Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

PARHAU Â’R SGWRS

GWERS 8

Amynedd

Amynedd

Egwyddor: “Mae cariad yn amyneddgar.” —1 Cor. 13:4.

Esiampl Iesu

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Ioan 7:​3-5 a 1 Corinthiaid 15:​3, 4, 7. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1.    Beth oedd ymateb brodyr Iesu i’w neges ar y dechrau?

  2.   Beth sy’n dangos bod Iesu wedi parhau i geisio helpu ei frawd Iago?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Mae angen inni fod yn amyneddgar gan fod rhai yn cymryd mwy o amser i dderbyn y newyddion da.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Ceisia fynd ati mewn ffordd arall. Os nad yw’r person yn fodlon astudio’r Beibl yn syth, paid â rhoi pwysau arno. Pan gei di gyfle addas, defnyddia fideos neu erthyglau i’w helpu i ddeall beth sy’n digwydd yn ystod astudiaeth Feiblaidd a sut byddai astudio yn ei helpu.

4. Paid â chymharu. Mae pob person yn unigryw. Os bydd aelod teulu neu rywun yn y weinidogaeth yn dal yn ôl rhag astudio’r Beibl, neu rhag derbyn beth mae’r Beibl yn ei ddweud, ceisia ddeall pam. Oes ganddo gysylltiad emosiynol â rhyw syniad crefyddol arbennig? Ydy’r teulu neu’r cymdogion yn rhoi pwysau arno? Rho amser iddo feddwl am y peth a dod i werthfawrogi geiriau’r Beibl.

5. Gweddïa dros y person. Gofynna i Jehofa am help i aros yn obeithiol ac i fod yn sensitif ac yn garedig. Gweddïa am ddoethineb er mwyn gwybod pryd i stopio galw ar rywun sydd wedi colli diddordeb. —1 Cor. 9:26.