac i ddechrau astudiaethau Beiblaidd.
Dilyna Esiampl Paul
3. Galwa’n ôl ar adeg sy’n gyfleus i’r person arall. Gofynna i ti dy hun: ‘Pryd mae’r person yn debyg o fod ar gael? Pryd a lle bydd ganddo’r amser i siarad?’ Bydda’n fodlon galw yn ôl, hyd yn oed ar adeg sydd heb fod yn gyfleus iawn i ti.
4. Gwna drefniadau. Ar ddiwedd pob sgwrs, ceisia drefnu amser penodol ichi gael sgwrs arall. Cofia gadw dy air.
5. Arhosa yn obeithiol. Paid â bod yn gyflym i feddwl bod rhywun sydd yn aml oddi gartref neu’n brysur wedi colli diddordeb. (1 Cor. 13:4, 7) Dal ati i geisio cysylltu â’r person, ond cofia hefyd fod angen defnyddio dy amser yn gall.—1 Cor. 9:26.